Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi’u harfogi’n dda i gefnogi rhieni o gefndiroedd di-Gymraeg gyda llawer o offer i’ch helpu. Gall ysgolion anfon gwaith cartref allan yn ddwyieithog, a fydd yn helpu i feithrin sgiliau cyfieithu eich plentyn a bydd athro neu athrawes eich plentyn yn fwy na hapus i’ch helpu chi gyda gwaith cartref eich plentyn. Mae ymchwil wedi dangos hefyd bod plant sy’n gorfod cyfieithu tasg i’w rhieni’n cael dealltwriaeth well am y pwnc, gan bod y broses o gyfieithu’n atgyfnerthu’r pwnc ym meddwl y plentyn.
Gall y clip fideo hwn ar gyfer rhieni a gofalwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg gartref ond sydd â phlant mewn addysg Gymraeg fod yn ddefnyddiol hefyd. Daw gan yr Athro Enlli Thomas o Brifysgol Bangor.