Cysylltu Dysgu Hybrid - Rhwydwaith
Cysylltu Dysgu Hybrid - Rhwydwaith
Fel rhan o'r gefnogaeth barhaus i athrawon ysgolion uwchradd sy'n dysgu cyrsiau dysgu hybrid ledled Cymru, mae e-sgol yn lansio Rhwydwaith Athrawon Dysgu Hybrid. Nod y fenter hon yw meithrin cydweithredu, datblygiad proffesiynol, ac arloesedd ym maes dulliau dysgu hybrid.
Bydd y rhwydwaith yn cynnwys gweithdai ar-lein a gynhelir ar ôl ysgol, a hwylusir gan e-sgol, a bydd yn archwilio themâu penodol sy'n berthnasol i ddysgu hybrid.
Cynhaliwyd a recordiwyd tri gweithdy y gellir eu gweld isod:
Crëwyd Timau MS ar gyfer y rhwydaith y gall athrawon ymuno. Bydd gwybodaeth ddefnyddiol a deunyddiau cymorth yn cael eu rhannu yn y tîm hwn. I ymuno â'r tîm, cliciwch yma.
Yn y fideo hon mae Bryony Evett-Hackfort yn rhannu'r ystyriaethau wrth ddefnyddio AI yng Ngholeg Sir Gâr, gan gynnwys defnyddio AI i wella yn hytrach na disodli eu harfersion dysgu ac addysgu, a'u canllawiau 'Graddfa Asesu AI'.
Mae'r fideo hon mae WCLD yn rhannu eu harbenigedd wrth rannu awgrymiadau a dulliau ymarferol ar gyfer dysgu hybrid a ddefnyddir yn eu harferion.
Dyma'r WCLD yn rhannu pedwar dull gwahanol o ddysgu hybrid / ar-lein gwahanol, gan archwilio'r rhesymeg y tu ôl i bob un, y prif ystyriaethau ymareferol, y llwyfannau a defnyddir, yn osgytal â'u cryfderau a'r meysydd i'w datblygu.