Nod y tudalennau hyn yw cynorthwyo athrawon sy’n darparu cyrsiau hybrid e-sgol i:
Meithrin perthynas effeithiol gyda dysgwyr a chreu awyrgylch lle mae dysgwyr yn teimlo’n gyfforddus ac yn hyderus i gyfrannu’n effeithiol at y dysgu
Sicrhau dysgu gweithredol effeithiol wrth ddefnyddio dull hybrid o gyflwyno eu cyrsiau
Sicrhau defnydd effeithiol o’r strategaethau dysgu sy’n caniatáu dysgu gweithredol – lle gall ddysgwyr ddod o hyd i wybodaeth, yn ei ddefnyddio ac yn myfyrio
Mae Microsoft Teams yn blatfform y gellir ei ddefnyddio i gynnal gwersi rhithwir, creu a dosbarthu aseiniadau, ac i asesu cynnydd dysgwyr.
Mae Google Classroom yn blatfform y gellir ei ddefnyddio i gynnal gwersi rhithwir, creu a dosbarthu aseiniadau, ac i asesu cynnydd dysgwyr.
Mae OneNote Class Notebook yn blatfform y gall athrawon ei ddefnyddio mewn MS Teams i rannu cynnwys a chydweithio â dysgwyr. Gall ddysgwyr ddefnyddio Class Notebook hefyd fel eu llyfr gwaith digidol a bydd mynediad hawdd ato.
Llwyfan trafod fideo yw Flip sy'n caniatáu i athrawon a ddysgwyr ryngweithio trwy ymatebion fideo byr trwy asesiadau ar Microsoft Teams.