Gyda dros 65,000 o blant mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yng Nghymru, pam mae rhieni'n ystyried bod y Gymraeg yn bwysig i'w plant? Cliciwch yma i ddarllen gwybodaeth Llywodraeth Cymru ar y siwrnai ddwyieithog.
Y rheswm yw y bydd yn effeithio ar weddill eu bywydau ... Mae’n debygol o effeithio ar
hunaniaeth plentyn,
rhwydweithiau o ffrindiau a chydnabod,
addysg,
cyflogaeth,
priodas,
dewis fan preswylio,
teithio a
ffordd o feddwl.
Gallant fwynhau diwylliant cyfoethog sy’n rhan o’n treftadaeth fyw gydag ystod o wyliau megis yr eisteddfodau.
Gallant ddarganfod llenyddiaeth Gymraeg enwog gan awduron ysbrydoledig
Byddant yn gallu darllen ac ysgrifennu mewn dwy iaith i ollwng y ffrwyn ar eu dychymyg a’u creadigrwydd
Gallant fwynhau ystod lawn o raglenni teledu a’r cynnwys lliwgar a gynhyrchir yn arbennig ar gyfer plant gan S4C.
Gallant fod yn rhan o fywyd cymunedol cyfoethog gan fwynhau llu o weithgareddau yn Gymraeg, o wneud ffrindiau ar gae rygbi i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel rhan o glwb.
Gallant ddarganfod y sîn roc Gymraeg fywiog gyda cherddoriaeth anhygoel i’w mwynhau.
Byddant yn cael profiad diwylliannol ehangach a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth ehangach am wahaniaethau rhwng ffyrdd o fyw a goddefgarwch tuag at ddiwylliannau eraill