DILYNIANT, ASESU 

A CHYNNYDD

CYNNYDD AC ASESU

Credwn fod cynnydd ac asesu yn allweddol i sicrhau ein bod yn cyflawni’n gweledigaeth. Yn sail i gwricwlwm Ysgol Eifionydd mae’r egwyddorion cynnydd mandadol sy’n disgrifio'r hyn mae cynnydd yn ei olygu i ddisgyblion ynghyd a’r galluoedd a’r ymddygiadau y bydd ein staff yn ceisio’u cefnogi i sicrhau cynnydd pob disgybl. Caiff ein trefniadau asesu eu llywio gan yr egwyddorion cynnydd hyn. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau asesu ar sail tystiolaeth i alluogi pob disgybl unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol. Rydym yn sicrhau bod ein prosesau yn nodi disgyblion sydd angen cymorth neu her bellach ac yn darparu gwybodaeth ansoddol gyfoethog i ni er mwyn llywio’r camau nesaf mewn dysgu ar gyfer unigolion a grwpiau o ddisgyblion. Mae ein trefniadau asesu yn sicrhau ymgysylltiad gweithredol rhwng disgyblion ac athrawon ac mae’n seiliedig ar fyfyrio parhaus ar gynnydd y disgybl, beth yw eu camau nesaf a beth sydd ei angen i’w cefnogi i gyflawni’r rhain.

DILYNIANT, ASESU A CHYNNYDD

Y CYLCH ASESU

EGWYDDORION ASESU