COD YMDDYGIAD AC YMARFER PROFFESIYNOL DIWYGIEDIG
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi cyhoeddi ei God Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol diwygiedig ar 1 Medi 2022.
Cwblhawyd adolygiad 2022 o God 2019 yn dilyn ymgynghoriad ag unigolion cofrestredig, rhanddeiliaid a’r cyhoedd, ac adborth ganddynt. Mae’r diwygiadau a wnaed yn rhai arwynebol yn bennaf, neu’n rhoi esboniad ychwanegol.
Mae’r Cod yn pennu’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir gan y 82,000 o ymarferwyr addysg sydd wedi cofrestru gyda CGA sy’n gweithio ledled Cymru, a bwriedir iddo lywio’u barnau a’u penderfyniadau.
Mae’r Cod diwygiedig ar gael i’w ddarllen yn awr.
Bwletin Arbennig ACRh a Chylchlythyr CiG
Mae ein Bwletin Arbennig ACRh ar gael yma.
Mae'n amlinellu'r gofynion ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) o fewn Fframwaith Cwricwlwm i Gymru ac yn tynnu sylw at adnoddau i gefnogi ysgolion wrth ddatblygu eu cwricwlwm ACRh.
Mae rhifyn mis Medi o'n Cylchlythyr Cwricwlwm i Gymru (CiG) ar gael yma.
Mae'n cynnwys yr wybodaeth genedlaethol a rhanbarthol ddiweddaraf ar Gwricwlwm i Gymru, gan gynnwys canllawiau Llywodraeth Cymru ar gynlluniau pontio, yr hyn sydd ei angen ar gyfer adrodd i rieni/gwarcheidwaid, a'n herthygl ar asesu o fewn CiG.
Holiadur Clybiau Gofal Cyn Brecwast a Chlybiau Brecwast
Mae Covid wedi newid y ffordd o weithio i nifer o rieni ac rydym yn ymwybodol bod hyn wedi cael effaith ar rai o’r clybiau gofal.
Gofynnaf yn garedig i chi gwblhau’r holiadur isod erbyn y 18fed o Hydref os gwelwch yn dda, er mwyn rhoi syniad i ni o ran beth yw’r sefyllfa gyfredol ar draws Ynys Môn.
Cinio am Ddim
Gweler isod wybodaeth a lincs i ddeunydd marchnata, gai ofyn yn garedig i chi rannu rhain drwy eich cyfryngau cymdeithasol er mwyn hysbysu rhieni o’r negeseuon pwysig yn ymwneud a cinio am ddim.
Arolwg Epidemiolegol Deintyddol Cymru Gyfan 2022/2023 o Blant Blwyddyn 1 Ysgol (5 oed) yng Nghymru
Os yw eich ysgol wedi derbyn llythyr gan Betsi Cadwaladr yn nodi bod eich ysgol wedi'i dewis fel safle arolwg posibl, gallwch rannu’r wybodaeth a ofynnir amdani â'r tîm sy'n cysylltu â chi o’r Gwasanaeth Deintyddol. Bydd hyn ond yn cynnwys rhestr dosbarth (gan gynnwys dyddiad geni) er mwyn iddynt gysylltu â rhieni.
Nodir nad yw hyn yn berthnasol i ysgolion nad ydynt wedi derbyn llythyr gan BCUHB ynglŷn â'r arolwg hwn (dim ond rhai ysgolion sydd wedi eu dewis ar hap ar gyfer yr arolwg).
Bydd yr holl ysgolion yn derbyn Cytundeb Rhannu Gwybodaeth (Data Disclosure Agreement) rhwng yr ysgol a BCUHB i’w arwyddo yn ystod y tymor hwn. Mae’r cytundeb yn ffurfioli trefniadau ar gyfer rhannu gwybodaeth mewn perthynas â rhaglen sgrinio iechyd o fewn ysgolion (h.y. mesur taldra a phwysau, arolwg deintyddol, brechu a sgrinio clyw).
Llythyr at Gyfarwyddwyr Addysg parthed: arolwg cenedlaethol - Gobeithion i Gymru
Letter to Directors of Education re: national survey - Ambitions for Wales
Gweler ynghlwm lythyr ynghylch Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru sydd wedi cyhoeddi arolwg cenedlaethol, Gobeithion i Gymru, i gasglu barn plant a phobl ifanc o bob rhan o’r wlad. Bydd yr arolwg yn cau 5 Tachwedd 2022.
Please see attached letter in relation to the office of the Children’s Commissioner for Wales publishing a national survey, ‘Ambitions for Wales’, to gather the views of children and young people from across the country. The survey will close on 5 November 2022.
CYNGOR YSGOL - DWEUD EICH DWEUD AM GYNLLUN Y CYNGOR 2023-28
Yn ystod tymor yr haf 2022, bu i CSYM ofyn i blant a phobl ifanc yr ynys, drwy gyngor ysgol pob ysgol, beth sy’n bwysig iddynt. Roedd y sylwadau hyn yn bwysig iawn i’r Cyngor ar gyfer rhoi blaenoriaethau at ei gilydd. Rydym yn awr eisiau gwybod beth mae’r bobl ifanc yn meddwl y dylai ein prif flaenoriaethau fod. Gofynnwn yn garedig i’ch cyngor ysgol lenwi’r holiadur yma erbyn 14.11.22, os gwelwch yn dda (2 gwestiwn yn unig, a dim ond un ymateb sydd ei angen gan yr ysgol).
Cofiwch hefyd fod yr ymgynghoriad ‘Ein Dyfodol’ yn rhoi cyfle i drigolion, busnesau a rhanddeiliaid lleol gael dweud eu dweud wrth i Gyngor Sir Ynys Môn ddatblygu ei amcanion hirdymor. Bydd Cynllun y Cyngor 2023-2028 yn canolbwyntio ar ddarparu Ynys Môn iach a llewyrchus sy’n ffynnu. Rydym yn dymuno cael eich barn ar flaenoriaethau arfaethedig o ran darpariaeth gwasanaethau; sut y dylid eu hariannu a sut y gellid gwella ein hansawdd bywyd.
Treuliwch ychydig o amser yn llenwi’r arolwg ‘Ein Dyfodol’ yma: www.ynysmon.llyw.cymru/eindyfodol
CRONFA YSGOL
Gyda’r flwyddyn gyllidebol wedi dod i ben, gofynnwn i chi sicrhau bod eich corff llywodraethol yn archwilio'r gronfa ysgol fel sy'n ddisgwyliedig, a bod tystysgrif yr archwiliad yn cael ei anfon ymlaen i CarolSnowden@ynysmon.llyw.cymru erbyn y 11.11.22, os gwelwch yn dda.
Dyma’r fersiwn diwygiedig o’r canllawiau ar gyfer cronfa ysgol. Hefyd noder y templed tystysgrif cronfa a rhestr wirio newydd (peidiwch â phoeni os ydych wedi defnyddio’r templed blaenorol ar gyfer cronfa 2021-22). Mae sesiwn hanner awr ar MS Teams gyda Marion Pryor, Pennaeth Archwiliad Mewnol CSYM, ar 17.10.22 am 3.45-4.15, wedi ei threfnu i roi trosolwg ac i ateb unrhyw gwestiwn sy'n codi. Gyda chymaint o ofyn am eich amser, rydym yn deall yn iawn os na allwch fynychu.
DIGWYDDIADAU ARGYFWNG
Mae Gweithdrefn Argyfwng ar gyfer Digwyddiadau Critigol wedi ei hychwanegu i’r feicrowefan dros yr haf. Bydd arweiniad yn cael ei rhoi ar y weithdrefn hon yn ein sesiwn Anwytho/Ail-gyfarwyddo Penaethiaid ar 17.10.22 am 12.30-1.30.
FFORWM IECHYD A DIOGELWCH
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 15.11.22. Gofynnwn i gadeirydd pob dalgylch gadarnhau gydag OsianThomas@ynysmon.gov.uk pwy fydd yn eu cynrychioli.
Hyfforddiant am Ddim - Cyflwyniad i Fasnachu Plant
Free Training - Introduction to Child Trafficking
Cyfle i chi fynychu hyfforddiant ar-lein – Dyddiadau Hydref a Thachwedd
Cyflwyniad i Fasnachu Plant: Ymatebwyr cyntaf.
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Mae Gwarcheidwaid Masnachu Plant Annibynnol yn weithwyr proffesiynol sy'n cefnogi plant a allai gael eu masnachu. Mae'r gweithdy 2.5 awr hwn yn cwmpasu:
• Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Plant - Gwell dealltwriaeth o'r diffiniadau a fframwaith y DU.
• Mathau o Gaethwasiaeth Fodern - Gwell dealltwriaeth o bob camfanteisio, gwell adnabyddiaeth wrth adnabod plant a allai gael eu masnachu.
• Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol - Cynyddwch eich gwybodaeth am y broses gan gynnwys ymatebwyr cyntaf.
• Y Trosolwg Deddfwriaeth o'r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern ac adrannau perthnasol.
Opportunity to attend Training: Dates in October and November
Introduction to Child Trafficking: First responders.
About this event
Independent Child Trafficking Guardians are professionals who support children who are potentially trafficked. This 2.5 hour workshop covers:
• Modern Slavery & Child Trafficking - Increased understanding of the definitions and UK framework.
• Modern Slavery Types - Increased understanding of all exploitation, improved recognition in the identification of children who may be trafficked.
• National Referral Mechanism - Increase your knowledge of the process including first responders.
• The Legislation Overview of the Modern Slavery Act and relevant sections.
Hylif Diheintio Dwylo
Cysylltwch gyda Gethin Jones GethinJones3@ynysmon.gov.uk os oes angen mwy o hylif diheintio dwylo arnoch.
Cyfeirlyfr mewn Argyfwng
Gofynnwn yn garedig i chi wirio’r enwau yn erbyn eich ysgol chi ac os oes newid, hysbysu Donna o'r enw, teitl a rhif ffôn newydd os gwelwch yn dda, drwy e-bostio DonnaEvans@ynysmon.gov.uk
Cwricwlwm i Gymru, Nofio a Chymhwysedd Dwr
Curriculum for Wales, Swimming and Water Competence
Apêl Pyjamas Ysbyty Plant Gogledd Cymru
Children's Hospital Pyjamas Appeal North Wales
Cylchlythyr Diogelu / Safeguarding Newsletter
Dangerous Online Chat Room - Safeguarding Alert - Ineqe Safeguarding Group
Dangerous online chat rooms, deleting messages and Safeguarding News - Ineqe Safeguarding Group
Deleting Messages - An Online Safety Guide (ineqe.com)
Instagram Updates - An Online Safety Guide to the Latest Features - Ineqe Safeguarding Group
About - Ineqe Safeguarding Group
Has Seesaw been hacked? - Ineqe Safeguarding Group
Llinellau Sirol / County Lines
Ffilmio UPFSM
UPFSM Filming
Rydym wedi derbyn y neges isod gan Lywodraeth Cymru. Gwerthfawrogwn petaech yn cysylltu â Gethin M Jones cyn gynted â phosibl os oes gan eich ysgol ddiddordeb.
Fel rhan o'r ymgyrch gyfathrebiadau gyfredol ar gyfer UPFSM, rydym yn edrych am awgrymiadau o ysgol gynradd ddwyieithog yng ngogledd Cymru i'w ffilmio (yn ddelfrydol, gyda chynrychiolaeth eang o ddisgyblion).
Byddai ein tîm cyfathrebu'n dymuno ffilmio cyfres o ffilmiau o - staff arlwyo, rhieni, dysgwyr ac athrawon, ar y 21ain o Hydref.
We have received the message below from Welsh Government. We would appreciate if you could contact Gethin M Jones as soon as possible if your school is interested.
As part of the ongoing communications campaign for UPFSM, we are looking for suggestions of a bilingual primary school in north Wales to do some filming (ideally with a diverse representation of pupils).
Our communications team would want to film a series of films of - catering staff, parents, learners and teachers on the 21st of October.
Polisiau Wedi eu Hadolygu
Reviewed Policies
Mynediad - Ceisiadau Trosglwyddo
Hoffwn eich atgoffa os yw eich ysgol o dan ei rhif mynediad ar gyfer unrhyw gohort, ni all yr Awdurdod Lleol, fel yr awdurdod mynediad, wrthod cais gan riant i’w plentyn gael mynediad i’ch ysgol (mae eithriad gyda phlant sydd wedi eu gwahardd fwy na dwywaith o fewn 2 flynedd). Mae disgwyliad statudol i ni brosesu unrhyw gais yr ydym wedi ei dderbyn gan riant o fewn 15 diwrnod ysgol, ac os oes lle, i’r plentyn gychwyn mor fuan â phosib (yn enwedig ar gyfer dysgwyr bregus). Fel y gwyddoch, hyd nes bydd penderfyniad wedi ei wneud gan yr Awdurdod Lleol ar ôl derbyn cais, os yw'r rhieni’n cysylltu â chi, ni ddylech roi unrhyw awgrym i’r rhiant bod y mynediad yn cael ei ganiatáu neu ei wrthod. Ceir rhagor o wybodaeth am ddyletswyddau yn “Y cod derbyn i ysgolion” gan Lywodraeth Cymru (canllawiau i awdurdodau lleol ac ysgolion ar sut i reoli derbyniadau i ysgolion).