15.12.22
Gweledigaeth y Gwasanaeth Dysgu:
Yr Ynys Ddysg gyda Chymunedau sy’n Dysgu, Gwasanaeth Dysgu ac Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
Gweledigaeth y Gwasanaeth Dysgu:
Yr Ynys Ddysg gyda Chymunedau sy’n Dysgu, Gwasanaeth Dysgu ac Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
Cinio am Ddim i Flwyddyn 2
Yn dilyn y cyhoeddiad bod Blwyddyn 2 am fod yn derbyn cinio am ddim o fis Ionawr 2023, atodaf lythyrau i chi eu rhannu â rhieni Blwyddyn 2 a ffurflenni ar gyfer plant ag anghenion dietegol/alergedd. Gofynnaf yn garedig i chi rannu'r rhain cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda.
Bydd diweddariad yn digwydd ar SIMS yn yr wythnos gyntaf ym mis Ionawr, ac atodaf ganllawiau ar gyfer mewnbynnu meal patterns newydd fydd angen bod yn weithredol o’r 9fed o Ionawr ymlaen. Mae croeso i chi newid y rhain cyn y 9fed o Ionawr, ond bydd angen nodi’r dyddiad gweithredu fel y 9fed o Ionawr. Bydd Julie Burrows ar gael os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch gyda hyn. Os nad oes gennych gyfle i wneud hyn cyn y 9fed o Ionawr, gofynnaf i chi sicrhau bod hyn yn digwydd mor fuan â phosib ar ôl y dyddiad hwn.
Llungopïwyr / Argraffwyr
Dymunwn ganfod barn ein penaethiaid ar ddiddordeb unrhyw ysgolion ynom ni fel adran yn mynd allan i dendr mewn perthynas â llungopïwyr/argraffwyr ar ran ysgolion.
Os oes gennych ddiddordeb, a fyddech cystal â chysylltu â Gethin M Jones (GethinJones3@ynysmon.gov.uk) os gwelwch yn dda, fel y gallwn weld pa adborth a gawn.
Cinio am Ddim i Blant Blwyddyn 2
Bydd cinio am ddim ar gael i holl blant Blwyddyn 2 o fis Ionawr 2022 ymlaen. Bydd llythyrau'n cael eu rhannu gyda chi'n fuan, er mwyn gallu cyfathrebu’r neges hon gyda rhieni plant Blwyddyn 2.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau, cysylltwch â Gethin Jones gethinjones3@ynysmon.llyw.cymru neu Angharad Jones angharadjones@ynysmon.llyw.cymru.
Cynhadledd Bwyd a Hwyl
Food and Fun Conference
Gweler ynghlwm y cyflwyniadau o'r gynhadledd Bwyd a Hwyl a gynhaliwyd ychydig wythnosau yn ôl.
Mae ein ffilm animeiddiedig hefyd ar gael i'w gweld ar ein gwefan:
Dangoswyd fersiwn byrrach o fideo Gwasanaeth Chwarae Torfaen wedi'i gynhyrchu hefyd, gweler y fersiwn lawn yma:
Gwasanaeth Chwarae Torfaen Haf 2022 - YouTube
Gweler isod linc i elfennau eraill ein cyflwyniad, gan gynnwys neges gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:
Cynhadledd Llywodraeth Leol Cymru 2022.pptx
Llawer o ddiolch,
Tîm Bwyd a Hwyl WLGA
Please see attached the presentations from the Food and Fun conference held a few weeks ago.
Our animated film is also now available to view on our website:
We also showed a shortened version of a video Torfaen Play Service produced, please see the full version here:
Torfaen Play Service Summer 2022 - YouTube
Please find below a link to the other elements of our presentation, including a message from the Minister for Education and Welsh Language, Jeremy Miles:
WLGA Food and Fun Conference 2022.pptx
Many thanks,
The WLGA Food and Fun Team
Arolwg ADY
ALN Survey
Rydym yn gofyn i arweinwyr ysgol roi eu barn ar weithredu diwygio ADY yng Nghymru i lywio ein gwaith i gefnogi arweinwyr yn y maes hwn.
A fyddech cystal â chymryd pum munud i gwblhau'r arolwg ar-lein os gwelwch yn dda, a chofiwch rannu gyda'ch dirprwy benaethiaid, penaethiaid cynorthwyol a'ch cydlynydd ADY.
Dilynwch y ddolen gyswllt hon i gwblhau’r arolwg: ALN Survey (snapsurveys.com)
We are asking school leaders to give their views on the implementation of ALN reform in Wales to inform our work to support leaders in this area.
Please could you all take five minutes to complete
this online survey and remember to share with your deputy headteachers, assistant headteachers and ALNCo.
Please follow the link to complete the survey: ALN Survey (snapsurveys.com)
Arolwg Presenoldeb Ysgolion
School Attendance Survey
Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n adolygu ei chanllawiau ar bresenoldeb ysgol ac mae'n awyddus i gynnwys barn rhieni a gofalwyr yn y gwaith hwn. Gan weithio gyda Parentkind, hoffem glywed gan unrhyw rieni a gofalwyr sydd â phlentyn sydd yn cael trafferth â phresenoldeb ar hyn o bryd neu sydd wedi cael trafferthion yn y gorffennol, er mwyn i ni allu cefnogi pobl ifanc yn well.
Linc i'r arolwg isod, byddem yn ddiolchgar pe gallech gylchredeg hwn ymhlith eich cydweithwyr a'ch rhwydweithiau.
The Welsh Government is currently reviewing its guidance on school attendance and is keen to include the views of parents and carers in this work. Working with Parentkind, we would like to hear from any parents and carers with a child who currently has, or has previously had issues with poor attendance so that we can better support young people.
Link to the survey below, we would be grateful if you could circulate this amongst your colleagues and networks.
Polisi Mynediad Ysgolion Môn
Anglesey School Admissions Policy
Amgaeaf fersiwn drafft o'r Polisi Mynediad i Ysgolion (2024-25) ar gyfer Ynys Môn, sy'n cynnwys y trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer ysgolion lle mai'r Awdurdod Lleol yw'r awdurdod mynediad. Os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch y polisi, gofynnwn yn garedig i chi eu hanfon at AddysgEducation@ynysmon.llyw.cymru erbyn 23.01.23 os gwelwch yn dda.
Hefyd, nodwch bod Adroddiad Blynyddol Fforwm Mynediad Ysgolion Môn 2020-21 wedi ei gyhoeddi ar-lein ac ar gael yma.
Please find attached the draft School Admissions Policy (2024-25) for Anglesey, which includes the proposed admission arrangements for schools where the Local Authority is the admissions authority. Should you have any observations regarding this policy, please forward them to AddysgEducation@ynysmon.gov.uk by no later than 23.01.23.
Also, please note that the Annual Report for Anglesey’s School Admission Forum has been published online and is available here.
Ceisiadau Mynediad
Hoffwn eich atgoffa os oes unrhyw riant yn cysylltu â chi ynglŷn â gwneud cais i drosglwyddo eu plentyn/plant i’ch ysgol, ni ddylech roi unrhyw awgrym i’r rhiant ynglŷn â mynediad yn cael ei ganiatáu neu ei wrthod er mwyn sicrhau tegwch i bawb. Bydd rhaid iddynt wneud cais ar-lein ar wefan yr ALl, a chynnwys unrhyw wybodaeth briodol ar gyfer y cais. Mae ambell i sefyllfa wedi codi'n ddiweddar yn ymwneud â cheisiadau ar gyfer disgyblion sydd efallai'n “anodd eu lleoli”. Mae gennym oll ran i'w chwarae mewn sicrhau bod y plant hyn, yn arbennig y rhai mwyaf bregus, yn cael mynediad i ysgol addas cyn gynted ag y bo modd. Rydym yn datblygu protocol i dderbyn y plant hyn drwy gydweithio ag asiantaethau a sefydliadau perthnasol, gan gynnwys ysgolion, er mwyn cyrraedd penderfyniadau ar y cyd.
Polisïau a Dogfennau Diogelu Data Ysgolion - Pecyn Cam 5
Gweler ynghlwm bolisïau diogelu data newydd o dan Gam 5 fydd angen eu mabwysiadu:
Polisi E-Ddiogelwch Ysgolion
Polisi E-bost Staff Ysgolion
Polisi Cyfryngau Cymdeithasol Staff Ysgolion
Polisi Tynnu Lluniau i Bwrpas Cyhoeddusrwydd Ysgolion
Gofynwn eich bod yn nodi ar yr ARhY eich bod wedi mabwysiadu'r rhain yn ffurfiol erbyn 17 Chwefror 2023 os gwelwch yn dda. Noder bod donut Diogelu Data newydd ar yr ARhY bellach (gweler hwn o dan ‘Polisïau a Dogfennau’ ac yna ‘Polisïau a Dogfennau Allweddol Diogelu Data’. Gofynnaf yn garedig i chi sicrhau eich bod wedi nodi yn y donut newydd eich bod wedi mabwysiadu’r holl bolisïau diogelu data os gwelwch yn dda.
Gweler hefyd ddogfennau a templedi newydd i chi eu defnyddio:
Rhestr Wirio Polisïau Diogelu Data
Ffurflen Ganiatâd Data Personol (wedi ei diweddaru)
Taflen Tynnu a Defnyddio Lluniau neu Fideos o’ch Plentyn yn yr Ysgol: Eich Hawliau (i gyd-fynd â’r ffurflen ganiatâd)
Rhestr Termau, Diffiniadau a Deddfwriaeth Diogelu Data Ysgolion Dwyieithog (wedi ei diweddaru)
Dogfen Cyfnodau Cadw Ysgolion (wedi ei diweddaru)
Mae’r holl bolisïau a dogfennau ar gael ar y dudalen Diogelu Data ar feicrowefan y Gwasanaeth Dysgu: DiogeluData (google.com)
Ein Cynnig ar gyfer POB Ysgol
Our Blast Offer for ALL Schools
Yn dilyn llwyddiant ysgubol ein cynnig tocynnau am ddim i fynychu gemau T20 Morgannwg o dan lifoleuadau Gerddi Sophia yn ystod yr haf, rydym wrth ein boddau i gadarnhau y byddwn ni, unwaith eto eleni, yn gallu cynnig pecynnau tocynnau am ddim i grwpiau ysgol â hebryngwyr yn 2023.
Mae’r tair gêm dan sylw yng Nghaerdydd oll gyda’r nos, ac yn cael eu cynnal ar:
Nos Fercher, 7 Mehefin v Criced Surrey
Nos Fercher, 21 Mehefin v Gwlad yr Haf
Nos Wener, 23 Mehefin v Siarcod Sussex Sharks
Fel rhywun gwerthfawr sy’n cefnogi ein cymuned a’n mentrau ag ysgolion, mae’n bleser gennym gynnig cyfle i chi ragarchebu tocynnau i’ch disgyblion/staff fynychu un neu fwy o’r gemau hyn. Os hoffech chi ddod, anfonwch amcangyfrif o nifer y tocynnau y gallech chi fod am eu cael, at: schools@glamorgancricket.co.uk
Caiff gwybodaeth bellach ei hanfon atoch drwy e-bost yn y flwyddyn newydd, gyda chadarnhad o’r amserau dechrau a gwybodaeth arall am barcio, ac ati.
Edrychaf ymlaen at glywed gennych. Diolch yn fawr iawn i chi unwaith eto am eich cefnogaeth barhaus i Griced Morgannwg.
Following the huge success of our free ticket offer to attend Glamorgan’s floodlit T20 matches at Sophia Gardens last summer, we are delighted to be able to confirm that we will be able, once again, to offer free ticket packages for accompanied school groups in 2023.
The three matches in question at Cardiff are all evening games, and will take place on:
Wednesday, 7 June v Surrey Cricket
Wednesday, 21 June v Somerset
Friday, 23 June v Sussex Sharks
As a valued supporter of our community and school-based initiatives, we are pleased to offer you a chance to pre-book tickets for your pupils/staff to attend one, or more, of these games. If you would like to attend, please send an estimate of the number of tickets you may require to: schools@glamorgancricket.co.uk
Further information will be sent to you by email in the New Year with confirmation of start times and other information about parking etc.
I look forward to hearing from you and many thanks again for your continued support of Glamorgan Cricket.
Agor ysgolion yn ystod tywydd eithafol
Opening schools in extreme bad weather
Gweler uchod linc gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag agor ysgolion yn ystod tywydd eithafol / garw.
Please see above a link from the Welsh Government about opening schools in extreme bad weather.
Newyddlen Diogelu Data Ysgolion – Tymor yr Hydref 2022
Schools Data Protection Newsletter – Autumn Term 2022
Diweddariad Wythnosol CASPAR
CASPAR Weekly Update
Taliad Tanwydd Gaeaf Cefnogol Dŵr Cymru
Welsh Water Support Winter Fuel Payment
Safer Schools