Sut alla i gefnogi fy mhlentyn i ddefnyddio'r Gymraeg gartref?
How can I support my child to use Welsh at home?
Beth amdanoch chi?
Sut allwch chi wella eich sgiliau?
- Hoffech chi wella eich Cymraeg?
- Ydych chi wedi siarad Cymraeg yn yr ysgol ond yn llai hyderus i ddefnyddio'r iaith erbyn hyn?
Os ydych chi'n ystyried eich taith Gymraeg eich hun, dyma rai ffynonellau gwybodaeth defnyddiol a allai fod o gymorth i chi. Beth bynnag yw eich lefel, mae yna opsiynau ar eich cyfer chi.
Y Ganolfan Genedlaethol
Mae'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg yn darparu cyfres o opsiynau dysgu iaith ar bum lefel wahanol: Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch a Hyfedredd. Mae'r ganolfan yn cynnig dosbarthiadau dysgu iaith sydd ar gael yn lleol neu rhowch gynnig ar rai o'u gwersi blasu 10 munud i ddechreuwyr.
DuoLingo
Mae Duolingo yn hyrwyddo dysgu iaith trwy brofiadau tebyg i gêm ac mae'n ffordd boblogaidd o ddysgu Cymraeg yn anffurfiol.
Say Something in Welsh
Mae SaySomethingInWelsh yn gwrs ar-lein yn rhad ac am ddim sy'n canolbwyntio ar helpu pobl i ddysgu siarad a deall Cymraeg. Mae'n osgoi rheolau gramadeg cymhleth a darllen / ysgrifennu.
Bydd annog eich plant i siarad Cymraeg yn gymdeithasol yn eu helpu i ddatblygu eu hyder a'u rhuglder.
Hwb i'r hyder
Cyfarwydd â'r iaith ond heb hyder i'w defnyddio? Mae ystod eang o offer technolegol i gefnogi datblygiad a chywirdeb iaith. Dyma rai awgrymiadau!
Cysill Ar-Lein
Gwiriwr sillafu a gramadeg ar-lein. Teipiwch neu gludwch destun i'r blwch a bydd yn gwirio'ch gwaith ar unwaith.
Cysgliad
Mae'r pecyn meddalwedd hwn, sy'n gwirio sillafu a gramadeg, wedi'i ryddhau i'w lawrlwytho am ddim trwy bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru.
Y Termiadur Addysg
Mae'r adnodd hwn yn darparu terminoleg safonol ar gyfer y maes addysg. Dyma'r termau i'w defnyddio mewn adnoddau o bob math ar gyfer athrawon a myfyrwyr yn ogystal ag mewn arholiadau cyfrwng Cymraeg.
Ap Geiriaduron
Peidiwch ag anghofio am yr ap trawiadol Ap Geiriaduron. Ar ôl ei lawrlwytho i'ch dyfais, does dim oes angen cysylltiad gwe arnoch i ddefnyddio'r geiriadur Cymraeg >< Saesneg cynhwysfawr hwn.
Ap Treiglo
Rydyn ni i gyd yn amau ein defnydd o'r treigladau weithiau ... Ai'r treiglad meddal, trwynol neu'r treiglad llaes sydd ei eisiau? Gall yr ap hwn eich helpu chi!
To Bach
Mae'r meddalwedd hwn ar gael yn rhad ac am ddim. Mae'n eich galluogi i osod acen grom (^) ar bob un o lafariaid yr Wyddor Gymraeg. Trwy wasgu 'Alt Gr' a'r llafariad, fe gewch â, ê, î, ô, û, ŵ neu ŷ yn syth!
Togl Iaith ar HWB
Mae togl newydd ym Mhorthol Rheoli Defnyddwyr Hwb yn gwneud newid rhwng ieithoedd hyd yn oed yn haws.