YSGOL EIFIONYDD

PORTHMADOG 

CWRICWLWM I GYMRU 


'Ymlaen'

LLUNIO'R WELEDIGETH

Crëwyd gweledigaeth Ysgol Eifionydd drwy ymgynghori â rhanddeiliaid dros gyfnod o flwyddyn. Lluniwyd drafft terfynol yn dilyn trafodaethau gyda’r staff, y llywodraethwyr,  y cyngor ysgol ac ymgynghoriad â thrawstoriad o rieni. Pwysleisiwn mai gweledigaeth ‘fyw’ ydi hi fydd yn esblygu wrth i’r ysgol ymateb i newidiadau a datblygiadau o fewn yr ysgol, y gymuned ehangach a thu hwnt. Mae’r weledigaeth yn treiddio pob agwedd o fywyd yr ysgol.



GWELEDIGAETH YSGOL EIFIONYDD

PORTHMADOG.....

tref harbwr ar aber yr Afon Glaslyn, tref sydd â chyfoeth o hanes morwrol. Enwyd y dref ar ôl W.A. Maddocks a’i gynllun uchelgeisiol i adeiladu arglawdd "Y Cob" sy’n gyfrifol am enw'r dref. Yn hanesyddol roedd Porthmadog yn borthladd prysur ac hanfodol ar gyfer y fasnach lechi ryngwladol. Bellach twristiaeth, lletygarwch, amaeth, mangynhyrchu a manwerthu yw sail yr economi leol.

Y FRO.....

lleolir ddalgylch yr ysgol o fewn etholaeth Dwyfor Meirionnydd. Ysgol Eifionydd yw’r unig ysgol uwchradd leol ar gyfer trefi Porthmadog, Cricieth ac ardal wledig Eifionydd. Mae’r ardal yn ymestyn o bentref Llanystumdwy yn y gorllewin at Feddgelert yn y dwyrain a Garndolbenmaen yn y gogledd. Mae hi’n ardal naturiol Gymraeg ei hiaith ac mae iddi hanes ddiwylliannol gyfoethog.

GWELEDIGAETH YSGOL EIFIONYDD.....

datblygu cwricwlwm eang ac arloesol a sicrhau addysg o’r safon uchaf i’n disgyblion. Wrth gynllunio beth yr ydym yn ei addysgu bydd sut a pham yr ydym yn addysgu'r un mor allweddol.

Ein gweledigaeth ar gyfer  Cwricwlwm Ysgol Eifionydd yw cefnogi disgyblion yr ardal i gael mynediad llawn at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau y maent eu hangen ym myd gwaith, ar gyfer dysgu gydol oes, ac er mwyn bod yn ddinasyddion gweithredol yn lleol, yn genedlaethol a thu hwnt.

GWIREDDU’R WELEDIGAETH.....

Y DDARPARIAETH ADDYSGOL.....

trwy brofiadau eang a chynlluniedig dylai dysgu gyfuno ystod eang o wybodaeth a sgiliau gan alluogi’r dysgwyr i’w defnyddio a’u cymhwyso mewn cyd-destunau newydd a heriol. Trwy osod cyd-destunau lleol, cyfoes a deinamig i’n disgyblion byddwn yn darparu cwricwlwm perthnasol a real sydd yn arwain at ddysgu organig gyda’r disgyblion yn datblygu chwilfrydedd am destunau, syniadau, cysyniadau a phroblemau. Bydd egwyddorion cynnydd y Cwricwlwm yn greiddiol wrth i ni gefnogi'n disgyblion i chwilio am ffyrdd i archwilio a bodloni’r chwilfrydedd yma.

CYNNYDD.....

defnyddir datganiadau dysgu Cwricwlwm i Gymru i alluogi disgyblion i ddatblygu dealltwriaeth gynyddol ddyfnach ar hyd y daith ddysgu ac i ddangos cynnydd a dealltwriaeth fwy soffistigedig o’r wybodaeth, syniadau a’r egwyddorion ym mhob maes.

Y PEDWAR DIBEN.....

drwy sicrhau profiadau eang, cytbwys ac integredig arfogir ein disgyblion i gyfuno profiadau, gwybodaeth a sgiliau wrth iddynt fynd ar drywydd y pedwar diben. Mae cyfrifoldeb ar bob aelod o staff yr ysgol i ddarparu hinsawdd ac addysgeg sy’n meithrin dysgwyr uchelgeisiol ac abl sydd yn gyfranwyr mentrus a chreadigol ac yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith. Ein blaenoriaeth fel ysgol ydi lles ein disgyblion a gweithredir o fewn yr ysgol a thu hwnt i hybu ac annog ein disgyblion i ddatblygu’n unigolion iach, hyderus, egwyddorol a gwybodus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas yng Nghymru a’r byd.

Y DAITH.....

bydd rôl athrawon, disgyblion, rhieni, partneriaid a chyfranogwyr yn allweddol wrth i ni ddiwygio a gwireddu’n cwricwlwm a’n dyhead ydi sicrhau bod ein holl staff, ein disgyblion, ein rhieni a’n cymuned leol gyda ni ar y daith wrth i ni symud YMLAEN fel ysgol.

YMATEB A DATBLYGU

Mae gweledigaeth a chwricwlwm Ysgol Eifionydd yn cael eu hadolygu'n barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y disgyblion. Drwy gydol y flwyddyn bydd amrywiaeth o weithgareddau hunanwerthuso i lywio ein dealltwriaeth o effeithiolrwydd ein cwricwlwm a’r adolygu gofynnol. Byddwn yn gweithio o fewn ein hysgol, ar draws y clwstwr ac mewn partneriaeth â llywodraethwyr, y consortia rhanbarthol, yr awdurdod lleol, a thu hwnt i ddatblygu ymhellach ddealltwriaeth gyffredin o gynnydd ac i sicrhau continwwm dysgu 3-16 o ansawdd uchel i bawb.