Croeso i safle sialensau codio GwE. Fel rhan o raglen Cracio'r Cod byddwn yn darparu sialensau rheolaidd er mwyn i chi gael syniadau am broseictau i herio'ch clybiau codio neu eich dosbarthiadau a chael cyfle i dderbyn adnoddau i gefnogi'ch gweithgareddau codio yn y dyfodol.
Bydd un sialens yn canolwbyntio ar brosiect codio ar-sgrin gan ddefnyddio rhaglen o'ch dewis (e.e Scratch, J2Code). Bydd yr ail sialens yn gofyn i chi ddefnyddio eich sgiliau i raglennu dyfais neu offer . Gall hwn fod yn unrhyw beth sydd ganddoch chi yn eich ysgol eisioes. Er mwyn cael cyfle i dderbyn adnoddau codio i'ch ysgol bydd rhaid i chi gyflwyno'ch gwaith i GwE a'i partneriaid. Caniateir i bob ysgol gyflwyno un prosiect. Os ydych yn cwblhau nifer o broseictau gyda'ch dosbarth neu glwb gofynwn i chi ddewis un i'w gyflwyno.
Mae'r heriau ar agor i ddisgyblion o flwyddyn 3 hyd at flwyddyn 9. Wrth adolygu y prosiectau byddwn yn ystyried yr agweddau canlynol:
Bydd ein disgwyliadau yn seiliedig ar oedran ac felly ni fyddwn yn disgwyl yr un safon a chymhlethdod gan blant 8 oed ac y byddwn ni gan blant 13 oed.
Mae unedau wedi'u cynnwys yn yr adnodd hwn a fydd yn cyflwyno cysyniadau a sgiliau rhaglennu amrywiol y gallwch eu cynnwys yn eich prosiect. Cyflwyniadau byr yn unig yw'r rhain i'r sgiliau neu'r cysyniadau - bydd rhaid i chi archwilio ymhellach naill ai trwy arbrofi neu geisio cefnogaeth bellach trwy adnoddau eraill. Awgrymwn fod dysgwyr yn cynllunio'u prosiectau yn ofalus er mwyn dadelfennu'r broses ac adnabod y camau bach sydd eu hangen er mwyn cyflawni'r gwaith. Bydd hyn yn eu helpu i adnabod pa sgiliau neu gysyniadau rhaglennu y byddant angen eu defnyddio.
Dylai eich prosiect gael eu cyflwyno ar ffurf fideo neu adnodd ar lein - ni ddylai hyd eich fideo(s) fod yn fwy na 5 munud. Mae'n bwysig eich bod chi'n tynnu digon o luniau a fideos wrth i chi weithio er mwyn i chi allu eu defnyddio yn eich fideo terfynnol. Fe allech chi hefyd ddefnyddio meddalwedd recordio sgrin os ydych chi'n dymuno darparu sylwebaeth wrth gyflwyno'ch gwaith - mae yna ddigon o raglenni ar-lein am ddim y gallwch eu defnyddio i wneud hyn. Gellir cyflwyno ceisiadau trwy lenwi’r ffurflen ar y dudalen ‘Cyflwyno Prosiect’. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Cliciwch yma i weld y sialensau: