YN AGORED HYD AT Y 30ain O FAWRTH 2020:
Datblygu eitem y gellir ei wisgo sy'n rhoi adborth i'r defnyddiwr ac/neu'r tîm cymorth am iechyd a/neu diogelwch y defnyddiwr, er enghraifft, nifer y camau, cyfradd curiad y galon, os oes rhwystur o'u blaen, os yw'r defnyddiwr mewn tywyllwch...
Mae hyfforddwyr a chwaraewyr ym maes chwaraeon yn defnyddio dyfeisiau monitro gweithgarwch i adolygu perfformiad, iechyd a ffitrwydd chwaraewyr yn ystod sesiynau ymarfer a gemau. Mae hyn yn fodd i'r hyfforddwr adolygu pob chwaraewr, a sut y gellir gwella sesiynau ymarfer ar gyfer gemau'r dyfodol. Gall chwaraewr adolygu ei berfformiad ei hun a'i gymharu â sesiynau blaenorol a chwaraewyr eraill yn yr un tîm, a hynny er mwyn cael dealltwriaeth o'i iechyd a'i ffitrwydd a gweld pa feysydd sydd angen eu datblygu ymhellach. Mae defnyddio monitor gweithgarwch yn ystod gêm rygbi yn fodd i'r chwaraewr gael adborth yn syth am ei berfformiad, ac yn fodd i'r hyfforddwr fonitro pob chwaraewr a gwneud newidiadau i'r tîm. Gellir cymharu'r data a gesglir yn ystod gêm â sesiynau ymarfer er mwyn adolygu pob chwaraewr a'r tîm. Bydd monitor gweithgarwch all dracio System Leoli Fyd-eang (GPS) pob chwaraewr yn manylu ynghylch eu lleoliad yn ystod gêm, ble oedden nhw pan oedden nhw'n sbrintio ac am ba mor hir.
Dyfais y byddwch i gyd yn gyfarwydd â hi yw Fitbit. Defnyddir hwn ar lefel bersonol gan chwaraewyr sydd am ddeall eu perfformiad yn ystod ymarfer/gemau. Gwisgir y ddyfais hon fel oriawr, ac mae'n rhoi adborth am gyfradd curiad y galon, camau, sawl munud yn ymarfer, cyflymder, pellter, faint o amser yn llonydd, GPS a llawer mwy. Mae'r synwyryddion hyn oll yn arddangos yr adborth ar sgrîn fechan ar yr oriawr, a wisgir gan y defnyddiwr. Rhydd hyn adborth iddynt yn syth yn ystod ymarfer. Pan fyddant wedi gorffen ymarfer gallant uwchlwytho'r data i'r ap, sy'n fodd i'r defnyddiwr gymharu data a gasglwyd â sesiynau blaenorol a data cyfeillion ar yr ap. Mae hyn yn debyg iawn i oriawr glyfar, sy'n rhoi adborth tebyg i'r defnyddiwr yn ystod ac ar ôl gweithgarwch corfforol. Mae'r ddyfais hon yn defnyddio'r synwyryddion a ganlyn: mesurydd cyflymu 3-echel, geirosgop, cwmpawd, synhwyrydd golau, synhwyrydd curiad y galon optegol, altimedr a thechnoleg Bluetooth er gyfer cyfathrebu â'r ffôn wrth drosglwyddo data.
Monitor gweithgarwch yw Apex statsports a ddatblygwyd ar gyfer y farchnad chwaraeon i fonitro perfformiad chwaraewyr yn ystod sesiynau ymarfer/gemau. Mae'r system hon yn defnyddio amrywiaeth o ddyfeisiau sy'n tynnu data at ei gilydd i ddarparu gwybodaeth am y chwaraewr. Defnyddir dyfeisiau i fesur agweddau penodol ar y chwaraewr, a gellir eu gwisgo y tu mewn i bocedi bychain mewn dillad. Nid yw'r rhan fwyaf o'r dyfeisiau hyn yn rhoi unrhyw adborth uniongyrchol i'r chwaraewr. Dim ond pan fo'r gweithgarwch wedi'i gwblhau y gall y defnyddiwr adolygu ei berfformiad, ond mae'r ddyfais yn dangos canlyniadau byw i'r hyfforddwr yn ystod sesiwn ymarfer neu gêm. Mae'r dyfeisiau yn cofnodi amrywiaeth ehangach o wybodaeth megis cyflymu, arafu, lleoliad GPS y chwaraewr sy'n rhoi gwybodaeth ychwanegol i'r meddalwedd er mwyn cyfrifo amrywiaeth ehangach o ganlyniadau. Mae'r ddyfais hon yn defnyddio'r synwyryddion a ganlyn: mesurydd cyflymu 3-echel, geirosgop, magnetomedr, modiwl GPS, synhwyrydd curiad y galon, altimedr a thechnoleg Bluetooth/di-wifr ar gyfer trosglwyddo data.
Er mwyn eich helpu i ddechrau ar eich prosiect, rydym am roi sylw i rai dyfeisiau all roi adborth i'r defnyddiwr a'r hyfforddwr trwy ddefnyddio amrywiaeth o synwyryddion sydd naill ai'n rhan o'r ddyfais neu y gellir eu cysylltu â'r ddyfais.
Crumble
Lefel yr her: Hawdd
Nid oes unrhyw synwyryddion yn rhan o'r ddyfais fechan hon, ond gallwch ychwanegu amrywiaeth o synwyryddion i fonitro gweithgarwch ymarfer corff. Gellir defnyddio batris gyda hwn hefyd, sy'n golygu ei fod yn gludadwy. Dyma'r synwyryddion allanol y gall y ddyfais eu monitro: mesurydd cyflymu, cwmpawd, golau, agosrwydd a thymheredd. Nid yw technoleg Bluetooth/di-wifr ar gyfer trosglwyddo data yn rhan o'r ddyfais, felly adborth uniongyrchol yn unig a roddir i'r defnyddiwr trwy fflachiadau neu ar sgrîn ddigidol.
Dim ond trwy ddefnyddio system ar sail blociau y gellir rhaglennu'r ddyfais.
Yma, cewch enghreifftiau o brosiectau Crumble:
BBC micro:bit
Lefel yr her: Hawdd/Cymedrol
Dyfais fechan yw BBC micro:bit y gellir ei rhedeg gyda batris, sy'n gwneud y ddyfais yn hawdd ei chario os ydych am greu dyfais y gellir ei gwisgo. Mae sawl synhwyrydd yn rhan o'r ddyfais: mesurydd cyflymu, cwmpawd, golau, agosrwydd a thymheredd all roi amrywiaeth o adborth i'r defnyddiwr drwy ddefnyddio LEDs, sydd hefyd yn rhan o'r ddyfais. Mae'r ddyfais hon hefyd yn cynnwys technoleg Bluetooth/trosglwyddiad radio sy'n fodd iddi gyfathrebu â dyfeisiau eraill megis ffôn neu BBC micro:bit arall.
Mae cysylltydd ar ymyl y ddyfais sy'n fodd i chi gysylltu synwyryddion/dyfeisiau allanol i fonitro agweddau eraill ar berfformiad chwaraewr. Dyma rai synwyryddion y gellid eu defnyddio i gyfoethogi dadansoddiad o'r chwaraewr: synwyryddion pellter uwchsain, switsh, corsen, cyffyrddiad agosrwydd.
Gellir defnyddio system ar sail blociau i raglennu'r ddyfais, java a python.
Yma, cewch enghreifftiau o brosiectau BBC micro:bit:
· Accelerometer sensor / Simple accelerometer
· Radio to connect multiple micro:bits
Raspberry PI
Lefel yr her: Cymedrol/Anodd
Dyfais fechan yw Raspberry PI sy'n cynnig hyblygrwydd ychwanegol gan ei bod yn cynnig amrywiaeth ehangach o fonitro gyda synwyryddion ar yr un pryd ag adborth byw i'r tîm cymorth a'r defnyddiwr. Gellir defnyddio batris allanol i redeg y ddyfais er cludadwyedd, a gellir cyfathrebu data â dyfeisiau eraill trwy dechnoleg Bluetooth/di-wifr. Bydd holl synwyryddion y ddyfais hon yn rhai allanol. Dyma restr o rai synwyryddion sydd ar gael: mesurydd cyflymu, cwmpawd, golau, agosrwydd, tymheredd, gwasgedd, GPS a llawer mwy.
Gellir defnyddio amrywiaeth o ieithoedd rhaglennu i raglennu'r ddyfais.
Yma, cewch enghreifftiau o brosiectau Raspberry PI:
· Smart monitoring system for football players