11.01.23
Gweledigaeth y Gwasanaeth Dysgu:
Yr Ynys Ddysg gyda Chymunedau sy’n Dysgu, Gwasanaeth Dysgu ac Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
Gweledigaeth y Gwasanaeth Dysgu:
Yr Ynys Ddysg gyda Chymunedau sy’n Dysgu, Gwasanaeth Dysgu ac Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
Blwyddyn Newydd Dda
Happy New Year
Band Offerynnol Môn
Anglesey Instrumental Band
PLASC
PLASC
Dyddiad y cyfrifiad eleni yw dydd Mawrth 17 Ionawr 2023.
Gofynnaf i chi sicrhau bod manylion ADY, SIY a Gwaharddiadau yn gyfredol yn eich system SIMS. Mae angen llenwi'r ffurflen gwybodaeth lefel ysgol atodol.
Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech gwblhau a dychwelyd y ffurflen i’ch cymhorthydd SIMS cyn gynted ag y bo modd ac erbyn 23 Ionawr 2023 fan bellaf, os gwelwch yn dda.
Bydd eich cymhorthydd SIMS yn rhoi'r data lefel ysgol i mewn i SIMS, bydd yn cael ei gyfuno gyda data plant sydd yn SIMS yn barod. Byddant wedyn yn anfon adroddiad crynodeb i chi ei wirio, ei arwyddo a'i ddychwelyd.
Mae’n bwysig fod y CYBLD yn gywir gan fod Llywodraeth Cymru'n ei ddefnyddio i gyllido Cyngor Môn ac i greu'r Setiau Data Craidd, sydd hefyd yn cael eu defnyddio gan ESTYN. Gweler isod linciau i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar weinyddu CYBLD yn Ionawr 2023.
Diolchaf ymlaen llaw am eich cydweithrediad arferol.
This year's census date is Tuesday 17 January 2023.
I ask you to ensure that ALN, EAL and Exclusion details are up to date in your SIMS system. The supplementary school level information form needs to be completed.
I would be very grateful if you could complete and return the form to your SIMS assistant as soon as possible and no later than 23 January 2023, please.
Your SIMS assistant will put the school level data into SIMS, it will be combined with children's data that is already in SIMS. They will then send you a summary report to check, sign and return.
It is important that the PLASC is correct as the Welsh Government uses it to fund Anglesey Council and to create the Core Datasets, which are also used by ESTYN. Below are links to Welsh Government guidance on the administration of PLASC in January 2023.
I thank you in advance for your usual cooperation.
Bwyd a Hwyl 2023
Food and Fun 2023
Bydd Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgolion Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei galw'n 'Bwyd a Hwyl' ar agor ar gyfer ceisiadau o 26 Ionawr 2023 ymlaen.
Mae hon yn raglen a ariennir yn llawn gan grant sy'n agored i ysgolion sydd â phoblogaeth cymhwysedd Prydau Ysgol Am Ddim (FSM) o 16% neu fwy, ar gyfer disgyblion rhwng 5 a 15 oed.
Mae arweinwyr y Cyngor wedi bod yn ymgysylltu ag ysgolion cymwys yn eich ardal chi i gael datganiadau o ddiddordeb mewn cyflwyno'r rhaglen yn 2023 a faint o garfannau o 40 o blant fyddai'n cael cynnig llefydd.
Bydd ffurflenni cais yn cael eu hanfon allan at arweinwyr ein Cyngor yn dilyn cyfres o gyfarfodydd yn mynd dros newidiadau ar gyfer y flwyddyn newydd a llinell amser.
Mae angen y rhaglen nawr yn fwy nag erioed yn sgil yr argyfwng costau byw a'r pwysau ychwanegol a ddaw yn sgil hyn i blant a theuluoedd. Am y rheswm hwn, gwerthfawrogir eich cefnogaeth barhaus yn fawr wrth ein helpu i ymestyn cyrhaeddiad y rhaglen i fwy o ysgolion.
Rydym wedi datblygu ffilm fer wedi'i hanimeiddio i gyfathrebu'n gryno beth yw hanfod y rhaglen. Gellir ei gweld yma (4 munud).
Many thanks,
The WLGA Food and Fun Team
The Welsh Government’s School Holiday Enrichment Programme, known as ‘Food and Fun’ will be open for applications from 26th January 2023.
This is a fully grant funded programme open to schools with a Free School Meal (FSM) eligibility population of 16% or greater, for pupils aged 5 to 15 years.
Our challenge this year is to extend the reach and impact of the programme and as such we hope to see an increase in the number of eligible schools who participate. Our Local Authority coordinators have begun to gather expressions of interest and will be responsible for submitting the application form.
The programme is needed now more than ever in light of the cost of living crisis and the added pressures this brings to children and families. For this reason, your continued support is greatly appreciated in helping us to extend the programme to more schools.
We have developed a short animated film to communicate succinctly what the programme is all about. It can be viewed here (4 mins).
Many thanks,
The WLGA Food and Fun Team
Canllaw Dychwelyd yn ôl i'r Ysgol
Back to School Guidance
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi'r hysbysiad canlynol i'r wasg heddiw.
Public Health Wales have issued the following press notice today.
Cais am Wybodaeth-Vanguard Britannica
Vanguard Britannica Request for Information
Cais am Wybodaeth-Vanguard Britannica
Vanguard Britannica Request for Information
Gweler adnoddau cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol HMDT ynghlwm i goffáu'r Holocost ym mis Ionawr, 2023 - mae fersiynau Cymraeg hefyd.
Mae'r HMDT wedi darparu copi y gellir ei ddefnyddio fel dewis 'dewis a chymysgu' o wybodaeth ac adnoddau y gellir eu llunio yn dibynnu ar y gynulleidfa.
Mae'r adnoddau'n cael eu disgrifio fel rhai 'addas i ysgolion a grwpiau eraill' – felly mae croeso i chi gylchredeg.
Please see attached HMDT communication and social media resources to commemorate the Holocaust in January, 2023 – there are also Welsh language versions.
The HMDT has provided copy which can be used as a ‘pick and mix’ selection of information and resources that can be shaped depending on the audience.
The resources are described as ‘suitable for schools and other groups’ – so feel free to circulate.