Arwyddocâd Y Fasnach Gaethweision
Deall bod cymdeithasau dynol yn gymhleth a'n amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
Bydd y dysgwyr yn:
Meddwl yn feirniadol ynghylch dehongliadau gwahanol.
Defnyddio’r wybodaeth sy'n cael ei chymhwyso er mwyn esbonio profiad caethwas.
Dadansoddi ym mha ffordd oedd y farchnad gaethweision yn arwyddocaol.
Mynegi barn a'n awgrymu pam fod Rhyfel Cartref America yn ddigwyddiad pwysig.
Profiadau
Cyfle i fynegi barn ar faterion cyfoes
‘Her yr Hanesydd’
Gwaith grŵp a chyfleoedd i drafod / mynegi barn
Astudio ffynonellau a dehongliadau amrywiol.
Sut alla'i gynnig cymorth ar hyd y daith?
Gwefan BBC Bitesize – ‘the transatlantic slave trade’: https://www.bbc.co.uk/bitesize/topics/z2qj6sg
Annog eich plentyn i gwblhau gwaith ymchwil unigol ar y we sy'n ymwneud â’r fasnach gaethwasiaeth.
Annog eich plentyn i gwblhau unrhyw dasgau gwaith cartref.
Archwilio'r byd anghyfartal amrywiol
Bydd y dysgwyr yn:
gwybod beth yw anghyfartaledd ac adnabod patrymau datblygiad byd-eang.
trin data cyfredol i ddatrys problem am lefel datblygiad gwlad.
deall bod anghyfartaledd yn bodoli ar raddfeydd byd-eang, cenedlaethol a lleol.
gallu defnyddio amrywiaeth o sgiliau map i leoli’r Eidal a Brasil yn fanwl gywir.
amlinellu nodweddion bywydau pobl tlawd a chyfoethog yn ninasoedd Brasil.
Profiadau
Defnyddio Atlasau i leoli gwledydd amrywiol.
Cwblhau cwisiau “Geodoku” i ddysgu termau anghyfartaledd.
Llunio a dehongli map choropleth daearyddol.
Defnyddio gwefan rhyngweithiol Banc Y Byd i ddarganfod data cyfredol am wledydd amrywiol.
Sut alla'i gynnig cymorth ar hyd y daith?
Mae Gap Minder yn wefan hwyl sy'n cynnwys lluniau a gwybodaeth am deuluoedd a’u cartrefi mewn 135 categori gwahanol ar draws y byd. Gallwch brofi beth yw realiti bywyd unigolion sy'n derbyn lefelau incwm gwahanol.
Annog eich plentyn i gwblhau unrhyw dasgau gwaith cartref.
Meithrin dealltwriaeth o sut mae credoau a dysgeidiaethau crefyddol yn effeithio ar fywydau pobl o ddydd i ddydd.
Trafod materion cyfoes ar sail eu gwybodaeth a’u gwerthoedd.
Byddwn yn:
Hybu sgiliau meddwl wrth drafod effaith crefydd ar fywydau rhai aelodau o’n cymdeithas amrywiol.
Datblygu dealltwriaeth o sut mae rhai credinwyr crefyddol yn dygymod â byd plwralaidd.
Profiadau
Her i'r Hyderus
Cyfle i ymestyn gwybodaeth tu hwn i'r gwersi
Clwb "Myfyrio ar Foeseg"
Sesiwn amser cinio i'r rhai sydd â diddordeb.
Gwaith grŵp ac unigol a chyfleoedd i drafod agweddau byd-eang.
Sut alla'i gynnig cymorth ar hyd y daith?
Cefnogi nhw gyda'u pecyn Her i'r Hyderus
Gwefan BBC Bitesize yn cynnig cefndir da ar nifer o agweddau
Annog eich plentyn i fod yn ddysgwyr agored a goddefgar