"Sut"
Sut i ateb cwestiynau sydd yn dechrau gyda "Sut mae'r awdur yn...."
Sut i ateb cwestiynau sydd yn dechrau gyda "Sut mae'r awdur yn...."
Mae nifer o wahanol mathau o gwesitynau sydd yn defnyddio'r gair 'sut ar ddechrau'r cwestiwn e.e. cwestiynau adalw sydd yn gofyn i chi ateb gyda gwybodaeth ffeithiol neu cwesitynau sydd yn gofyn 'sut berson' sydd yn gofyn i chi ddehongli gwybodaeth.
Yn gyffredinol, os mae'r cwestiwn werth mwy na 2 marc, mae'n rhaid dehongli gwybodaeth. Os mae'n gofyn 'sut mae'r awdur yn ...' rhaid trafod yn fanwl gan gyfeirio at dystiolaeth a dehongli gwybodaeth.
Os ydych chi'n cael cwestwin fel hyn, mae'n rhaid....
trafod nodweddion arddull
defnyddio'r 3E
ateb yn fanwl gydag esboniad clir o'r sut mae'r awdur yn llwyddo i gyflwyno gwybodaeth / mynegi barn / perswadio ac ati
Pan yn ateb y cwestiwn yma, gallwch chi ystyried yr isod;
teitlau / isdeitlau
ansoddeiriau
rhestru
lluniau
gorchmynion (berfau 'wch')
lliwiau
pwyntiau bwled
ystadegau
ffeithiau
cyffelybiaethau
trosiadau
cwestiynau rhethregol
ebychiadau
dyfyniadau
llygad-dystion
Beth yw eu heffaith ar y darllennydd? Sut maen nhw'n helpu cyflawni nod yr awdur?