Ap SchoolComms
SchoolComms App
Nodyn i'ch atgoffa bod ap School Gateway yr ysgol ar gael yn Gymraeg. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i ysgolion egluro i rieni y bydd angen iddynt ddewis Cymraeg o fewn eu gosodiadau ffôn i weld yr ap yn Gymraeg a bydd yr ap yn ymddangos unwaith y bydd wedi ei lawrlwytho o App Store/Google Play.
A reminder that the School Gateway school app is available in Welsh. To enable this, schools will need to explain to parents that they should choose Welsh within their phone settings to see the app in Welsh, and the app will appear once it has been downloaded from App Store/Google Play.
Fforwm Gwyddoniaeth Ieuenctid Rhyngwladol Llundain
London International Youth Science Forum
Ers rhai blynyddoedd bellach, mae teulu Morgan o Langefni, a gollodd eu mab Tomos Wyn Morgan o dan amgylchiadau trist a sydyn beth amser yn ôl, yn cynnig ysgoloriaeth i gefnogi un disgybl o Ynys Môn yn flynyddol i fynychu Fforwm Gwyddoniaeth yn Llundain a hynny er cof am Tomos.
Mae'r Fforwm yn ddigwyddiad preswyl pythefnos sy’n cael ei gynnal yng Ngholeg Imperial Llundain, ac mae'n denu dros 400 o wyddonwyr ifanc mwyaf blaenllaw'r byd rhwng 17 a 21 oed o fwy na 60 o wledydd.
Dros y blynyddoedd, mae gwyddonwyr ifanc disgleiriaf Ynys Môn wedi elwa’n fawr o’r profiad o gael bod yn rhan o’r Fforwm hwn, ac eleni Mili-Anne Archer o Ysgol Uwchradd Bodedern fydd yn mynychu’r Fforwm.
Rydym yn llongyfarch Mili-Anne ac yn gobeithio y bydd yn mwynhau ac yn elwa o’r profiad anhygoel hwn.
For some years now, the Morgan family from Llangefni, who lost their son Tomos Wyn Morgan under sad and sudden circumstances some time ago, have been offering a scholarship to support one Anglesey pupil every year to attend a Science Forum in London in memory of Tomos.
The Forum is a two-week residential event held at the Imperial College London, and attracts over 400 of the world's leading young scientists aged between 17 and 21 from more than 60 countries.
Over the years, Anglesey's brightest young scientists have benefited greatly from the experience of being part of this Forum, and this year Mili-Anne Archer from Ysgol Uwchradd Bodedern will be attending the Forum.
We congratulate Mili-Anne and hope she enjoys and benefits from this amazing experience.
Newyddlen Diogelu Data Ysgolion ar gyfer Haf 2023
School Data Protection Newletter Summer 2023
Datganiad Ysgrifenedig: Galluogi Dysgu 14-16 o fewn Cwricwlwm i Gymru
Written Statement: Enabling 14-16 Learning within Curriculum for Wales
Cyflwyniad Casglu Gwastraff o Adeiladau'r Cyngor
Collecting Waste from Council Buildings Presentation
Cytundeb Biniau Newydd
New Bins Contract
Os oes angen biniau mewnol ar gyfer eich ysgol, cysylltwch ag Ifan Hughes yn yr Adran Wastraff - IfanHughes@ynysmon.llyw.cymru
If you require internal bins for your school, please contact Ifan Hughes in the Waste Department - IfanHughes@ynysmon.llyw.cymru
Trwyddedau Uwchraddio Google Teaching and Learning
Google Teaching and Learning Upgrade Licences
Diweddariad cyflym i'ch hysbysu bod pris y trwyddedau Uwchraddio Google Teaching and Learning wedi ei gadarnhau fel £2.25 y drwydded, y defnyddiwr, y mis ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/24.
Mae Google yn rhedeg sesiwn gyda ni am 4pm ar 10 Gorffennaf i amlygu teclynnau, nodweddion a buddion y trwyddedau.
A quick update to let you know that the price of these Google Teaching and Learning Upgrade licences is confirmed as £2.25 per licence, per user, per month for the 2023/24 academic year.
Google are running a session with us at 4pm on 10 July to highlight the tools, features and benefits of the licences.’
Digwyddiadau'r Academi Arweinyddiaeth ar gyfer Gorffennaf / Awst
Leadership Academy Events for July / August
Bob mis bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn rhannu'r Hysbysiad Cyfryngau a Digwyddiadau sydd ynghlwm â chi. Nod y ddogfen hon yw rhoi gwybodaeth allweddol i chi am y digwyddiadau, y gweithgareddau a’r cyhoeddiadau sydd i ddod gan Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru. Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech rannu'r cyfleoedd hyn â'ch cydweithwyr a'ch rhwydweithiau.
Each month the National Academy for Educational Leadership Wales will be sharing the attached Media & Events Notice with you. This document aims to provide you with key information on the upcoming events, activities and publications from the National Academy for Educational Leadership Wales. We would be very grateful if you could share these opportunities with your colleagues and networks.
System/Drysau Mynediad Ysgolion
School Access Systems/Doors
Mae ambell i sylw/ymholiad wedi dod yn ddiweddar ynglŷn â systemau trydanol mynediad/allanfa adeiladau ysgolion (gan fod ambell i ysgol wedi gosod system ei hun). Ar gais yr Adran Eiddo, gofynnwn yn garedig i chi gwblhau’r holiadur cryno iawn yma erbyn 13.07.23, os gwelwch yn dda.
Some comments/queries have recently arisen regarding school building entrance/exit electrical systems (as some schools have installed their own systems). At the Property Department's request, we kindly ask you to complete this very concise questionnaire by 13.07.23 please.
Llyfryn Addysg Cydberthnas a Rhywioldeb
Relationship and Sexuality Education Booklet
Nid yw rhai ysgolion wedi derbyn y llyfrynnau hyn eto. Ar gyfer yr ysgolion nad ydynt wedi derbyn rhai, byddant ar gael i chi yn y Siambr ddydd Gwener yma, wedi’u labelu ag enw eich ysgol. Felly os oes pecyn yn y Siambr yn perthyn i chi, gofynnwn yn garedig i chi fynd ag ef hefo chi ar ôl y Fforwm os gwelwch yn dda.
Some schools haven't yet received these booklets. For the schools that haven't received theirs, they will be available at the Chamber this Friday, labelled with the name of your school. Therefore, if there is a set of booklets at the Chamber belonging to you, we kindly ask that you take them with you at the end of the Forum please.
Creu Ffilmiau
Film Making
Arolwg Lles Sector Addysg Cymru 2023
Wales Education Sector Wellbeing Survey 2023
Mae NEU Cymru yn falch iawn o gyhoeddi lansiad ein Harolwg Lles Gweithwyr Addysg 2023. Mae hwn yn ddilyniant i’r arolwg iechyd meddwl a lles a gynhaliwyd gan yr undeb ym mis Gorffennaf 2021, a ddenodd dros 1600 o ymatebion.
Darparodd yr ymatebion hyn fanylion sylweddol a alluogodd yr undeb i ddechrau trafodaethau ystyrlon gyda’r rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol yng Nghymru ar wella lles gweithwyr mewn addysg.
Beth sydd wedi newid?
Nawr bod pandemig Covid-19 y tu ôl i ni yn swyddogol a bod cyflogwyr wedi bod yn rhoi mwy o bwys ar les gweithwyr addysg, rydym am ddarganfod beth sydd wedi newid, beth sydd wedi gwella, a beth sydd dal angen ei wneud.
Mae'r arolwg newydd yn adeiladu ar y mewnwelediadau a gawsom o'r un blaenorol a'i nod yw asesu'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud hyd yn hyn. Rydym eisiau gwybod beth sydd wedi gwella ers yr arolwg diwethaf a nodi meysydd sydd angen sylw o hyd. Ein nod yw cael dealltwriaeth gynhwysfawr o gyflwr iechyd meddwl a lles presennol gweithwyr addysg yng Nghymru.
Bydd Arolwg Lles Gweithwyr Addysg Cymru 2023 yn ymdrin ag agweddau amrywiol ar les, gan gynnwys emosiynau, cydbwysedd bywyd a gwaith, boddhad swydd, mynediad at wasanaethau cymorth, ac amgylcheddau gwaith cyffredinol. Rydym wedi cynllunio ystod eang o gwestiynau i gael golwg gyfannol ar brofiadau a safbwyntiau gweithwyr addysg.
Yn agored i BAWB sy’n gweithio yn y sector addysg yng Nghymru, waeth beth fo’u rôl, swydd neu aelodaeth undeb, mae’r arolwg yn gwbl gyfrinachol.
Bydd yr arolwg yn parhau i fod ar agor tan 23:45 ddydd Llun
31 Gorffennaf a bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi ym mis Medi 2023.
NEU Cymru is delighted to announce the launch of our Education Worker Wellbeing Survey 2023. This is a follow-up to the mental health and wellbeing survey conducted by the union in July 2021, which attracted over 1600 responses.
These responses provided significant detail that enabled the union to start meaningful discussions with most of the local authorities in Wales on improving worker wellbeing in education.
Now that the Covid-19 pandemic is officially behind us and employers have been giving more importance to the wellbeing of education workers, we want to find out what's changed, what's improved, and what still needs work.
The new survey builds on the insights we gained from the previous one and aims to assess the progress we've made so far. We want to know what has improved since the last survey and identify areas that still need attention. Our goal is to get a comprehensive understanding of the current state of mental health and wellbeing among education workers in Wales.
The Wales Education Worker Wellbeing Survey 2023 will cover various aspects of wellbeing, including emotions, work-life balance, job satisfaction, access to support services, and overall work environments. We have designed a wide range of questions to capture a holistic view of the experiences and perspectives of education workers.
The survey will remain open until 23:45 on Monday 31st July and results will be published in September 2023.