'Bydd ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i ddatblygu yn:
ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n:
gosod safonau uchel iddyn nhw eu hunain ac yn chwilio am heriau ac yn eu mwynhau
datblygu corff o wybodaeth ac sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i gysylltu’r wybodaeth honno a’i chymhwyso mewn gwahanol gyd-destunau
ymholgar ac yn mwynhau datrys problemau
gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg
gallu egluro’r syniadau a chysyniadau y maen nhw’n dysgu amdanyn nhw
gallu defnyddio rhif yn effeithiol mewn gwahanol gyd-destunau
deall sut i ddehongli data a chymhwyso cysyniadau mathemategol
defnyddio technolegau digidol yn greadigol i rhannu gwybodaeth, dod o hyd iddi a’i dadansoddi
ymchwilio ac yn gwerthuso eu canfyddiadau’n feirniadol
ac sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau.'
'Bydd ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i ddatblygu yn:
gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n:
cysylltu ac yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynnyrch
meddwl yn greadigol er mwyn ail-lunio a datrys problemau
adnabod cyfleoedd ac yn manteisio arnyn nhw
mentro’n bwyllog
arwain ac yn chwarae rolau gwahanol mewn timau’n effeithiol ac yn gyfrifol
mynegi syniadau ac emosiynau drwy wahanol gyfryngau
rhoi o’u hegni a’u sgiliau fel y bydd pobl eraill yn elwa
ac sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.'
'Bydd ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i ddatblygu yn:
ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n:
canfod, yn gwerthuso ac yn defnyddio tystiolaeth wrth ffurfio barn
trafod materion cyfoes ar sail eu gwybodaeth a'u gwerthoedd
deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a'u hawliau dynol a democrataidd
deall ac yn ystyried effaith eu gweithredoedd wrth ddewis a gweithredu
wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol
parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol
dangos eu hymrwymiad i sicrhau cynaladwyedd y blaned
ac sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd.'
'Bydd ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i ddatblygu yn:
yn unigolion iach, hyderus sydd:
â gwerthoedd sicr ac sy’n sefydlu eu credoau ysbrydol ac egwyddorol
yn meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, cadernid ac empathi
yn cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer corff ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywyd pob dydd
yn gwybod sut i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen i gadw’n ddiogel ac iach
yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol
yn gwneud penderfyniadau pwyllog ynghylch eu ffordd o fyw ac yn rheoli risg
â’r hyder sydd ei angen i gymryd rhan mewn perfformiadau
yn ffurfio cydberthnasau cadarnhaol wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd
yn wynebu heriau ac yn eu goresgyn
â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddelio â’u bywyd pob dydd mor annibynnol ag y gallan nhw
ac sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.'