Taith Ddysgu  Tymor 1

Addysg Gorfforol Ymarferol


Bydd y dysgwyr yn datblygu eu sgiliau llythrennedd corfforol, ffitrwydd personol, cyfathrebu a gwaith tîm trwy gyfrwng amryw o weithgareddau creadigol a chystadleuol.

Lles Addysg Gorfforol


Bydd y dysgwyr yn dysgu sut i feithrin eu lles meddyliol ac emosiynol trwy ddatblygu eu gwydnwch, a'u dyfalbarhad. Byddant hefyd yn parhau i ddatblygu eu hyder, perthynasau gydag eraill ac empathi. Byddant yn wynebu heriau ac yn eu trechu wrth wneud cysylltiadau â’r gwersi ymarferol.


Lles Bugeiliol


Cwblhau ‘Proffil un tudalen’ o fewn sesiynau boreol er mwyn adnabod cryfderau a gwendidau a sut gall yr ysgol gynorthwyo i ddatblygu dysgwyr iach, hyderus ac uchelgeisiol.

 

Byddant yn atgyfnerthu eu dealltwriaeth o strategaethau sy'n rheoli emosiwn trwy ffocysu ar y cysylltiadau o fewn bywyd pob dydd a digwyddiadau sy'n codi o fewn yr ysgol.  

 


Sgiliau Cyfathrebu 

Perfformio yn hyderus ar lafar ac ymarferol e.e. arddangos sgiliau perfformio, lefelau ffitrwydd ac arweinyddiaeth.

Sgiliau Meddwl

Dewis a defnyddio tactegau a strategaethau priodol o fewn gweithgareddau corfforol e.e. creadigrwydd, annibyniaeth, datrys problemau a meddwl yn feirniadol.

Sgiliau Dysgu

Dangos gwydnwch a dyfalbarhad wrth berfformio e.e. dadansoddi perfformiad ac ymateb i adborth yn gadarnhaol.

Profiadau

Gweithgaredd rhyng-lysol cyntaf y tymor hwn...

Sut alla'i gynnig cymorth ar hyd y daith?

Dilynwch y codau QR er mwyn arbrofi gyda strategaethau rheoli emosiwn, tawelu'r meddwl ac ymarferion corfforol