Mae amryw o fodelau y mae modd eu defnyddio i ddatblygu dysgu digidol effeithiol. Un enghraifft y gallai ysgolion ei hystyried yw’r model SAMR. Cafodd y model ei greu yn wreiddiol gan Dr. Ruben Puentedura gyda’r bwriad o amlinellu yr arferion gorau i ddefnyddio dysgu digidol yn y dosbarth.
SAMR gyda thasgau gwahanol:
Tasg wreiddiol: Creu pamffled teithio gyda thoriadau o gylchgronau a thestun mewn llawysgrifen.
Amnewid
Disodli'r toriadau cylchgrawn a thestun trwy ychwanegu delweddau a thestun at raglen ddylunio fel Microsoft PowerPoint, Adobe Express, sleidiau Google neu J2e5.
Adio
Creu cyflwyniad amlgyfrwng gan ddefnyddio e.e. Gwefan Adobe express, MS Sway, J2e5 ac ati i ymgorffori fideo, mewnosod dolenni ac ychwanegu mwy o ddyfnder i'r llyfryn digidol.
Addasu
Offer meddalwedd lluosog a ddefnyddir i adeiladu tudalen we amlgyfrwng e.e. Gofynnwch i'r dysgwyr greu hysbyseb fideo ar gyrchfan gwyliau a'i fewnosod o fewn tudalen y cyflwyniad. Creu map anodedig/rhyngweithiol o’r cyrchfannau a chreu gwahanol adrannau/tudalennau ar gyfer y cyflwyniad gan ddefnyddio e.e. Google sites /Adobe Express - webpage / sleidiau google wedi'u mewnosod gyda map anodedig ac ati
Ailddiffinio
Creu gwefan gydweithredol gyda thudalennau lluosog gan ddefnyddio e.e. Gwefannau Google gyda nifer o lwyfannau meddalwedd yn cael eu defnyddio i greu cynnwys y wefan a'i fewnforio / ei fewnosod i'r wefan.
Gwneud ffilmiau gan ddefnyddio e.e. imovie / premier rush / sgrin werdd i greu hysbyseb teledu.
Gellid creu podlediad gan ddefnyddio e.e. GarageBand / Audacity
Creu a thrin delweddau trwy offer adobe express neu Adobe photoshop
Tasg wreiddiol: Dyluniwch eich cartref delfrydol mewn llyfr braslunio.
Amnewid
Amnewid y dasg llyfr braslunio drwy ddefnyddio pecyn dylunio siapiau sylfaenol yn e.e. word, powerpoint, J2e5, Google docs ac ati
Adio
Defnyddiwch nodweddion ychwanegol o ddyluniad siâp sylfaenol e.e. eiconau, llinellau, delweddau, golygu delweddau i wella dyluniad siâp sylfaenol.
Addasu
Defnyddiwch becyn dylunio 3D penodol i greu model 3D o'ch cartref delfrydol gan ddefnyddio e.e. Tinkercad, Google sketch up ac ati
Ailddiffinio
Defnyddiwch Minecraft i greu dyluniad rhyngweithiol o'ch cartref delfrydol a chofnodwch daith gerdded yn egluro'r nodweddion amrywiol. Allforio ac mewnosod y fideo mewn pecyn meddalwedd golygu fideo e.e. Adobe express video, Adobe rush, imovie a rhannu gyda chynulleidfa e.e. dosbarth arall, rhieni, grŵp blwyddyn ac ati
Tasg wreiddiol: Creu rhestr o deganau i werthu yn eich siop teganau a chyfrif y costau (yn eich llyfrau)
Amnewid:
Amnewid i deipio'r wybodaeth allan ar word - Creu tabl a gosod y costau lawr yn erbyn bob eitem gyda chyfanswm.
Adio:
Rhowch y rhestr o eitemau mewn taenlen e.e. Google sheets, Excel ar-lein, taenlen J2 Office a defnyddio'r nodwedd 'autosum' i gyfrifo costau
Addasu:
Defnyddiwch fformiwlâu o fewn taenlen i gyfrifo e.e. cost eitemau, maint yr elw, yn ogystal ac addasu'r daenlen i gadw costau stoc o dan gyllideb benodol.
Ailddiffinio:
Ychwanegu at y daenlen flaenorol drwy gyflwyno dalennau eraill sy'n cyfrifo e.e. stoc a brynwyd / a werthwyd, cyfansymiau gwerthiant yr wythnos ac ati.
Hefyd, gellid creu ffurflen archebu ar-lein gan ddefnyddio MS Forms neu Google Forms ac efallai creu poster digidol i hysbysebu'r siop newydd.
Dilyniant Testun a Delweddau
Dilyniant Cyflwyniadau
Dilyniant Codio
Dilyniant Cronfa Ddata a Thaenlenni
Cliciwch ar y ddolen i weld senario ymosodiad seiber - Beth fydd eich ymateb?
Wrth graffu ar waith byddwch yn edrych dros waith dysgwyr dros gyfnod o amser. Gallwch ganolbwyntio ar drawstoriad o blant drwy'r ysgol neu ar ystod oedran arbennig. Mewn rhai achosion byddwch yn gwneud hyn ochr yn ochr â'r dysgwyr. Gall hyn fod yn fanteisiol er mwyn eich galluogi i gael mwy o wybodaeth am y tasgau dan sylw. Gallwch graffu ar waith mewn llyfrau a hefyd drwy gyfrwng digidol. Mae'n bwysig cofio fod angen y darlun cyflawn o gyflawniad y dysgwyr a gall hyn olygu eich bod angen mynediad i nifer o wahanol wasanaethau (e.e Google Classroom, Flipgrid, Adobe CC Express etc.)
Cyfle i chi wirio nifer o agweddau: cysondeb, safonnau, addysgeg, addysgu
Cyfle i weld cyflawniad dysgwyr dros gyfnod mwy estynedig o amser
Cyfle i gymharu safonau a sicrhau dilyniant ar draws yr ysgol
Cyfle i weld ystod y profiadau
Byddwch yn cyfweld trawstoriad o ddysgwyr. Gall hyn fod ar draws ystod o oedrannau. Gallwch gyfweld pawb ar unwaith, ond gall hefyd fod yn effeithiol cyfweld nhw fesul blwyddyn / dosbarth. Wrth gyfweld bydd cyfle i chi drafod gwaith y dysgwyr gyda nhw, a byddwch yn gobeithio fod y dysgwyr yn gallu egluro'r hyn maent wedi ei gyflawni, a hynny drwy ddefnyddio terminoleg bynciol ac iaith dechnegol yn gywir. Byddwch yn gallu gweld hyder y dysgwyr wrth iddynt ddod o hyd i wahanol dasgau yn ogystal â gweld os oes cysondeb yn y ffordd mae eu gwaith yn cael ei rannu a'i storio. Gallwch drafod yr adborth y maent yn ei dderbyn a sut y mae hwn yn ei helpu i ddysgu ac i godi safon eu gwaith.
Cyfle uniongyrchol i sgwrsio gyda dysgwyr am y gwaith
Cyfle i ddysgu am farn y dysgwyr am y gwaith
Cyfle i drafod sut mae'r addysgu wedi arwain at gynnydd yn eu safonau
Cyfleoedd i drafod y sgiliau hyn mewn cyd-destun bywyd go iawn - e.e mewn pa sefyllfaoedd y gall y sgiliau hyn fod yn ddefnyddiol etc.
Cyfle i drafod materion diogelwch ar-lein gyda'r dysgwyr
Mewn taith ddysgu byddwch yn teithio drwy wahanol ddosbarthiadau er mwyn gweld yr addysgu a'r dysgu ar waith. Gallwch alw i mewn ac allan o'r dosbarthiadau er mwyn datblygu dealltwriaeth o'r gwersi sy'n cael eu cynnal ar y pryd. Byddwch yn sgwrsio gyda dysgwyr er mwyn cael darlun llawn o'r broses ddysgu yn ogystal â dysgu am eu barn nhw o'r gwaith a'u hyder wrth fynd ati i'w gwblhau. Gall taith ddysgu gael ei chynnal drwy'r ysgol gyfan, neu gall ganolbwyntio ar ystod oedran neu adrannau penodol. Mewn rhai achosion, mae'n effeithiol rhagrybuddio athrawon o'r maes sy'n cael ei adolygu cyn cynnal taith ddysgu er mwyn iddynt sicrhau fod y maes hwnnw ar waith yn ystod y cyfnod. Byddai hyn yn sicrhau eich bod yn gallu arsylwi mwy o ffactorau i gyfrannu at eich ymholiad ac yn eich helpu i ddod i farn ar yr hyn y byddwch yn ei arsylwi.
Cyfleoedd i adolygu a gwerthuso'r addysgu a'r dysgu
Digon o gyfleoedd i sgwrsio â dysgwyr
Cyfle i weld os yw lefel yr her yn cynnig dilyniaint ar draws yr ystod oedran dan sylw
Cyfleoedd i adnabod arferion effeithiol i'w rhannu
Cylfle i werthuso cysondeb
Cael blas o sut mae'r maes yn edrych ar draws yr ystod oedran / adrannau dan sylw
Wrth adolygu cynlluniau byddwch yn edrych drwy holl gynlluniau'r ysgol sy'n cynnwys agweddau o ddysgu digidol. Fel arfer bydd hyn yn digwydd yn gymharol fuan yn y flwyddyn er mwyn sicrhau fod profiadau cymhwysedd digidol yn cael eu mapio. Mae mapio yn broses o edrych ymlaen dros gyfnod o amser er mwyn sicrhau fod amrywiaeth a chydbwysedd yn bodoli drwy'r maes. Rhaid sicrhau fod y profiadau sy'n cael eu cynllunio o safon uchel ac yn datblygu pob agwedd o gymhwysedd digidol a hynny ar draws yr holl gwricwlwm.
Cyfle i ddatblygu syniadau ymhellach
Sicrhau cysondeb a dilynaint yn y profiadau dysgu
Sicrhau fod yr lefel o her yn cael ei osod yn briodol ac yn ymestyn dysgwyr ar draws yr ysgol
Cyfle i adnabod dosbarthiadau / adrannau sydd angen cefnogaeth bellach