Croeso i dudalen adolygu TGAU Cymraeg Iaith. Bwriad y dudalen yma ydy rhannu adnoddau adolygu Cymraeg Iaith gyda chi er mwyn i chi baratoi'n ofalus am eich arholiadau.
Ydych chi'n teimlo fel hyn ar hyn o bryd? Peidiwch a phoeni, rydyn ni yma i'ch helpu. Gyda chynllun clir, gallwch chi drefnu eich amser a llwyddo heb losgi allan.
Dilynwch y camau isod i'ch helpu:
Cam 1:
Gosod trefn dyddiol
Mae trefn yn bwysig. Penderfynwch pryd fyddwch chi'n codi a phryd fyddwch yn mynd i'r gwely. Gall amser gwely penodol ac amser deffro penodol helpu iechyd meddwl a sicrhau bod gennych yr amser sydd angen i gyflawni popeth.
Cam 2:
Creu amserlen
Creu amserlen i'ch hunain sydd yn cynnwys amseroedd ysgol, amseroedd gweithgareddau, amser i gymdeithasu gyda ffrindiau a gweld teulu ac amser i gysgu ac ymlacio.
Meddyliwch am drefnu eich amser adolygu mewn slotiau 30 munud. 25 munud i weithio 5 munud o egwyl.
Cofiwch gynnwys ymarfer corff yn eich trefn dyddiol: ewch am dro, ewch redeg neu ewch nofio - beth bynnag, bydd ymarfer corff yn eich helpu i ymlacio.
Gallwch wneud copi o'r ffeil yma i greu amserlen eich hunain neu mae Mrs Lewis wedi rhannu rhai gyda chi.
Cam 3:
Prynwch byrbrydau iachus
Mae eich lefelau egni yn bwysig iawn, weithiau bydd angen byrbrydau i roi digon o egni i chi.
banana
iogwrt
grawnwyn
wyau
granola
llysiau
ffrwythau
ffrwythau sych
siocled tywyll
hadau a chnau
Cofiwch yfed digon o ddwr - ewch a photel gyda caead gyda chi i adolygu.
Cam 4:
Penderfynwch ar eich ffocws
Cadwch at eich amserlen a pheidiwch ond adolygu'r pethau rydych chi'n hyderus yn wneud. Os dydych chi ddim yn hyderus yn ateb cwestiynau "sut", canolbwyntiwch arnyn nhw.
Defnyddiwch adnoddau CBAC gan gynnwys cynbapurau, adnoddau dysgu cyfunol a chwestiynau ymarfer i adolygu.
Mae llawer ohonynt isod.
Cam 5:
Diffoddwch eich teclynnau digidol
Os ydych chi'n adolygu, rhaid sicrhau bod gennych awyrgylch i ganolbwyntio, mae hyn yn golygu diffodd eich teclynnau digidol. Rhowch eich ffonau ar dawel - dim ond 25 munud - gallwch edrych ar eich ffonau yn eich egwyl.
Mae'r ystafell arholiad yn hollol dawel, felly paratowch eich hunain am hyn;
diffoddwch eich teclynnau digidol
diffoddwch y deledu
trowch y cerddoriaeth bant
diffoddwch eich cyfrifiadur (oni bai eich bod chi ar wefannau adolygu)
peidiwch roi YouTube / Netflix / Disney + yn y cefndir
Os ydych yn ateb cwestiynau arholiad sydd ddim angen i chi fod ar lein, diffoddwch popeth a rhowch eich ffon tu allan i'r drws. Mae'n werth arbrofi gyda phethau gwahanol e.e. 25 munud i ddefnyddio adnodd ar lein, egwyl a wedyn profi beth rydych chi wedi dysgu gyda chwestiwn / cwestiynau am 25 munud.
Cam 6:
Amdani
Byddwch yn ddisgybledig - cadwch at yr amser a'r dasg rydych chi wedi cynllunio i gyflawni. Defnyddiwch amserydd a defnyddiwch yr adnoddau sydd ar gael. Os ydych chi gyda thasg neu adnodd sydd yn cymryd mwy na 25 munud i wneud, gallwch chi;
Gweithio am 25 munud a chymryd egwyl 5 munud cyn parhau am 25 munud arall.
Gweithio am 50 munud a chymryd 20 munud o egwyl.
Gosodwch larwm i gadw at eich amser.
Cofiwch wobrwyo eich hunain. Mae'n bwysig cael rhywbeth i anelu at. Beth am greu tabl gwobrau i'ch hunain? Gall fwy o oriau o adolygu golygu gwobrau gwell! Beth am greu heriau gyda'ch ffrindiau a chytuno ar wobrau gyda'ch gilydd?
O leiaf 1 awr o adolygu pob dydd am wythnos=noson ffilm gyda theulu
Cyfanswm 7 awr o adolygu
O leiaf 10 awr o adolygu mewn wythnos = Big Mac gyda ffrindiau.
Cyfanswm 10 awr o adolygu
O leiaf 2 awr o adolygu pob dydd = gwylio ffilm yn y sinema gyda ffrind
Cyfanswm 14 awr o adolygu
O leiaf 2 awr a hanner o adolygu pob dydd = Bowlio gyda theulu neu ffrindiau
Cyfanswm 17.5 awr o adolygu
Os ydych chi'n adolygu am 12 wythnos, gallwch chi gyflawni llawer!
1 awr y dydd = 84 awr o adolygu
1.5 awr y dydd = 126 awr o adolygu
2 awr y dydd = 186 awr o adolygu
Beth yw'r ffordd gorau o adolygu?
Gwasgwch ar y ddoleni isod am gymorth ar sut i adolygu'n effeithiol.
Mae llwyth o adnoddau ar gael ar GCSE Bitesize i'ch helpu gyda sut i ddechrau adolygu, top tips am gofio gwybodaeth a strategaethau adolygu. Os dydych chi ddim yn gwybod le i ddechrau dechreuwch yma.
Cofwich gyda Cymraeg iaith, mae'n anodd adolygu achos dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd y testun, ond, gallwch adolygu sut i ateb cwestiynau gwahanol e.e. cymharu, cyfuno, cwestiynau sut a nodweddion ysgrifennu.