"Y rheswm imi ddewis addysg cyfrwng Cymraeg ac Ysgol Hafan y Môr, oedd rhoi cyfle i'm plant ddysgu iaith ychwanegol a'r gallu i gyfathrebu trwy'r Saesneg a'r Gymraeg. Ni chafodd fy mhartner a minnau gyfle i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg felly rydym yn hapus bod ein plant yn gallu gwneud hynny. Roedd cael y cyfle i anfon ein dwy ferch i'r Cylch Meithrin sydd wedi'i integreiddio yn yr ysgol yn help mawr wrth drosglwyddo i'r dosbarth meithrin. Fe roddodd hyn sylfaen dda yn y Gymraeg iddynt hefyd ". Ms Zura, Dinbych-y-pysgod.
"Trosglwyddodd ein plant i Ysgol Caer Elen ddwy flynedd yn ôl a gyda diolch i'r Ganolfan Iaith a'r addysgu rhagorol, maent bellach yn gwbl gyfarwydd yn y Gymraeg. Mae'r profiad cyfan wedi bod yn un hollol gadarnhaol, yn enwedig gan fod eu dealltwriaeth o'r Gymraeg yn gyfyngedig iawn pan ddechreuon nhw yn yr ysgol ". Andrew & Mandy Stirling.
"Dewisais i'm plant fynychu Hafan y Môr ac addysg cyfrwng Cymraeg gan fy mod yn teimlo y byddent yn elwa'n fawr o ddysgu Cymraeg, nawr ac yn y dyfodol. Fel oedolyn, hoffwn pe bawn wedi cael cyfle i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf mor falch o sut mae fy mab 6 oed yn gwneud yn yr ysgol, mae ei sgiliau Cymraeg mewn siarad a darllen yn rhagorol ac yn gwella trwy'r amser. Mae pob un o'i athrawon wedi bod mor gefnogol a chymwynasgar ac mae fy merch leiaf hefyd wedi ymgartrefu'n barod ".Ms Smith, Dinbych-y-pysgod.
“Mae'r profiad wedi bod yn gadarnhaol iawn i ni gan ein bod wedi synnu pa mor gyflym y mae ein merch wedi gafael ar y Gymraeg o fewn blwyddyn ar ôl trosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg. Nid yn unig hynny, mae hi wedi ymgartrefu yn ei hysgol newydd yn well nag y gallem fod wedi'i ddisgwyl erioed, ac mae hynny oherwydd natur gefnogol, gyfeillgar yr ysgol lle mae pob un o'r plant yn cael eu parchu. " Maria, Aberdaugleddau