Bwletin Rhieni Bl.8
Prif bwrpas y bwletin yma yw cynnig braslun o 'daith ddysgu' eich plentyn dros y tymor nesaf.
Rydym wedi trefnu'r wybodaeth fesul Meysydd Dysgu a Phrofiad lle gallwch ddarllen crynodeb o ffocws y tymor, y prif sgiliau a gwybodaeth sy'n cael eu datblygu ynghyd â'r profiadau sy'n cael eu cynnig i'ch plentyn.
Sylwch hefyd fod pob maes yn nodi sut y gallwch chi, fel rhieni a gofalwyr, gynnig cymorth pellach i'ch plentyn ar hyd y daith ddysgu.
Ar hyd eu taith ddysgu yn y Strade bydd eich plentyn yn;
cynyddu ehangder a dyfnder eu gwybodaeth;
dyfnhau eu dealltwriaeth a
mireinio eu sgiliau
wrth ddod yn fwy annibynnol a chymhwyso eu dysgu i sefyllfaoedd newydd.
Byddant yn gwneud hyn o fewn ac ar draws y chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDaPh) isod;
Gwasgwch y botwm 'Cartref' (top cornel dde y dudalen) er mwyn darllen mwy am y Meysydd Dysgu a Phrofiad yma.
📲Dilynwch ni...
Cofiwch fod modd dilyn yr ysgol a nifer o'n adrannau trwy gyfrwng ein tudalennau Trydar!