Cysylltiad a'r Gymuned

Community Links

Ymdrechir yn gyson i gysylltu â'r gymuned leol i hyrwyddo cyfranogiad i geisio cadw'n glos at label yr ysgol o fod yn 'ysgol gymunedol'.  Yn ystod 2022/23 bu’r disgyblion yn rhan o weithgareddau cymunedol megis Sioe Nadolig 2022.  Bu aelodau o’r gymuned hefyd yn rhan o weithgareddau’r ysgol megis Seremoni Gwobrwyo, Diwrnod Cyfweliadau Bl.11, Gweithgareddau Gwirfoddol a Mentergarwch y BAC, ac mewn gwasanaethau blwyddyn a gweithgareddau tiwtorial ABCh.

 

Mae cysylltiadau gyda’r heddlu yn cynnwys ymweliadau wythnosol gyda’r Swyddog Cyswllt Heddlu, ymweliadau addysgol, gwersi i flynyddoedd 7-12, gwersi addysg, bersonol a chymdeithasol, cynnig cyngor, delio gydag unrhyw broblemau pan fo’r angen yn codi, cyswllt gyda Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd.

 

Mae ysgolion Cynradd Dalgylch Dyffryn Conwy wedi bod yn cydweithio o ran rhannu Rheolwr Busnes ar gyfer y clwstwr.   Mae’r Rheolwyr Busnes wedi eu lleoli yn Ysgol Dyffryn Conwy ac yn gweithio drwy bartneriaeth a Rheolwr Busnes Ysgol Dyffryn Conwy a'r rhwydwaith o Benaethiaid Cynradd. Mae'r cynllun eisoes wedi profi yn llwyddiannus gan ryddhau Penaethiaid y clwstwr i roi sylw pennaf i ddysgu ac addysgu. 


Mae'r ysgol yn gweithio mewn partneriaeth â Chlwb Rygbi Nant Conwy, Ysgolion y clwstwr ac URC i gyflogi Swyddog Datblygu Rygbi.

______________________________________________________________________________________________________________________________

Constant efforts are made to engage with the local community to promote participation and justify the school’s reputation as a 'community school'.   During 2022/23 the pupils were involved in community activities such as Local Agricultural Shows, Llanrwst  Eisteddfod and other local Eisteddfods. Members of the community were also involved in school activities such as the Awards Ceremony, Year 11 Interview Day, WBAC Voluntary and Enterprise Activities, and in year assemblies and PSE tutorial activities.

The Dyffryn Conwy Catchment Area Primary schools have been working together in terms of sharing a Business Manager for the cluster. The Business Managers are based at Ysgol Dyffryn Conwy and work through a partnership with Ysgol Dyffryn Conwy's Business Manager and the network of Primary Headteachers. The scheme has already proven successful, freeing up the Headteachers of the cluster to give primary attention to learning and teaching.


Links with the police include weekly visits by the Police Liaison Officer,   educational visits, lessons for years 7-12, personal and social education lessons, offering advice, dealing with any problems when the need arises and contact with a Road Safety  Officer.


The school is working in partnership with Nant Conwy Rugby Club, the cluster schools and the WRU to  employ a Rugby Development Officer.