CWRICWLWM BLWYDDYN 8
CYNLLUNIO CWRICWLWM
Cynlluniwyd cwricwlwm i wireddu gweledigaeth yr ysgol ar gyfer Medi 2023. Fel rhan o ddylunio’r cwricwlwm:
Bu arweinwyr ysgol ac athrawon cwblhau ymchwil yn ogystal â mynychu cyflwyniadau dysgu proffesiynol ar y cwricwlwm.
Cytunodd y tîm staff cyfan ar nodweddion allweddol cyd-destun yr ysgol, disgyblion a’r gymuned i lywio’r dulliau a’r profiadau sydd fwyaf addas ar gyfer anghenion pob disgybl.
Rhoddwyd ystyriaeth lawn i’r pedwar diben ynghyd ag agweddau mandadol pellach y cwricwlwm.
Gweithiodd yr holl staff gyda'i gilydd i nodi'r newidiadau gofynnol i'n darpariaeth ac arferion presennol.
Darperir cyfleoedd i athrawon yr ysgol weithio gyda staff o'r ysgolion clwstwr i gefnogi ei gilydd wrth gynllunio’r cwricwlwm, gan sicrhau cynnydd ar hyd y continwwm 3-16.
Cynllunnir cyfleoedd i bob disgybl gymryd rhan mewn trafodaethau ar ddechrau a diwedd y cyd-destunau dysgu, gan roi llais i ddisgyblion yn yr hyn y maent yn ei ddysgu.
Clustnodir cyfnodau penodol ar gyfer rhannu gwybodaeth gyda rhieni/gyrfaoedd am y cwricwlwm a’r amrywiol ffyrdd y gallant gefnogi’r disgyblion o fewn a thu allan i amgylchedd yr ysgol.
Cydweithir ac ymgynghorir gydag ystod o ddarparwyr o’r gymuned leol ac yn ehangach ar ddarparu profiadau unigryw a chyfoethog.
ELFENNAU GOFYNNOL Y CWRICWLWM
Mae cwricwlwm Ysgol Eifionydd yn addas ar gyfer pob disgybl ac mae’n eu galluogi i wireddu’r pedwar diben. Mae’n ystyried ac yn ymateb i’r cyfleoedd a’r heriau unigryw sy’n cyflwyno eu hunain i unigolion a grwpiau o ddisgyblion. Mae cwricwlwm yr ysgol yn eang a chytbwys ac yn cynnwys cyfleoedd dysgu o fewn ac ar draws pob un o’r Maes Dysgu a Phrofiad. Mae’n cwmpasu’r cysyniadau yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn darparu cynnydd priodol yn unol ag egwyddorion cynnydd. Mae hefyd yn cyd-fynd â gofynion gorfodol o addysgu Cymraeg, Saesneg a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM). Yr elfennau gorfodol o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh). Mae sgiliau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol wedi’u hymwreiddio drwy’r cwricwlwm.