ADOLYGIAD RHEOLAETH YSGOLION
SCHOOL MANAGEMENT REVIEW
Hanner tymor yma gofynnwn i chi roi sylw i’r elfen “Presenoldeb Ysgolion” ar yr Adolygiad Rheolaeth Ysgolion, os gwelwch yn dda (erbyn 19.12.22). Bydd hyn yn ein galluogi i adnabod ble mae ysgolion angen cefnogaeth:
Diogelu
Presenoldeb Ysgolion
Dewiswch un o’r canlynol: Arbennig, Da, Digonol, neu Blaenoriaeth ar gyfer gwella
Cysylltwch â GwennoLloydJones@gwynedd.llyw.cymru os oes gennych unrhyw anhawster gyda chael mynediad.
DIGWYDDIADAU ARGYFWNG
Bydd arweiniad yn cael ei roi ar y Weithdrefn Argyfwng ar gyfer Digwyddiadau Critigol yn ein sesiwn Anwytho/Ail-gyfarwyddo Penaethiaid ar 17.11.22 am 12.30-1.30. Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol, anfonwch nhw ymlaen at OsianThomas@ynysmon.llyw.cymru erbyn 14.11.22.
YMWELIADAU IECHYD A DIOGELWCH
Mae’r Adran Iechyd a Diogelwch yn ail-gydio â’r ymweliadau i ysgolion eleni i wirio trefniadau a phrosesau, a chynnig arweiniad a chefnogaeth ble’n briodol. Os nad ydych wedi ymateb i e-bost Kimberley Jones (Swyddog Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol Cynorthwyol dan Hyfforddiant) yn ôl ym mis Medi i drefnu ymweliad, gofynnwn i chi cysylltu â hi cyn gynted â phosib ar KimberleyJones2@ynysmon.llyw.cymru
RHAGLEN DATBLYGU LLYWODRAETHWYR
Gofynwn i chi sicrhau bod gan bob llywodraethwr gyfrif Hwb ac mai'r cyfrif hwn y maent yn ei ddefnyddio fel eu cyfrif llywodraethwr.
Dyma ein rhaglen datblygu a hyfforddi llywodraethwyr am weddill y tymor. Gwerthfawrogwn petaech yn atgoffa eich llywodraethwyr – mae angen iddynt glicio yma i gofrestru.
Noder mai cyfrifoldeb y corff llywodraethol yw cadw cofnod diweddar a chyfredol o’r holl hyfforddiant a gwblheir gan aelodau (mae’r rhain yn cynnwys sesiynau wyneb i wyneb a hyfforddiant ar-lein). Cofiwch bod yn rhaid i lywodraethwyr gwblhau hyfforddiant mandadol o fewn 12 mis o’u hapwyntio neu maent yn wynebu cael eu tynnu oddi ar y corff llywodraethol dros dro/yn barhaol. Mae’r cyrsiau mandadol hyn ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim ar ein gwefan - ceir rhagor o wybodaeth yma.
Rhwydwaith Cenedlaethol Celfyddydau ac Addysg
National Arts and Education Network
Sefydliad sy’n ceisio darparu hyfforddiant yn y celfyddydau mynegiannol i ymarferwyr addysg yw’r Rhwydwaith Cenedlaethol Celfyddydau ac Addysg, a gefnogir gan CLlLC a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Mae gan y Rhwydwaith fynediad at amrywiaeth o artistiaid medrus a phrofiadol ledled Cymru sydd â hanes da o ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel.
Rydym yn cydnabod bod ymarferwyr addysg yn dymuno rhoi’r celfyddydau mynegiannol ar waith yn effeithiol o fewn y cwricwlwm newydd, ond weithiau gallant fod yn brin o hyder mewn meysydd penodol. Felly rydym yn llunio rhaglen o hyfforddiant ar gyfer 2023 er mwyn ateb i'r galw hwn.
Isod mae dolen gyswllt i holiadur byr am y mathau o gyrsiau a fyddai fwyaf defnyddiol ac sydd eu hangen fwyaf ar ymarferwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau addysgol. Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech gwblhau’r holiadur hwn er mwyn i ni gael darlun gwell o’r pynciau fyddai orau i ni eu cynnwys yn ein cyrsiau.
The National Arts & Education Network, supported by the WLGA and Arts Council of Wales, is an organisation that seeks to provide training in the expressive arts to education practitioners.
The Network has access to a range of skilled and experienced artists across Wales with a track record of delivering high quality training.
We recognise that education practitioners wish to effectively implement the expressive arts within the new curriculum but can sometimes lack confidence in particular areas. We are, therefore putting together a programme of training for 2023 to meet this demand.
Below is a link to a short questionnaire about the types of courses that would be most useful and that are most needed for practitioners working in educational settings. We would appreciate it if you could complete this questionnaire so that we can get a better picture of the topics that would be best for us to include in our courses.
Gwahoddiad
Invitation
Cawsom ddigwyddiad yn ôl ym mis Mawrth yn Storiel, Bangor lle buom yn lansio ein ap AiDi a cherdyn adnabod sy'n cefnogi gofalwyr ifanc. Rydym am gynnal digwyddiad yn M-Sparc, Gaerwen ar yr 24/11/22, sef diwrnod cenedlaethol hawliau gofalwyr.
Rydym yn cynnal y digwyddiad hwn i ddathlu'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi ein gofalwyr ifanc yng Ngwynedd a Môn.
Dyma rhai o’r adnoddau sydd ar gael ers mis Mawrth:
Mae dros 30 o gwmnïau lleol yn cynnig disgownt i ofalwyr ifanc ar ddangos eu cerdyn adnabod
Mae Byw yn Iach yn cynnig nofio am ddim i ofalwyr ifanc a ffrind ar ddangos eu cerdyn adnabod
Mae'r ap AiDi ar gael i’w ddefnyddio mewn ysgolion
Cefnogaeth helaeth sy'n cael ei gynnig gan Gweithredu dros Blant, yn cynnwys cwnsela ac ysbaid i ofalwyr ifanc
Mae’r wefan www.aidi.cymru <http://www.aidi.cymru> nawr yn fyw, lle gall ysgolion, rhieni a gofalwyr ifanc fynd am gefnogaeth ac i archebu'r cerdyn ac ap
Mae gweithdai ysgolion i addysgu a chodi ymwybyddiaeth ar fin dechrau (uwchradd a chynradd)
Byddwn hefyd yn gweithio ar ddogfen gyda Cread ynglŷn â bywydau gofalwyr ifanc.
Bydd disgyblion o ysgolion lleol, cwmnïau sy'n cymryd rhan, cynghorwyr a mwy yno gyda ni ar y diwrnod.
Bydd cyflwyniadau, cyfleoedd i rhwydweithio a lluniaeth ysgafn ar gael yno.
Hoffwn estyn gwahoddiad cynnes iawn i chi ymuno â ni ar y diwrnod.
Edrychaf ymlaen at glywed yn ôl gennych.
Cwpan y Byd FAW yn yr Ysgol
FAW World Cup at School
Annwyl Ysgolion Cymru
Bydd disgyblion Cymru wedi eu cyffroi i weld Cymru yng Nghwpan y Byd Qatar, 2022! A ninnau ar drothwy’r gystadleuaeth, dyma gyhoeddi gwledd o adnoddau addysgol ar gyfer ysgolion Cymru. Mae Adran Addysg BBC Cymru mewn cydweithrediad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cynhyrchu pecynnau addysgol i athrawon eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth yn ystod Cwpan y Byd a thu hwnt.
Cyfres o weithgareddau yw’r pecynnau sy’n addas ar gyfer disgyblion ysgol gynradd a disgyblion ym mlynyddoedd 7-9 yr ysgol uwchradd. Mae’r gweithgareddau wedi cael eu grwpio yn fras i Flynyddoedd 1 a 2, Blynyddoedd 3 a 4 a Blynyddoedd 5 a 6. Mae hyblygrwydd o fewn yr adnoddau i’w haddasu ar gyfer pob disgybl ar eu llwybr dysgu.
Mae’r gweithgareddau wedi cael eu datblygu gydag athrawon ac i fod yn gyson gyda’r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnig cyfleoedd i ddatblygu’r pedwar diben o ran y cynnwys a’r profiadau. Yn ogystal â bod yn weithgareddau cyflawn i’w cyflwyno i’r dosbarth, mae yna gyfle hefyd i athrawon a disgyblion i ddatblygu syniadau pellach.
Rydym yn annog ysgolion i gyhoeddi eu gwaith ar eu cyfrifon cymdeithasol er mwyn i BBC Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru allu dangos yr holl gefnogaeth, y gwaith a’r cyffro mewn ysgolion ledled Cymru. Defnyddiwch #WorldCupatSchool and #CymruFootballFriday er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’ch gwaith gael ei weld gan dîm Cymru!
Mae presenoldeb cyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958 yn ddigwyddiad hanesyddol a chyffrous i holl ddisgyblion Cymru a dyma gyfle i danio’u dychymyg a’u creadigrwydd. Bydd y gweithgareddau hyn yn ychwanegu at gyffro Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd ac yn rhoi cyfle pellach i ddisgyblion i ymfalchïo yn eu gwlad. Hyderwn bydd yr adnoddau yn parhau i fod yn berthnasol ac o ddefnydd i athrawon ymhell wedi’r chwiban olaf yn Qatar 2022.
Mae’r adnoddau ar gael ar BBC Bitesize bbc.co.uk/pecyncwpanybydcymru
Mwynhewch a phob lwc Cymru!
Dear Schools in Wales
Pupils throughout Wales will be excited to see Wales at the 2022 World Cup in Qatar! In the run-up to the tournament, we’ve launched a host of educational resources for Welsh schools. BBC Cymru Wales’ Education Department, in collaboration with the Football Association of Wales, have produced educational packs for teachers to use in the classroom during the World Cup and beyond.
The packs include a series of activities suitable for primary school pupils and secondary school pupils in years 7-9. The activities have been broadly grouped as follows: Years 1 and 2, Years 3 and 4, and Years 5 and 6. The resources are flexible so they can be adapted for each pupil on their learning pathway.
The activities have been developed in collaboration with teachers to accompany the Curriculum for Wales, providing opportunities to develop the four purposes in terms of content and experiences. As well as providing specific activities for the class, there is also an opportunity for teachers and pupils to develop further ideas of their own.
We encourage schools to publish their work on their social media accounts so that BBC Cymru Wales and the Football Association of Wales can see all the support, work and excitement in schools across Wales. Use the hashtag #Worldcupatschool and #CymruFootballFriday to give your work the best chance to be seen by the Wales team.
Wales’ first presence at the World Cup since 1958 is a historic and exciting event for all pupils in Wales and this is an opportunity to fuel their imagination and boost their creativity. These activities will add to the excitement of Wales reaching the World Cup and give pupils a further opportunity to be proud of their country. The resources will continue to be relevant and useful to teachers long after the final whistle blows in Qatar 2022.
They can be found on BBC Bitesize bbc.co.uk/walesworldcuppack
Enjoy and good luck Wales!
Llwyfan ar gael i unrhyw ysgol
Stage available to any school
Mae gennym lwyfan yma ar gael i unrhyw ysgol sy'n fodlon dod i’w chasglu. Yn y llun (linc uchod) gwelwch ddwy ran o’r 4 rhan sydd ar gael. Maent yn plygu fel eich bod yn gallu eu rholio o un lle i’r llall. Mae dwy set o risiau ar gael hefyd.
Os ydych yn dymuno ei chael i’ch ysgol yna cysylltwch fel ein bod yn gallu gwneud trefniadau ar gyfer ei chasglu.
Nodyn i’ch hysbysu bod cais am wybodaeth/holiadur ar y ffordd at eich sylw i gasglu gwybodaeth ac adborth gennych parthed casglu gwastraff o’ch gwasanaethau (rhyw 4 ochr A4 fydd yr holiadur).
Bydd yr holiadur yn gofyn am:
· Fanylion cyswllt cyfredol
· Adolygu a chadarnhau gwybodaeth bresennol
· Adborth am y drefn casglu gwastraff blaenorol
· Sylwadau am gasglu gwastraff i’r dyfodol
Bydd yr wybodaeth yn ein cynorthwyo yn y broses o gynllunio ar gyfer ail-dendro’r gwasanaeth gwastraff y flwyddyn nesaf.
Rhagwelir y bydd yr holiadur yn eich cyrraedd yn ystod yr wythnos yn cychwyn 14-11-22, gyda dyddiad cau ddiwedd mis Tachwedd.
Byddem yn falch iawn o’ch cymorth gyda hyn.
Ethol Rhiant-Lywodraethwyr
Electing Parent Governors
Hoffwn eich atgoffa bod yn rhaid hysbysu rhieni’r holl ddisgyblion sydd ar gofrestr yr ysgol o unrhyw swydd wag ar gyfer rhiant-lywodraethwyr, yr angen am etholiad, eu hawl i sefyll i gael eu hethol ac i bleidleisio dros ymgeisydd o’u dewis. Ceir rhagor o wybodaeth yma. Cofiwch hefyd bod angen cynnwys y rhestr ddiweddaraf o’ch llywodraethwyr yn yr Adroddiad Blynyddol i Rieni (mae’r fersiwn cryno i fod i gynnwys trefniadau ar gyfer unrhyw etholiadau).
Trwyddedau Teledu Cynradd
Primary Television Licences
Yn dilyn derbyn ymholiadau ynglŷn â thrwyddedau teledu, gallaf gadarnhau bod yr ysgolion cynradd wedi talu am drwyddedau ar gyfer eleni hyd at 31.08.2023. Gweler y dudalen hon am ragor o wybodaeth Schools and colleges - TV Licensing ™.
Llythyr i Benaethiaid – Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb
Letter to Headteachers – Relationships and Sexuality Education
Yn atodedig mae llythyr i fynd at bob pennaeth yng Nghymru. Byddwn yn ddiolchgar pe byddai Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dosbarthu trwy’r sianeli arferol. Byddwn hefyd yn cynnwys copi o’r llythyr yn Dysg a thrwy Hwb.
Please find enclosed a letter for all Headteachers in Wales. I’d be grateful if ADEW and the WLGA could arrange distribution through the usual channels. We will also be including a copy of the letter in Dysg and issuing via Hwb.
Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru
Wales Farm Safety Partnership
Rwy'n cysylltu â chi yn rhinwedd fy swydd fel Cydlynydd Iechyd a Diogelwch Cymru gyda Phartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru. Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn gydweithrediad rhwng rhai o sefydliadau rhanddeiliad amaethyddol allweddol Cymru, fel CFfI Cymru, NFU, FUW, CLA, Sioe Frenhinol, RABI, HCC, Llywodraeth Cymru.
Mae ymgyrch i wella diogelwch ar ffermydd Cymru yn cynnwys creu adnoddau i ysgolion, ac rydym wedi creu fideo (un Cymraeg ac un Saesneg) ar gyfer plant ifanc ac rydym bron a gorffen creu llyfryn (dwyieithog) diogelwch fferm i blant (un i oedran 4 i 7 a'r llall o 7 i 11). Rydym yn gobeithio ei lansio yn y Ffair Aeaf eleni.
Linc i fideo plant yn Gymraeg:
Linc i fideo plant yn Saesneg:
https://www.youtube.com/watch?v=a-PvHJXtQEg
Y cam nesaf i ni fel Partneriaeth yw danfon i bob ysgol gynradd wledig. Beth fyddai hyn yn ei olygu i chi fel sir? Sawl ysgol gynradd sydd yn eich sir? Sawl copi o’r llyfryn byddai angen arnoch chi? Byddech chi'n gallu danfon at bob ysgol?
Wir hyderaf y gallwch chi fel Adran Addysg y sir gefnogi'r ymgyrch hwn.
Plîs cysylltwch am fwy o wybodaeth.
Meleri Jones
Cydlynydd Iechyd a Diogelwch
Cefnogi ffermwyr Cymru i addasu a ffynnu
Menter a Busnes, Uned 3, Y Parc Gwyddoniaeth
Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH
Rhif symudol 07375 076 444
I am contacting you as the Health and Safety Coordinator for Wales Farm Safety Partnership. Wales Farm Safety Partnership is a collaboration of the key agricultural stakeholders in Wales, for example, NFU Wales, FUW, CLA, Wales YFC, Merched y Wawr, RWAS, RABI, HCC and the Welsh Government working together to make farming safer.
One of our campaigns is child safety on farms and we are currently creating resources to promote this campaign. We have created videos - see links below. We are currently finalising a booklet (one for 4-7 year olds and one for 7-11 years old) to be launched at this year's Winter Fair.
Welsh version
English version
https://www.youtube.com/watch?v=a-PvHJXtQEg
The next step for us would be to send these booklets to all rural schools within your county. How many schools do you have? How many copies of the booklet would you need? Could you send them to all the relevant schools?
We really do hope that you as a county can support us with this very important campaign.
Please contact for further details.
Meleri Jones
Health and Safety Coordinator
Supporting Welsh farmers to adopt and thrive
Menter a Busnes, Uned 3, Y Parc Gwyddoniaeth
Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH
Mobile number 07375 076 444
Cynhadledd y Prifathrawon 2022-23, ar gyfer Penaethiaid ac Uwch Arweinwyr Enwebedig
Head Teachers Conference 2022-23. For Head Teachers and Nominated Senior Leaders
Dim ond 7 diwrnod sydd ar ôl i archebu eich lle. Cynhadledd y Prifathrawon 2022-23, ar gyfer Penaethiaid ac Uwch Arweinwyr Enwebedig
Digwyddiad am ddim, archebwch eich lle i osgoi siom.
Ar gyfer penaethiaid ac/neu uwch arweinwyr enwebedig.
Cynhadledd y Prifathrawon 2022-23: Arweinyddiaeth Tosturiol gyda siaradwr gwadd, yr Athro Michael West
Mae Gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion CAMH Gogledd Cymru yn falch i'ch croesawu i Venue Cymru, Llandudno ar ddydd Mercher y 23ain o Dachwedd. Bydd y Gynhadledd yn rhedeg rhwng 9.30 ac 13.00, darperir lluniaeth a chinio. Mae’n bleser gennym groesawu’r Athro Michael West i gyflwyno ar Arweinyddiaeth Dosturiol.
Gweler y poster ynghlwm ac archebwch eich lle heddiw drwy glicio ar yr atodiad i sicrhau eich presenoldeb Head Teachers Conference 2022-23 | tocyn.cymru (beta)
Mae Gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion CAMH Gogledd Cymru yn wasanaeth newydd ar gyfer pob ysgol yng ngogledd Cymru. Mae’r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth, ymgynghoriad a hyfforddiant i staff addysgol i allu ymateb i anghenion iechyd meddwl datblygol dysgwyr. Yn ychwanegol, mae’r gwasanaeth yn cyfrannu at weithrediad fframwaith y Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol ar draws cymuned yr ysgol.
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn, mae croeso i chi gysylltu â Gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion CAMH drwy anfon e-bost at: BCU.CAMHSSchoolsinReach@wales.nhs.uk
Only 7 days left to reserve your place. Head Teachers Conference 2022-23. For Head Teachers and Nominated Senior Leaders.
Free event, book your place to avoid disappointment.
For head teachers and/or nominated senior leaders.
Head Teachers Conference 2022-23: Compassionate Leadership with guest speaker Professor Michael West
The North Wales CAMH School In Reach Service are pleased to welcome you to Venue Cymru, Llandudno on Wednesday the 23rd of November. The event will run between 9.30 and 13.00, refreshments and lunch will be provided. We are delighted to welcome Professor Michael West to present on Compassionate Leadership.
See the attached poster and book today via the link to secure your place Head Teachers Conference 2022-23 | tocyn.cymru (beta)
The North Wales CAMH School In-Reach Service is a new service for all schools across North Wales. The service provides support, consultation and training for education staff to be able to respond to the emerging mental health needs of learners. Moreover, contributing to the implementation of the framework on embedding a Whole-School Approach to emotional and mental well-being across the school community.
For further information about this event please contact the North Wales CAMH School In-Reach Service by emailing: BCU.CAMHSSchoolsinReach@wales.nhs.uk
Eich Diweddariad Hanner Tymor gan Gymorth Addysg
Your Half Term Update from Education Support
Dathlu 30 Mlynedd o'r Lucy Faithfull Foundation: ein adroddiad blynyddol 2021/22
Celebrating 30 Years of The Lucy Faithfull Foundation: our 2021/22 annual report
Cynllun Dewisol Costau Byw
Discretionary Hardship Funding Scheme
Byddem yn ddiolchgar iawn petai ysgolion Môn yn cylchredeg yr wybodaeth a’r linc atodol o.g.y.dd. – e-byst i rieni, cyfryngau cymdeithasol ysgolion ac ati.
https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Trigolion/Budd-daliadau-a-grantiau/Cynllun-cymorth-costau-byw.aspx
Discretionary Hardship Funding Scheme
We would be very grateful if Anglesey schools could circulate the attached information and link please - emails to parents, school social media, etc.
https://www.anglesey.gov.wales/en/Residents/Benefits-and-grants/Cost-of-living-support-scheme.aspx