Mudiad ieuenctid yw'r Urdd sy'n cynnig gweithgareddau i blant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg - Eisteddfod yr Urdd, chwaraeon trwy'r Gymraeg, gwersylloedd, cylchgronau a llawer mwy. Mae ymuno â'r Urdd yn ffordd grêt o gael hwyl yn y Gymraeg. Clicwch yma am fwy o wybodaeth.
Mae gwylio rhaglenni yn ffordd dda o sicrhau bod eich plentyn yn clywed y Gymraeg gartref. Gallwch wylio'n fyw neu defnyddio'r gwefannu i wylio rhaglen o'ch dewis.
Beth am brynu CD o hwiangerddi neu ganeuon syml i chwarae gyda'ch plentyn yn y car? Siaradwch gyda'ch siop Gymraeg leol i weld beth sydd ar gael.
P'un a ydych chi mewn i indie, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae yna gerddoriaeth anhygoel yn cael ei gwneud yn y Gymraeg i chi ei darganfod. Beth am ddechrau gyda rhestr chwarae Spotify Seren a Sbarc neu cliciwch ar y wefan isod i ddarganfod mwy o restri chwarae Spotify i chi fwynhau!