15.02.23
Gweledigaeth y Gwasanaeth Dysgu:
Yr Ynys Ddysg gyda Chymunedau sy’n Dysgu, Gwasanaeth Dysgu ac Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
Gweledigaeth y Gwasanaeth Dysgu:
Yr Ynys Ddysg gyda Chymunedau sy’n Dysgu, Gwasanaeth Dysgu ac Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
**MFA - Cofiwch fod angen i ysgolion (pennaeth/pencampwr digidol) droi MFA ymlaen ar gyfer pob athro a chymhorthydd yn yr ysgol cyn y 3ydd o Fawrth.**
Archwilio dysgu a datblygiad proffesiynol penaethiaid yng Nghymru
Exploring the Professional Learning and Development of Headteachers in Wales
Rwy'n fyfyriwr PhD llawn amser yn astudio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd dan oruchwyliaeth Dr Mark Connolly a Dr Charlotte Brookfield.
Ysgrifennaf atoch i ofyn a fyddech cystal â llenwi arolwg ar-lein sy'n rhan o broject ymchwil ehangach ar y cyd â Llywodraeth Cymru (LlC), yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL) a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) er mwyn archwilio dysgu a datblygiad proffesiynol penaethiaid yng Nghymru.
Yn benodol, mae'r arolwg yn ceisio pennu safbwyntiau penaethiaid dros dro a phenaethiaid presennol yng Nghymru mewn perthynas â'r gwaith o ddiwygio'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth (2019) a sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol (2018).
Ni fydd yr arolwg ar-lein yn cymryd mwy na 10 munud i'w gwblhau ac mae'n ddienw. Rhoddwyd cymeradwyaeth foesegol i'r gwaith ymchwil hwn gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Gymdeithasol Prifysgol Caerdydd. Bydd yr holl ddata a gesglir yn cael ei storio'n ddiogel a'i ddinistrio ar ôl pum mlynedd.
Cliciwch y ddolen ganlynol i ddechrau'r arolwg:
https://socsi.qualtrics.com/jfe/form/SV_3adRk8rowRyp3yS
Gellir cwblhau’r arolwg yn Gymraeg neu'n Saesneg.
Os hoffech gyfrannu ymhellach at yr ymchwil hwn, rwyf hefyd am gyfweld â phenaethiaid presennol neu benaethiaid dros dro o amrywiaeth o leoliadau ledled Cymru. Gellir cynnal y cyfweliadau ar Zoom ac ni fyddant yn para mwy na 60 munud.
Cysylltwch â mi dros e-bost: ellisg5@caerdydd.ac.uk os hoffech gyfrannu.
Os hoffech gael gwybod mwy am yr astudiaeth, cysylltwch â mi ar y cyfeiriad e-bost isod. Diolch ymlaen llaw am eich cyfranogiad.
Dymuniadau gorau,
Gill Ellis M.A.
Prif Ymchwilydd
Ysgol Gwyddor Cymdeithas
Prifysgol Caerdydd
Goruchwylwyr PhD: Dr Mark Connolly. Ebost: Connollym4@caerdydd.ac.uk
Dr Charlotte Brookfield. Ebost: Brookfieldc@caerdydd.ac.uk
I am a full time PhD student studying at Cardiff University’s School of Social Sciences under the supervision of Dr Mark Connolly and Dr Charlotte Brookfield.
I am writing to ask if you would complete a short online survey which is part of a wider research project in collaboration with the Welsh Government (WG), the National Academy for Educational Leadership (NAEL) and the Economic and Social Research Council (ESRC) to explore the professional learning and development of headteachers in Wales.
Specifically, the survey seeks to ascertain the views of current and acting headteachers in Wales in relation to the revision of the Professional Teaching and Leadership Standards (2019) and the establishment of the National Academy for Educational Leadership (2018).
The online survey will take no longer than 10 minutes to complete and is anonymous. Ethical approval for this research has been granted by Cardiff University’s Social Research Ethics Committee. All data collected will be stored securely and destroyed after five years.
Please click on the following link to start the survey: https://socsi.qualtrics.com/jfe/form/SV_3adRk8rowRyp3yS
The survey can be completed in Welsh or English.
If you would like to contribute further to this research, I am also looking to interview current or acting headteachers from a variety of settings throughout Wales. The interviews can take place on Zoom and will last no longer than 60 minutes.
Please contact me via email: ellisg5@cardiff.ac.uk if you would like to contribute.
If you would like to find out more about the study, please contact me on the email address below. Thank you in advance for your participation.
Best Wishes
Gill Ellis M.A.
Lead Researcher
School of Social Science
Cardiff University
PhD Supervisors: Dr Mark Connolly
Email: Connollym4@cardiff.ac.uk
Dr Charlotte Brookfield Email: BrookfieldC@cardiff.ac.uk
Grant Cerdd Ynys Môn
Anglesey Music Grant
Mae Gwasanaeth Cerdd Gwynedd a Môn wedi cychwyn rhaglen Profiadau Cyntaf gydag ambell ysgol gynradd. Mae gwaith Llwybrau Cerddoriaeth yn yr uwchradd hefyd wedi cychwyn.
Byddwn yn cydweithio gyda'r gwasanaeth i ddatblygu'r rhaglen hon ar ôl y Pasg i gyflwyno Profiadau Cyntaf i fwy o ysgolion. Mae rhagor o fanylion am agweddau cerdd ysgolion yma:
Mae cyfle o hyd i gyllido gweithgareddau cerdd yn eich ysgol cyn ddiwedd y flwyddyn gyllidol hon, felly cysylltwch gyda Tudur Eames neu Owen Davies i drafod eich dymuniadau.
Tudur Eames : tudur@cerdd.com ,
Owen Davies: owendavies@ynysmon.llyw.cymru
Gwynedd and Môn Music Service has started the First Experiences programme with several primary schools. The Music Pathways programme has also begun in secondary schools.
We will be working with the service to develop this programme further after Easter, to deliver First Experiences to more schools. More details on the music aspects of schools can be found here:
There is still an opportunity to fund music activities at your school before the end of this financial year, so please contact Tudur Eames or Owen Davies to discuss your plans.
Tudur Eames : tudur@cerdd.com ,
Owen Davies: owendavies@ynysmon.llyw.cymru
Cyrsiau Hyfforddiant CYA Gwanwyn 2023
EVC Training Courses Spring 2023
Adnoddau Addysgol
Educational Resources
Cymorth i Deuluoedd - Dŵr Cymru
Support for Families - Welsh Water
Sesiwn Hyfforddiant Delio â Cheisiadau Gwybodaeth (gan Unigolion a'r Heddlu) a Rhannu Gwybodaeth Bersonol a Sensitif yn Ddiogel
Training Session Handling Information Requests (from Individuals and the Police) and Securely Sharing Personal and Sensitive Information
Bydd Elin Williams, y Swyddog Diogelu Data Ysgolion, yn cynnal sesiynau hyfforddiant ar gyfer staff ysgolion sy'n delio â ceisiadau am wybodaeth (gan unigolion- Subject Access Requests, a gan yr heddlu) ac ar gyfer staff sy'n rhannu gwybodaeth bersonol a sensitif.
Bydd y sesiynau'n mynd drwy’r materion canlynol:
sut i ddelio â chais am wybodaeth bersonol gan unigolion (y broses, disgwyliadau o ran amser, sut i dduo gwybodaeth allan, templedi i’w defnyddio, ayyb.)
sut i ddelio â chais am wybodaeth gan yr heddlu (y broses, cynnwys gweithdrefn rhannu gwybodaeth â'r heddlu ayyb.)
sut i rannu gwybodaeth bersonol a sensitif yn ddiogel (materion i’w hystyried, dulliau defnyddiol ayyb.)
sut i reoli cofnodion er mwyn lleoli gwybodaeth yn effeithiol (gan gynnwys Cyfnodau Cadw Cofnodion).
Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams ar:
ddydd Mercher, 1 Mawrth 2023, 3.00yh – 4.00yh.
dydd Gwener, 10 Mawrth 2023, 11.00yb – 12.00yh
Gofynnir bod unrhyw aelodau staff sydd eisiau mynychu un o’r sesiynau hyn yn cysylltu ag Elin ar ElinWilliams5@ynysmon.llyw.cymru os gwelwch yn dda er mwyn cadarnhau ac er mwyn derbyn dolen gyswllt i ymuno â’r sesiwn.
Schools Data Protection Officer, Elin Williams, will be running training sessions for school staff on handling information requests (from individuals - Subject Access Requests, and from the police) and for staff who share personal and sensitive information.
The sessions will cover the following issues:
how to handle a request for personal information from individuals (the process, time expectations, how to redact information, templates to use, etc.)
how to handle information requests from the police (the process, including the procedure for sharing information with the police, etc.)
how to securely share personal and sensitive information (issues to consider, useful tools, etc.)
how to manage records to locate information effectively (including Record Retention Schedule).
The sessions will take place via Microsoft Teams on:
Wednesday, 1 March 2023, 3.00pm – 4.00pm.
Friday, 10 March 2023, 11.00am – 12.00pm
If any members of staff wish to attend one of these sessions please contact Elin on ElinWilliams5@ynysmon.gov.cymru to confirm and to receive a link to join the session.
Gwobrau Heddychwyr Ifanc Cymru 2023 yn cael eu lansio heddiw!
Wales Young Peacemakers Awards 2023 launches today!
A hoffech chi i blant / pobl ifanc rydych yn gweithio â nhw gael eu cydnabod am eu cyfraniad i heddwch, cynaliadwyedd a chydraddoldeb yn rhan o ddigwyddiad rhyngwladol yng Nghymru?
Os felly, a wnewch chi eu hannog i ymgeisio am Wobrau Heddychwyr Ifanc 2023? Beth am eu hannog i wneud cais fel rhan o’u gwaith tuag at eich Eisteddfod ysgol?
Ar 6 Gorffennaf 2023 bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar y cyd ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnal Seremoni Gwobrwyo Heddychwyr Ifanc ar faes yr Eisteddfod lle bydd pobl ifanc yn derbyn tystysgrif a gwobr.
Estynnwn wahoddiad i blant a phobl ifanc (rhwng 5 a 25 oed) fynegi eu syniadau, eu teimladau a’u breuddwydion yn greadigol am sut medrwn greu byd mwy heddychlon, cyfiawn a chynaliadwy – trwy eiriau, celf neu'n ddigidol.
Gall pobl ifanc unigol neu grwpiau gyflwyno ceisiadau o dan y categorïau canlynol:
Heddychwr Ifanc y flwyddyn
Awdur Heddwch Ifanc y flwyddyn (2 gategori – i bobl ifanc cynradd ac uwchradd)
Artist Heddwch Ifanc y flwyddyn (2 gategori – i bobl ifanc cynradd ac uwchradd)
Dinesydd Byd-eang Ifanc y flwyddyn
Sefydliad Ieuenctid Heddwch y flwyddyn (ar gyfer sefydliadau ieuenctid mwy)
Mae hefyd yn dderbyniol i enwebu rhywun arall, gyda’u caniatâd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau eleni yw 12 Mehefin, 2023.
Gallwch weld disgrifiad mwy manwl am y categorïau, y telerau a’r amodau am y gwobrau yn ogystal â’r ffurflen gais yma.
Anfonwch eich ceisiadau at centre@wcia.org.uk.
Would you like children / young people you work with to be recognised for their contribution to peace, sustainability and equality at an international event in Wales?
If so, encourage them to enter this year’s Young Peacemakers Awards 2023! What about encouraging them to submit an entry as part of their work for your school Eisteddfod?
On 6th July 2023 the Welsh Centre for International Affairs (WCIA) and the Llangollen International Musical Eisteddfod will host a Young Peacemakers Awards Ceremony at the Eisteddfod where young people will receive a certificate and an award.
We invite children and young people (between 5 and 25 yrs old) to get creative and express their thoughts, feelings and dreams about how the world can be a more peaceful, equitable and sustainable place – through words, art or digital media.
Individual young people or groups can enter under the following categories:
Young Peacemaker of the year
Young Peace Writer of the year (categories for primary and secondary-aged young people)
Young Peace Artist of the year (categories for primary and secondary-aged young people)
Young Global Citizen of the year
Young Peace Organisation of the year (for larger youth organisations)
It is also acceptable to nominate someone, with their permission.
The closing date for applications is the 12th of June, 2023.
You can find a fuller description of the categories, and the terms and conditions for the awards here, as well as an application form.
Please send your entries to centre@wcia.org.uk.
Cinio Ysgol am Ddim - Grŵp Gweithredu
Free School Meals - Action Group
Bwriad Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pob plentyn cynradd yn derbyn cinio ysgol am ddim o fis Medi 2023.
Rydym wedi cychwyn ar y daith ac mae Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 erbyn hyn yn derbyn y cynnig o ginio ysgol am ddim. Rydym yn sefydlu Grŵp Gweithredu er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu’n effeithiol a bod unrhyw risgiau'n cael eu lliniaru ym mhob ysgol ar Ynys Môn.
Rydym yn chwilio am benaethiaid neu gynrychiolwyr i fod yn rhan o’r Grŵp Gweithredu. Os oes gennych chi neu gynrychiolydd o'ch ysgol ddiddordeb, gofynnwn yn garedig i chi gysylltu ag Angharadjones@ynysmon.llyw.cymru neu GethinJones3@ynysmon.llyw.cymru os gwelwch yn dda. Rydym hefyd yn croesawu unrhyw sylwadau neu bryderon sydd gennych am y cynllun hyd yn hyn neu wrth symud ymlaen.
The Welsh Government intends to ensure that all primary school children receive free school meals from September 2023.
We have started on the journey, and Reception, Year 1 and Year 2 are now receiving the offer of free school meals. We are setting up an Operational Group to ensure that this is implemented effectively and that any risks are mitigated in all schools on Anglesey.
We are looking for headteachers or representatives to be part of the Operational Group,. If you or a representative from your school is interested, please contact Angharadjones@ynysmon.llyw.cymru or GethinJones3@ynysmon.llyw.cymru. We also welcome any concerns or comments you may have about the scheme so far or in moving forward.