ADOLYGIAD RHEOLAETH YSGOLION
Hanner tymor yma gofynnwn i chi rhoi sylw i’r elfen “Presenoldeb Ysgolion” ar yr Adolygiad Rheolaeth Ysgolion, os gwelwch yn dda (erbyn 19.12.22). Bydd hyn yn ein galluogi i adnabod ble mae ysgolion angen cefnogaeth:
Diogelu
Presenoldeb Ysgolion
Dewiswch un o’r canlynol: Arbennig, Da, Digonol, neu Blaenoriaeth ar gyfer gwella
Cysylltwch â GwennoLloydJones@gwynedd.llyw.cymru os oes gennych unrhyw anhawster cael mynediad.
CRONFA YSGOL
Gyda’r flwyddyn gyllidebol wedi dod i ben, gofynnwn i chi sicrhau bod eich corff llywodraethol yn archwilio'r gronfa ysgol fel sy’n ddisgwyliedig, a bod tystysgrif yr archwiliad yn cael ei hanfon ymlaen at CarolSnowden@ynysmon.llyw.cymru erbyn 14.11.22, os gwelwch yn dda. Dyma’r fersiwn diwygiedig o’r canllawiau ar gyfer cronfa ysgol. Hefyd noder y templed tystysgrif cronfa a rhestr wirio newydd (peidiwch â phoeni os ydych wedi defnyddio’r templed blaenorol ar gyfer cronfa 2021-22).
DIGWYDDIADAU ARGYFWNG
Bydd arweiniad yn cael ei roi ar y Weithdrefn Argyfwng ar gyfer Digwyddiadau Critigol yn ein sesiwn Anwytho/Ail-gyfarwyddo Penaethiaid ar 17.11.22 am 12.30-1.30. Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol, anfonwch nhw ymlaen at OsianThomas@ynysmon.llyw.cymru erbyn 14.11.22.
YMWELIADAU IECHYD A DIOGELWCH
Mae’r Adran Iechyd a Diogelwch yn ail-gydio â’r ymweliadau i ysgolion eleni i wirio trefniadau a phrosesau, a chynnig arweiniad a chefnogaeth ble’n briodol. Os nad ydych wedi ymateb i e-bost Kimberley Jones (Swyddog Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol Cynorthwyol dan Hyfforddiant) yn ôl ym mis Medi i drefnu ymweliad, gofynnwn i chi cysylltu â hi cyn gynted â phosib ar KimberleyJones2@ynysmon.llyw.cymru.
RHAGLEN DATBLYGU LLYWODRAETHWYR
Gofynwn i chi sicrhau fod pob Llywodraethwr gyda chyfrif Hwb ac mai y cyfrif hwn, ddylid ei ddefnyddio fel cyfrif pob Llywodraethwr.
Dyma ein rhaglen datblygu a hyfforddi Llywodraethwyr am weddill y tymor. Gwerthfawrogwn pe gallech atgoffa eich llywodraethwyr – mae angen iddynt glicio yma i gofrestru.
Noder mai cyfrifoldeb y corff llywodraethol yw cadw cofnod diweddar a chyfredol o’r holl hyfforddiant a gwblheir gan aelodau (mae’r rhain yn cynnwys sesiynau wyneb i wyneb a hyfforddiant ar-lein). Cofiwch fod rhaid i lywodraethwyr gwblhau hyfforddiant mandadol o fewn 12 mis o’u hapwyntio neu maent yn wynebu cael eu tynnu oddi ar y corff llywodraethol dros dro/yn barhaol. Mae’r cyrsiau mandadol hyn ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim ar ein gwefan - ceir rhagor o wybodaeth yma.
Diweddariad ar ganllawiau a threfniadau cyfnod sefydlu ANG
Porthol Ysgolion / Schools' Portal
Fel y gwyddoch, dros wyliau’r haf, aed â’r Porthol Ysgolion all-lein tra fod e’n gael ei adolygu.
Yn dilyn hyn, mae’r Porthol Ysgolion wedi’i gynnwys ar wefan Llywodraeth Cymru ac mae ar gael nawr drwy’r dolen canlynol:
A fyddech cystal â lledaenu’r wybodaeth hon i unrhyw ddefnyddwyr yn eich ysgolion, awdurdod lleol, neu gonsortia sydd yn defnyddio’r Porthol Ysgolion i gael mynediad at wasanaethau sy’n ymwneud â data.
Yn ogystal, os oes unrhyw wefannau pellach y credwch y byddai’n ddefnyddiol eu hychwanegu at y Porthol Ysgolion, anfonwch y wybodaeth am y wefan mewn e-bost at IMS@llyw.cymru i ni eu hystyried.
As you will be aware, over the summer holiday the Schools’ Portal was taken offline while being reviewed.
Following this, the Schools’ Portal has been incorporated into the Welsh Government website and it is available now via the following link:
Can you please disseminate this information to any users at your schools, local authority, or consortia that use the Schools’ Portal to access data related services.
In addition, if there are any further websites that you believe would be useful to add to the Schools’ Portal, please send the information about the site in an email to IMS@gov.wales for our consideration.
Gwahoddiad
Cawsom ddigwyddiad nôl yn Fis Mawrth yn Storiel, Bangor lle buon yn lansio ein Ap AiDi a cherdyn adnabod sydd yn cefnogi gofalwyr ifanc. Rydym am gynnal digwyddiad yn M-Sparc, Gaerwen ar yr 24/11/22, sef diwrnod cenedlaethol hawliau gofalwyr.
Rydym yn cynnal y digwyddiad hwn i ddathlu'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi ein gofalwyr ifanc yng Ngwynedd a Môn.
Dyma rhai o’r adnoddau sydd ar gael ers mis Mawrth:
Mae dros 30 o gwmnïau lleol yn cynnig disgownt i ofalwyr ifanc ar ddangos eu cerdyn adnabod
Mae Byw yn Iach yn cynnig nofio am ddim i ofalwyr ifanc a ffrind ar ddangos eu cerdyn adnabod
Mae'r ap aidi ar gael i’w ddefnyddio mewn ysgolion
Cefnogaeth helaeth sydd yn cael ei gynnig gan Gweithredu dros Blant, yn cynnwys cwnsela ac ysbaid i ofalwyr ifanc
Mae’r wefan www.aidi.cymru <http://www.aidi.cymru> nawr yn fyw, lle fedr ysgolion, rhieni a gofalwyr ifanc mynd am gefnogaeth ac i archebu'r cerdyn ac ap.
Mae Gweithdai ysgolion i addysgu a chodi ymwybyddiaeth ar fin dechrau (Uwchradd a gynradd)
Bydden hefyd yn gweithio ar ddogfen efo Cread ynglŷn â bywydau gofalwyr ifanc
Bydd disgyblion o ysgolion lleol, cwmnïau sydd yn cymryd rhan, cynghorwyr a mwy yno efo ni ar y diwrnod.
Bydd cyflwyniadau, cyfleoedd i rhwydweithio a lluniaeth ysgafn ar gael yno.
Hoffwn estyn gwahoddiad cynnes iawn i chi ymuno a ni ar y diwrnod.
Edrychaf ymlaen at glywed yn ôl gennych.
Cludiant Tacsi / Taxi Transport
Mae’n rhaid i’r Awdurdod lynu at y Polisi Cludiant Ysgolion (sy’n unol â’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008) mewn perthynas â chludiant ysgol am ddim.
Gan mai’r Awdurdod Lleol sy’n dyfarnu cludiant ysgol, rydym yn eich atgoffa’n garedig mai drwy’r linc hon y mae gwneud ceisiadau am gludiant ysgol. Os oes gennych ymholiad ynglŷn â chludiant ysgol, gallwch hefyd e-bostio TrafnidiaethYsgol@ynysmon.llyw.cymru. Ni ddylai ysgolion gynnig cludiant am ddim i rieni heb ganiatâd clir yr Awdurdod Lleol, a fydd ond yn digwydd ar ôl i gais gael ei gyflwyno a’i gymeradwyo. Gallwch wrth gwrs gyfeirio rhieni i’r adran Cwestiynau Cyffredinol o’n gwefan os oes ganddynt unrhyw ymholiadau pellach.
I gloi, os oes gennych ddisgyblion sy’n derbyn cludiant a ariennir gan yr Awdurdod yn eich ysgol, mae’n orfodol i chi roi gwybod i’r Awdurdod Lleol unwaith na fydd angen y ddarpariaeth arnynt mwyach, h.y. os yw’r disgybl yn gadael yr ysgol. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio eirianroberts@ynysmon.llyw.cymru. Mae hefyd yn hanfodol bwysig eich bod yn hysbysu’r Awdurdod os yw disgybl yn newid ei gyfeiriad, gan y gall hyn effeithio eu hawl i gludiant a ariennir gan yr Awdurdod.
The Authority must adhere to the School Transport Policy (which is in accordance with the Learner Travel (Wales) Measure 2008) with regards to free home to school transport.
As it is the Local Authority which grants school transport, we kindly remind you that requests for school transport are to be made by following this link. If you have a query about school transport, you may also email TrafnidiaethYsgol@ynysmon.llyw.cymru. Schools should not offer free transport to parents without the express permission of the Local Authority, which will only occur after a request has been made and approved. You can of course advise the parents to the Frequently Asked Questions section of our website should they have further queries.
Finally, if you have pupils in receipt of Authority-funded transport in your school it is imperative that you advise the Local Authority once the provision is no longer needed i.e. if the pupil leaves the school. You can do this by emailing eirianroberts@ynysmon.llyw.cymru. It is also vitally important that you advise the Authority if a pupil changes address as this may affect their entitlement to Authority-funded transport.
Mae’n amser cwblhau cyfrifiad y gweithlu ysgolion (SWAC) i Lywodraeth Cymru. Mae’r Llywodraeth angen data am y staff oedd yn rhan o’r ysgol ar 8/11/2022. Fe fydd cam 2 o SWAC yn digwydd eleni ac felly mae’r cyfrifiad yn casglu data ar recriwtio a chadw staff (tebyg i beth sydd yn PLASC yn barod. Dros amser fe fydd hwn yn disodli'r elfen yma yn PLASC ).
Fe fyddwch yn derbyn taenlen gan eich cymhorthydd SIMS fydd yn cynnwys gwybodaeth a gyflwynwyd flwyddyn ddiwethaf, fydd angen i chi ddychwelyd taenlen eleni wedi ei diweddaru erbyn 28/11/2022 gyda rolau eich staff ar wybodaeth recriwtio a chadw staff os gwelwch yn dda.
Fe fydd angen i staff newydd ers y cyfrifiad llenwi holiadur. Copïau o’r holiadur yma wedi eu hatodi isod.
Os yda chi’n amau bod gwybodaeth rhywun angen ei ddiweddaru oes modd i chi roi holiadur newydd iddynt plîs ac os oes aelod o staff wedi ennill cymhwyster uwch cymhorthydd neu CPCP eleni plîs gadewch i’ch cymhorthydd SIMS gwybod.
Rhaglen Hyfforddiant Google -
Cyfle i holl Athrawon Ynys Môn (Cynradd/Arbennig/Uwchradd)
Google Training Programme -
An Opportunity for all Anglesey Teachers (Primary/Specialised/Secondary)
COFRESTRU REGISTER