Croeso

Os ydych chi'n siarad Cymraeg ai peidio, mae yna ddigon y gallwch chi ei wneud i helpu'ch plentyn i ddefnyddio’r Gymraeg.


Peidiwch â phoeni!

Ble mae dechrau?

Dyma ychydig o gamau syml:

  • Annog eich plant i ddefnyddio'r Gymraeg wrth siarad gyda ffrindiau, brodyr a chwiorydd neu aelodau o'r teulu sydd yn gallu siarad Cymraeg. Gallwch hefyd wneud hyn dros y ffôn neu yn ddigidol.


  • Annog eich plant i ymgymryd â gweithgareddau sydd ar gael trwy wahanol gyfryngau e.e. gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, lawrlwytho apiau Cymraeg, gwylio rhaglenni Cymraeg ar y teledu, defnyddio cyfryngau cymdeithasol e.e. Facebook a Twitter yn Gymraeg. Y peth pwysig yw bod eich plant yn cael cyswllt â'r iaith a hynny mor aml â phosib.

Dewiswch o'r adrannau yma i gafael ar adnoddau a chyfleoedd addas i annog a chefnogi'ch plentyn i ymarfer ei Gymraeg y tu allan i'r ysgol

Llyfrau a Chylchgronau

Hwyl yn y Gymraeg

Dysgu trwy Apiau

Gweithgareddau Addysgol


Cefnogaeth Leol

Seren a Sbarc

Hwb i'ch Hyder chi

Efallai y bydd y clip fideo hwn ar gyfer rhieni a gofalwyr nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg gartref ond sydd â phlant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn ddefnyddiol hefyd. Daw o'r Athro Enlli Thomas o Brifysgol Bangor.