07.02.23
Gweledigaeth y Gwasanaeth Dysgu:
Yr Ynys Ddysg gyda Chymunedau sy’n Dysgu, Gwasanaeth Dysgu ac Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
Gweledigaeth y Gwasanaeth Dysgu:
Yr Ynys Ddysg gyda Chymunedau sy’n Dysgu, Gwasanaeth Dysgu ac Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
MFA-Cofiwch fod angen i ysgolion ( pennaeth/pencampwr digidol) troi MFA ymlaen, ar gyfer pob athro a chymhorthydd yn yr ysgol cyn 3ydd o Fawrth
Ymgynghoriad Safleoedd Gofal Plant
Childcare Settings Consultation
I ddechrau, hoffwn gyflwyno fy hun fel Llio, Swyddog Prosiect Cyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar oddi fewn Uned Cefnogi Teuluoedd, Gwasanaethau Plant, Cyngor Sir Ynys Môn.
Yn fras, rwy’n rheoli prosiect cyfalaf yn datblygu lleoliadau gofal plant ar safleoedd ysgolion drwy argaeledd cyllid y Llywodraeth. Gyda’r cyllid hwn, bu’n bosib inni sefydlu 5 adeilad modiwlaidd newydd ar gyfer gofal plant dydd llawn dros y 3 mlynedd diwethaf.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Uned Blynyddoedd Cynnar y Llywodraeth fod modd ceisio am gyllid cyfalaf ychwanegol, ar gael hyd at Mawrth 2025.
Yn sgil hyn, rydym angen paratoi tuag at gynhyrchu ein Achos Cyfiawnhad Busnes er mwyn ceisio am y cyllid cyfalaf. Rydym ar hyn o bryd yn cydweithio gydag ymgynghorydd allanol er mwyn paratoi tuag at ymgysylltu gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol yn y broses. Bydd Anoop Watts yn ein cynorthwyo i ymchwilio ar gyfer deunydd a data hollbwysig fel man cychwyn i’r ceisiadau. Mi fydd yn cysylltu gyda chi’r Penaethiaid â’r Llywodraethwyr o fewn yr wythnosau nesaf ac mi fydd yn gyfle i chwi rannu eich barn, diddordeb a safbwyntiau, sy’n allweddol inni wrth ddatblygu syniadau am safleoedd addas i ddatblygu’r lleoliadau nesaf. Byddwn yn ogystal angen ymgynghori gyda’r rhieni sydd yn hollbwysig at gynnwys y ceisiadau, a gofynnwn yn garedig i chwi, ynghyd â’r darparwyr blynyddoedd cynnar, i rannu linciau yr ymgynghoriad rhieni.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â’r uchod, byddaf yn fwy na hapus cael sgwrs gyda chwi.
Diolch o flaen llaw am eich cymorth.
Llio P. Ifan
Swyddog Prosiect Cyfalaf a Busnes Gofal Plant
Gofal Plant a Chwarae Môn
Uned Cefnogi Teuluoedd
Canolfan Jesse Hughes, Lon Kingsland, Caergybi, Ynys Môn, LL65 2HR
GofalPlantaChwaraeMon@ynysmon.llwy.cymru
07811 721179
Firstly, I would like to introduce myself as Llio, Childcare and Early Years Capital Project Officer within the Family Support Unit, Children's Services, Anglesey County Council.
Broadly, I manage a capital project developing childcare settings on school sites through the availability of Government funding. With this funding, we have been able to establish 5 new modular buildings for full day childcare over the last 3 years.
The Government's Early Years Unit recently announced that additional capital funding, available up to March 2025, can be sought.
In light of this, we need to prepare towards producing our Business Justification Case in order to seek the capital funding. We are currently collaborating with an external consultant to prepare towards engaging with partners and key stakeholders in the process. Anoop Watts will assist us in researching for vital material and data as a starting point for the applications. He will be contacting you as the Headteachers and the Governors within the next few weeks and it will be an opportunity for you to share your views, interest and perspectives, which are key for us in developing ideas for suitable sites to develop the next settings. We will also need to consult with the parents who are vital to the content of the applications, and we kindly ask you, along with the early years providers, to share the links of the parental consultation.
If you have any further questions regarding the above, I'll be more than happy to have a chat with you.
Thanks in advance for your help.
Llio P. Ifan
Childcare Capital and Business Project Officer
Childcare and Anglesey Play
Family Support Unit
Jesse Hughes Centre, Kingsland Road, Holyhead, Anglesey, LL65 2HR
GofalPlantaChwaraeMon@ynysmon.llwy.cymru
07811 721179
Stroliwch a Roliwch
Big Walk and Wheel
Rwy'n gweithio i Sustrans Cymru fel Swyddog Teithiau Iach mewn ysgolion ar draws Wynedd, Môn a Chonwy.
Ydych chi wedi clywed am ein ymgyrch Stroliwch a Roliwch? Hoffem i chi gymryd rhan.
Ymgyrch Stroliwch a Roliwch Sustrans yw her gerdded, defnyddio olwynion, sgwtera a beicio i’r ysgol fwyaf yn y DU. Mae’n ysbrydoli disgyblion i wneud siwrneiau egnïol i’r ysgol, i wella ansawdd yr aer yn eu cymdogaethau, ac i ddarganfod sut mae’r newidiadau hyn o fudd i’w byd.
Nod y digwyddiad yw annog mwy o deuluoedd i deithio i’r ysgol yn llesol, er mwyn helpu i greu cymunedau iachach a hapusach. Ar bob diwrnod yn ystod yr her, bydd ysgolion yn cystadlu i weld pwy all gofnodi’r ganran fwyaf o blant sy’n cerdded, yn defnyddio cadair olwyn, yn sgwtera neu’n beicio i’r ysgol.
Bydd yr her yn cael ei chynnal eleni o 20 Mawrth – 31 Mawrth 2023. Mae cymryd rhan am ddim ac mae gwobrau i’w hennill bob dydd.
Mae nifer o adnoddau ar gael, yn cynnwys cynlluniau gwersi sy’n cysylltu â’r cwricwlwm, i’w defnyddio mewn ysgolion i sicrhau bod pawb yn gallu teimlo eu bod yn rhan o’r her yn ystod Stroliwch a Roliwch Sustrans. Gall disgyblion helpu i leihau llygredd aer a dysgu am fanteision teithio llesol iddyn nhw, i’w hysgol, i’w cymdogaeth, ac i’r blaned gyfan.
Mae teithio llesol yn bwysicach nag erioed. Mae teithio llesol yn ffordd wych i sicrhau y daw ymarfer corff yn orchwyl beunyddiol i blant. Mae’n eu helpu nhw i gyrraedd yr ysgol yn fwy hamddenol, yn fwy effro ac mae’n wych i’w lles meddyliol hefyd.
Dangosodd Astudiaeth YouGov yn 2021 bod bron i hanner plant y DU yn poeni am lygredd aer ger eu hysgol, a bod plant o’r farn mai teithio’n llesol oedd y ffordd orau i leihau’r lefelau llygredd hyn. Mae cymryd rhan yn ymgyrch Stroliwch a Roliwch Sustrans, a theithio'n fwy llesol i’r ysgol yn hytrach na gyrru, yn ffordd wych a hwyliog o leihau tagfeydd y tu allan i giatiau’r ysgol.
Bydd gwobrau i’r ysgolion bach a mawr cynradd, uwchradd ac ADY sy’n gwneud orau ym mhob sir.
Gallwch gofrestru rŵan. Am fwy o wybodaeth a sut i gofrestru eich dosbarth neu eich ysgol, ewch i https://bigwalkandwheel.org.uk/cym
Dymuniadau gorau!
Debbie
Gellir cysylltu â mi trwy e-bost am ragor o wybodaeth :-
debbie.humphreys@sustrans.org.uk
I work for Sustrans Cymru as a Healthy Journeys Officer in schools across Gwynedd, Anglesey and Conwy.
Have you heard about our campaign Big Walk and Wheel? We would like you to participate.
Sustrans's Big Walk and Wheel campaign is the UK's largest school walking, wheel use, scootering and cycling challenge, inspiring pupils to make active journeys to school, improve air quality in their neighbourhoods, and discover how these changes benefit their world.
The event aims to encourage more families to travel to school actively, to help create healthier, happier communities. On each day during the challenge, schools will compete to see who can record the largest percentage of children walking, using a wheelchair, scootering or cycling to school.
The challenge will take place this year from 20 March – 31 March 2023. Participation is free and there are prizes to be won every day.
There are a several resources available, including lesson plans linking to the curriculum, to be used in schools to ensure everyone can feel part of the challenge during Sustrans Big Walk and Wheel. Pupils can help reduce air pollution and learn about the benefits of active travel for them, for their school, for their neighbourhood, and for the planet as a whole.
Active travel is more important than ever. Active travel is a great way to ensure exercise becomes a daily chore for children. It helps them get to school more relaxed, more alert and it's great for their mental wellbeing too.
A 2021 YouGov Study showed that almost half of UK children are concerned about air pollution near their school. And that children believed that active travel was the best way to reduce these pollution levels. Taking part in Sustrans' Big Walk and Wheel campaign, and travelling more actively to school rather than driving, is a great and fun way to reduce congestion outside the school gates.
There will be prizes for the small and large primary, secondary and ALN schools that do best in each county.
You can register now. For more information and how to register your class or school, visit https://bigwalkandwheel.org.uk/cym
Best wishes!
Debbie
I can be contacted by email for further information :-
debbie.humphreys@sustrans.org.uk
SSCE Cymru
SSCE Cymru
Gweler dolen gyswllt i Fwletin Ysgolion Misol SSCE Cymru ar gyfer mis Chwefror yn fan hyn. Gofynnwn yn garedig i chi hyrwyddo hwn drwy ei rannu a'ch rhwydweithiau/cysylltiadau a'ch ysgolion.
Mae bwletin y mis hwn yn cynnwys:
Diweddariadau'r Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol
Diweddariad y Swyddog Arweiniol Cyfranogi
Gwybodaeth Dyletswydd Cyfamod Lluoedd Arfog
Gwybodaeth ariannu
Diwrnodiau hyfforddiant DPP
Digwyddiadau sy'n dod i fyny
Dolenni cyswllt cyfryngau cymdeithasol
Parhewch i rannu gwybodaeth gyda ni parthed eich gweithgareddau/digwyddiadau, a gallwn eu rhannu ar dudalennau Facebook a Twitter SSCE Cymru, a'u hychwanegu i'n gwefan gyda dolen gyswllt yn y bwletin misol pan fo'n briodol.
Please find a link to the SSCE Cymru Monthly School Bulletin for February here. Please help us to promote this resource by sharing with your own networks/contacts and schools.
This month’s bulletin includes:
RSLO updates
PLO update
Armed Forces Covenant Duty information
Funding information
CPD training dates
Upcoming events
Social media links
Please continue to share information with us about your activities/events, which we can share on the SSCE Cymru Facebook and Twitter pages and add to our website with a link in the monthly bulletin when appropriate.
Diogelu mewn Addysg
Safeguarding in Education
Rhwydwaith Cenedlaethol Celfyddydau ac Addysg
National Arts & Education Network
Cyfraith Martyn (Gweminar Addysg)
Martyn's Law (Education Webinar)
Gweler y manylion isod am gyfle i fynychu gweminar addysg benodol yn ymwneud â Chyfraith Martyn:
Ym mis Rhagfyr 2022, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cartref gyhoeddiad ynglŷn â'r polisi sylfaenol ar gyfer Cyfraith Martyn, a elwid gynt yn Ddyletswydd Diogelu, yn y Senedd.
Bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno cyn gynted ag y bydd amser seneddol yn caniatáu. Bydd Cyfraith Martyn yn ymestyn i'r Deyrnas Unedig ac yn berthnasol ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.
Ceir rhagor o wybodaeth am Gyfraith Martyn yn y dudalen ffeithiau.
Bu cryn ymdrech ar draws y Llywodraeth yn ogystal â gyda phartneriaid y tu allan i'r Llywodraeth i ddatblygu'r cynigion hyn, a hoffwn ddiolch i chi am eich ymgysylltiad a'ch ymdrechion hyd yma.
Mae'r cynigion hyn wedi'u datblygu gan ystyried ymarfer ymgynghoriad cyhoeddus 2021, a'r farn a fynegwyd gan randdeiliaid mewn dros 80 o ddigwyddiadau ymgynghori.
Bydd y rhan fwyaf o'r manylion hyn yn gyfarwydd i chi, ond efallai y bydd rhai materion lle bu datblygiadau diweddar. Yn sgil hyn, rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu a fydd yn rhoi cyfle i ni eich briffio ar y cynigion polisi’n llawnach, ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Cofrestrwch eich diddordeb drwy ddilyn y ddolen gyswllt isod os hoffech gymryd rhan yn y digwyddiad ymgysylltu â'r sector addysg. Rhannwch hyn gyda chydweithwyr lle bo hynny'n briodol.
https://www.eventbrite.com/e/martyns-law-webinar-for-education-tickets-524515097777
Please see details below of an opportunity to attend an education specific webinar surrounding Martyn’s Law:
In December 2022 the Home Secretary made an announcement regarding the foundational policy for Martyn’s Law, formerly known as the Protect Duty, in Parliament.
Legislation will be brought forward as soon as parliamentary time allows. Martyn’s Law will extend to and apply across the whole of the United Kingdom.
Further information on Martyn’s Law can be found in the factsheet.
There has been considerable effort across Government as well as with partners outside of Government to develop these proposals, and I would like to thank you for your engagement and efforts to date.
These proposals have been developed taking into account the 2021 public consultation exercise, and the views expressed by stakeholders at over 80 consultation events.
Most of this detail will be familiar to you, but there may be some issues where there have been recent developments. In light of this, we are undertaking a series of engagement events which will give us opportunity to brief you on the policy proposals more fully, and to answer any questions you may have.
Please register your interest at the link below should you wish to participate in the education sector engagement event. Please do share this with colleagues where appropriate.
https://www.eventbrite.com/e/martyns-law-webinar-for-education-tickets-524515097777
Ymgynghoriad ar y Bil Addysg Awyr Agored (Cymru)
Consultation on the Outdoor Education (Wales) Bill
Atodaf lythyr a dogfen ymgynghori gan Sam Rowlands AS, Aelod Seneddol dros Ogledd Cymru, ynghylch ymgynghoriad ar y Bil Addysg Awyr Agored (Cymru). Mae gwybodaeth am sut i gyfrannu ar gael ar dudalen yr ymgynghoriad.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 17 Mawrth 2023. Mae croeso i chi rannu'r neges e-bost hon ag eraill a allai fod â diddordeb yn yr ymgynghoriad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost.
Gareth Rogers
Clerc – Cymorth Craffu, Senedd Cymru
0300 200 6357
Please find attached a letter and a consultation document from Sam Rowlands MS, Member of the Welsh Parliament for North Wales, regarding a consultation on the Outdoor Education (Wales) Bill. Information on how to contribute is available on the consultation page.
The consultation closes on 17 March 2023. Please feel free to share this email with others who may be interested in the consultation.
If you have any further questions, please do not hesitate to get in touch by email.
Gareth Rogers
Clerk – Scrutiny Support, Welsh Parliament
0300 200 6357
Hyfforddiant i athrawon
Teacher training opportunity
Newyddion da gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru! Rydym wedi symud ein cwrs hyfforddi ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd ym mis Chwefror ar 'Ddatblygu Dinasyddion Egwyddorol, Gwybodus trwy’r Nodau Datblygu Cynaliadwy’ ar-lein! Bydd nawr yn digwydd rhwng 4 a 6pm, ddydd Mawrth, 28ain Chwefror. Cofrestrwch ar gyfer y cwrs yma: Ticedi ar gyfer: Datblygu Dinasyddion Egwyddorol, Gwybodus trwy’r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Mae'n rhad ac am ddim! Gobeithio y bydd hwn yn gyfle i ni rannu'r hyn rydym wedi'i wneud ar Ddinasyddiaeth Egwyddorol, Gwybodus yn ein gwahanol ysgolion ac i rannu syniadau ac adnoddau. Edrychwn ymlaen at weld llawer ohonoch yno!
Manylion:
Datblygu Dinasyddion Egwyddorol, Gwybodus trwy’r Nodau Datblygu Cynaliadwy
Pryd: Dydd Mawrth, 28 Chwefror (16.00-18.00)
Lleoliad: Ar-lein Pris: Rhad ac am ddim
Ar gyfer athrawon ysgol gynradd ac uwchradd
Cofrestru: Ticedi ar gyfer: Datblygu Dinasyddion Egwyddorol, Gwybodus trwy’r Nodau Datblygu Cynaliadwy
Croeso i chi gysylltu â mi ag unrhyw gwestiynau.
Cofion gorau,
Sioned Cox
Gweinyddwr Prosiect Dysgu Byd-eang, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
Good news from the Welsh Centre for International Affairs! We have moved our February training course for primary and secondary school teachers on ‘Developing Ethical Informed Citizens through the Sustainable Development Goals’ online! It will now take place between 4 & 6p.m. on Tuesday, 28th February. Please sign up for the course here: https://www.eventbrite.co.uk/e/ethical-informed-citizenship-through-the-sustainable-development-goals-tickets-504326773957. It’s free! I hope that this will be an opportunity for us to share what we’ve done on Ethical Informed Citizenship in our different schools and to share ideas and resources. We look forward to seeing many of you there!
Details
Developing Ethical Informed Citizens through the Sustainable Development Goals
When: Tuesday, 28th February: 16.00 – 18.00
Where: Online Price: Free
For primary and secondary school teachers
Please don’t hesitate to contact me if you would like any further information.
Best wishes,
Sioned Cox
Global Learning Project Administrator, Welsh Centre for International Affairs
Rhwydwaith cenedlaethol ar greu dinasyddion dwyieithog y dyfodol
National Network Conversation - Creating bilingual citizens of the future
Angerddol am y Gymraeg neu angen ychydig o help i wella’r Gymraeg yn eich ysgol? Dyma gyfle i ddweud eich dweud.
Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, p'un a ydyn ni’n ei defnyddio gyda'n teuluoedd, yn ein cymunedau, yn yr ysgol neu’n canu Yma o Hyd yn y pêl-droed. Ry'n ni am i'n holl ddysgwyr deimlo bod y Gymraeg yn eu gwaed, ni waeth ble maen nhw'n byw nac i ba ysgol y maent yn mynd.
Er mwyn cefnogi hyn, fe gyhoeddon ni’r Fframwaith Cymraeg mewn addysg cyfrwng-Saesneg a deunyddiau atodol, yn Hydref 2022. Ry’n ni nawr angen eich help i ddeall sut mae'r fframwaith yn gweithio o ddydd i ddydd a pha gymorth ychwanegol sydd ei angen.
Ry’n ni hefyd am ddeall sut y gallwn ni gyd weithio'n well gyda'n gilydd i fynd i'r afael â rhwystrau, ac adeiladu ar gyfleoedd ar gyfer cefnogi dysgwyr mewn ysgolion a lleoliadau cyfrwng Saesneg ac ysgolion dwy iaith i fod yn ddinasyddion dwyieithog y dyfodol sy'n hyderus ac yn awyddus i ddefnyddio’u Cymraeg.
Byddwn yn trafod:
Pa gefnogaeth sydd ei angen arnoch chi, fel ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion, gyda dysgu ac addysgu Cymraeg mewn ysgolion a lleoliadau cyfrwng Saesneg.
sut gallwn ni roi hwb i sgiliau, mwynhad a hyder dysgwyr wrth ddefnyddio’r Gymraeg, fel eu bod nhw'n gallu dewis defnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i'r dosbarth a thrwy gydol eu bywydau
sut rydych chi'n datblygu dysgu ac addysgu’r Gymraeg a’r hyn sy'n gweithio'n dda neu sut rydych chi wedi goresgyn unrhyw heriau.
Bydd cyfle hefyd rannu profiadau a dysgu gan eraill. Felly, os oes gennych chi stori dda i'w rhannu am eich taith Gymraeg neu eisiau hel awgrymiadau a syniadau gan gydweithwyr i roi hwb i’r Gymraeg yn eich ysgol chi, ymunwch â ni. Bydd cofrestru i fynychu gwrs hon y Rhwydwaith Cenedlaethol yn fyw erbyn 6 Chwefror a bydd yn cael ei hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol a gan eich Gwasanaethau Gwella Ysgolion lleol.
Mae croeso i bawb sy'n ymwneud ag addysgu’r Gymraeg ar bob lefel ac ym mhob categori iaith, ble bynnag ry’ch chi ar eich taith.
Cymryd rhan - Cynllunio a Hwyluso ddydd Mercher 15 Chwefror
Ry’n ni am i'r pynciau ry’n ni'n eu trafod gael eu gyrru gennych chi, felly hoffem eich cymorth i gynllunio ac i hwyluso’r Sgwrs Genedlaethol Gwanwyn 2023 ar ddinasyddion dwyieithog y dyfodol. Byddai angen i chi fynychu cyfarfod cynllunio amser cinio ddydd Mercher 15fed Chwefror.
Defnyddiwch y ddolen isod i gofrestru eich diddordeb mewn hysbysu a/neu hwyluso'r sgwrs erbyn dydd Llun 13 Chwefror. Dylai hyn gymryd llai na 5 munud i'w gwblhau.
https://forms.office.com/e/wPdkAnAnYN
Passionate about Cymraeg or need some help to improve Cymraeg in your school? Tell us about it.
Cymraeg belongs to us all, whether we use it with our families, in our communities, in school or sing Yma o Hyd at the football. We want all our learners to feel that Cymraeg is in their blood, regardless of where they live or to which school they go.
To support this, we published the Framework for Welsh in English-medium Education and supporting materials in October 2022. We now need your help to understand how the framework is working day-to-day and what extra support is needed.
We also want to understand how we can all work better together to address the barriers to, and build on opportunities for, supporting learners in English medium and dual language schools and settings to be confident bilingual citizens of the future who are confident and happy to use their Cymraeg.
We will discuss:
what support you, as practitioners and school leaders, need with learning and teaching Welsh in English medium schools and settings.
how we can boost learners’ skills, enjoyment of and confidence in using Cymraeg, so they can choose to use Welsh beyond the classroom and throughout their lives.
how you are developing the learning and teaching of Cymraeg and share what is working well or how you have overcome any challenges.
You will also have the opportunity to share your experiences and learn from others. So, if you have a great story to share about your Cymraeg journey or simply want to pick up tips and ideas from colleagues to boost all things Cymraeg in your school, please join us. Registration to attend this National Network Conversation will go live by 6 February and will be promoted on social media and by your local School Improvement Services.
Everyone who’s involved with or has an interest in the teaching of Cymraeg at all levels is welcome, regardless of your school’s language category or where you are on your journey.
Get involved - Planning and Facilitating on Wednesday 15 Feb
We want the topics we discuss to be driven by you, so we would like your help to plan and facilitate the Spring 2023 National Conversation on Cymraeg. You would need to attend a planning meeting at lunchtime on Wednesday 15th Feb.
Please use the link below to register your interest in informing and/or facilitating the conversation by Monday 13 February. This should take less than 5 minutes to complete.
https://forms.office.com/e/wPdkAnAnYN
Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2023: Archebu Nawr ar Agor!
Llangollen International Eisteddfod 2023: Bookings Now Open!
Mae archebu nawr ar agor ar gyfer ymweliadau ysgolion â Llangollen 2023! - Anfonwch yr e-bost hwn at ysgolion/sefydliadau yn eich ardal chi a allai fod â diddordeb.
Rydym yn falch iawn o fod yn anfon ffurflenni archebu ar gyfer ein Diwrnodau Plant ac Ieuenctid yr haf hwn, ar 05 a 06 Gorffennaf. Mae mwy o fanylion wedi'u cynnwys ar y PDF 'cadw'r dyddiad' sydd ynghlwm, a gallwch hefyd ddod o hyd i bopeth ar ein gwefan: www.llangollen.net. Mae ymweliad â'r Eisteddfod Ryngwladol lawn gyntaf ers 2019 yn ddiwrnod allan diwedd tymor perffaith.
Byddwn yn ychwanegu cyfieithiadau Cymraeg i'n gwefan cyn diwedd yr wythnos.
Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach,
cysylltwch â'r swyddfa ar 01978 862 001 (10am- 2pm, dydd Mawrth – dydd Iau) neu ewch i'n gwefan www.llangollen.net.
Dilynwch ni ar Facebook a Twitter a dewch o hyd i ni ar YouTube.
Croeso rhyngwladol cynnes yn llawn
Mae lliw a cherddoriaeth yn disgwyl...
Booking is now open for schools visits to Llangollen 2023! – Please forward this email to schools/organisations in your area whom may be interested.
We are delighted to be sending out booking forms for our Children's and Youth Days this summer, on 05 and 06 July respectively. More details are included on the attached 'save the date' PDF, and you can also find everything on our website: www.llangollen.net. A visit to the first full International Eisteddfod since 2019 is the perfect end of term day out.
We will be adding documents in Welsh translation to our website before the end of the week.
If you would like any further information, please
contact the office on 01978 862 001 (from 10am- 2pm, Tuesday – Thursday) or
visit our website www.llangollen.net.
Follow us on Facebook and Twitter and find us on YouTube.
A warm international welcome full of colour and music awaits...