Gweminarau Hyfforddi
Gweminarau Hyfforddi
Mae'r fideo hwn yn egluro sut i drefnu a strwythuro'ch Class Notebook ar gyfer y cwrs a'ch myfyrwyr. Mae cael strwythur i'r ffolder yn sicrhau y gallwch chi a'ch myfyrwyr gael mynediad at y cynnwys a'r tasgau perthnasol yn hawdd yn lle treulio amser yn chwilio'n ddibwrpas am y ffolder neu'r ddogfen gywir.
Ar ôl trefnu eich Class Notebook, mae angen uwchlwytho'r cynnwys. Fel athrawon profiadol, bydd gennych chi lu o adnoddau a fydd yn cael eu defnyddio wrth gyflwyno'r cwrs. Mae'r fideo hwn yn egluro'r gwahanol ffyrdd o uwchlwytho'ch adnoddau, sut y gellir dosbarthu'r tasg i'r myfyrwyr eu cwblhau fel tasgau annibynnol a chydweithredol.
Mae'r fideo hwn yn crynhoi'r pwyntiau a godwyd yn y fideos blaenorol, gan gynnwys sut i ddosbarthu aseiniad Class Notebook trwy MS Teams, ac yna'n gorffen ar sut y gellir rhoi adborth ar waith fyfyrwyr. Mae’r mathau o adborth y gellir eu rhoi yn cynnwys,
adborth ysgrifenedig (wedi'i deipio neu ei ysgrifennu gyda stylus)
adborth ar lafar (sain neu wedi'i recordio)