Cwricwlwm Ysgol Dyffryn Conwy Curriculum
Fel ysgol rydym yn falch o fod yn cychwyn ar y cwricwlwm newydd, Cwricwlwm i Gymru. Fel ysgol, rydym wedi bod yn cynllunio a datblygu er mwyn cyflwyno cwricwlwm sydd yn un unigryw i ddysgwyr yr ardal.
Rydym yn cydweithio yn agos â’n hysgolion cynradd i gynllunio profiadau pontio a phrofiadau dysgu er mwyn sicrhau bod disgyblion yn pontio yn llwyddiannus o’n 13 ysgol gynradd dalgylch. Mae’r cwricwlwm yn cael ei gyflwyno drwy 6 Maes Dysgu a Phrofiad Newydd:
• Iechyd a Lles
• Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
• Mathemateg a Rhifedd
• Gwyddoniaeth a Thechnoleg
• Dyniaethau
• Celfyddydau Mynegiannol
Mae’r cwricwlwm hefyd yn ffocysu ar ddatblygu dinasyddion sydd yn gwireddu'r 4 Diben canlynol i ddatblygu:
• Dysgwyr uchelgeisiol galluog ...
• Cyfranwyr mentrus a chreadigol ...
• Unigolion iach a hyderus ...
• Dinasyddion egwyddorol gwybodus ..
___________________________________________________________________________________________________________________________________________
As a school we are proud to be starting the new curriculum, Curriculum for Wales. As a school, we have been planning and developing in order to present a curriculum that is unique to learners in the area.
We work closely with our primary schools to plan transition experiences and learning experiences in order to ensure that pupils transition successfully from our 13 primary schools in the catchment area. The curriculum is delivered through 6 New Learning and Experience Areas:
• Health and Wellbeing
• Languages, Literacy and Communication
• Mathematics and Numeracy
• Science and Technology
• Humanities
• Expressive Arts
The curriculum also focuses on developing citizens who demonstrate the following 4 Purposes they are :
• Ambitious and capable learners ...
• Enterprising and creative contributors...
• Healthy and confident individuals ...
• Ethical, informed citizens...
Cwricwlwm CA4 / CA5 - KS4 / KS5 Curriculum
CA4 = Blwyddyn 10 / 11
CA5 = Blwyddyn 12 / 13
Parhawn i gynnig y cyrsiau craidd statudol yn CA4 ynghyd a chyflwyno'r Fagloriaeth Gymraeg, a chynnig hyd at 3 pwnc dewis. Yn CA4, ategir yr arlwy yn CA3 drwy gyrsiau newydd megis Busnes, Cymdeithaseg, Bwyd a Maeth, a Gofal Plant ynghyd a chyrsiau coleg mewn partneriaeth a rhwydwaith 14-16 Conwy a Choleg Glynllifon ar gyfer TGAU.
Ar gyfer cyrsiau Lefel A, cynigir cyrsiau mewn partneriaeth drwy LINC Conwy hefyd.
Am fanylion pellach am ein cwricwlwm yn CA4 (TGAU) a CA5 (Lefel A) gweler ein llawlyfrynnau ar y safwe: https://www.ysgoldyffrynconwy.org/llawlyfrynnau.html
_______________________________________________________________________________________________________________________________
KS4 = Year 10 / 11
KS5 = Year 12 / 13
We continue to offer the statutory core courses in KS4 together with the introduction of the Welsh Baccalaureate, and offer up to 3 chosen subjects. In KS4, the offer in KS3 is supplemented by new courses such as Business, Sociology, Food and Nutrition, and Childcare together with college courses in partnership with the Conwy 14-16 network and Coleg Glynllifon for GCSE.
For A Level courses, courses are also offered in partnership through LINC Conwy.
For further details about our curriculum in KS4 (TGAU) and KS5 (A Level) see our handbooks on the website: https://www.ysgoldyffrynconwy.org/eng/handbook.html
Polisi Iaith a Manteision Dwyieithrwydd - Language Policy and the Benefits of Bilingualism
Mae Ysgol Dyffryn Conwy o fis Medi 2023 wedi ei dynodi fel ysgol Categori 3 sef Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac yn cynnig ystod eang o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd dysgwyr sydd yn dod i’r Ysgol ym Mlwyddyn 7 yn 2023 yn derbyn o leiaf 70% o’u gweithgareddau Ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.
Nod yr ysgol yw datblygu’r disgyblion i fod yn hyderus ddwyieithog, er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o’r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni. Rhoddir pwyslais ar sicrhau dilyniant o’r cynradd i’r uwchradd o ran cyfrwng y dysgu. Bydd pob dysgwr yn dilyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg wrth drosglwyddo i flwyddyn 7. Bydd dysgwyr sydd angen cefnogaeth iethyddol (hwyrddyfodiad) yn derbyn darpariaeth trochi yn ystod blwyddyn 6 yn yr Ysgol Gynradd ac yn ystod blwyddyn 7 ac 8 yn Ysgol Dyffryn Conwy.
___________________________________________________________________________________________________________________________________________
Ysgol Dyffryn Conwy from September 2023 will be a designated Category 3 school which is a Welsh Medium School and offers a wide range of Learning and Experience Areas through the medium of Welsh. Learners who come to the School in Year 7 in 2023 will receive at least 70% of their School activities (curricular and extra-curricular) in Welsh.
The aim of the school is to develop the pupils to be confidently bilingual, in order to enable them to be complete members of the bilingual society of which they are a part. Emphasis is placed on ensuring progression from primary to secondary in terms of the medium of learning. All learners will follow Welsh-medium provision when transferring to year 7. Learners who need linguistic support (late arrivals) will receive immersion provision during year 6 in the primary school and during years 7 and 8 at Ysgol Dyffryn Conwy.
Polisiau cydraddoldeb ac anghenion dysgu ychwanegol - Equality and Additional learning needs policies
Polisi cyfle cyfartal
Nod yr ysgol ydy sicrhau fod pob plentyn yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial. Sylfaen hyn fydd sicrhau bod pob plentyn yn cael eu trin yn gyfartal, a bod Ysgol Dyffryn Conwy yn darparu'r addysg orau i bob disgybl yn ddiwahân. Ni fydd gwahaniaethu o gwbl ar sail rhyw, anabledd, cefndir, hil na thras. Os cyfyd unrhyw gwestiwn ynglŷn â chyfle cyfartal dylid cysylltu â'r Pennaeth neu Gadeirydd y Corff Llywodraethu.
Mae gan fy mhlentyn rhai problemau dysgu; a fydd yn cael cymorth?
Mae sawl math o gymorth ar gael i ddisgyblion yn dibynnu ar eu hanghenion. Cefnogir rhai disgyblion yn eu dosbarthiadau gan gymhorthyddion dysgu, sydd yn cefnogi unigolion neu grwpiau bach o ddisgyblion. Rhoddir cefnogaeth hefyd gan athrawon sydd yn arbenigo mewn anawsterau penodol megis dyslecsia, neu iaith a lleferydd.
Mae gan yr ysgol uned arbennig ar gyfer disgyblion sydd ag anawsterau cymedrol. Mae llefydd yn yr uned yn cael eu dynodi gan yr Awdurdod Lleol. Wrth i ni weithredu fel Ysgol a Chlwstwr tuag at newidiadau arfaethedig ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol, byddwn yn diweddaru gwybodaeth ar ein safwe.
Polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn anelu at sicrhau cyfle cyfartal cwricwlaidd a chymdeithasol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r ysgol yn gweithio'n agos gyda rhieni er mwyn sicrhau partneriaeth effeithiol i helpu'r disgybl. Rhoddir pwyslais ar farn y disgybl ac anelir at sicrhau ymateb ysgol gyfan i'w helpu ef/hi. Gwneir hyn trwy sicrhau bod cyfundrefn yn bodoli yn yr ysgol i adnabod disgyblion yn gynnar trwy greu cyswllt a'r ysgolion cynradd. Ar ôl cwblhau asesiad o anghenion y disgybl, byddwn yn ffurfio cynllun addysgol unigol fydd yn cwrdd â'i anghenion dysgu trwy ddarparu'r cymorth angenrheidiol.
_______________________________________________________________________________________________________________________________
Equal opportunity policy
The school aims to ensure that every child has the opportunity to reach their potential. The foundation of this will be to ensure that all children are treated equally, and that Ysgol Dyffryn Conwy provides the best education for all pupils without exception. There will be no discrimination on the grounds of gender, disability, background, race or pedigree. Should any question arise about equal opportunities please contact the Headteacher or Chair of the Governing Body.
My child has learning difficulties; will he/she be given help?
There are many types of support available to pupils depending on their needs. Some pupils are supported in their classes by teaching assistants, who support individuals or small groups of pupils. Support is also provided by teachers who specialize in specific difficulties such as dyslexia, or speech and language.
The school has a special unit for pupils with moderate difficulties. Places within the unit are designated by the Local Authority. As we move as a School and Cluster towards implementing planned changes in Additional Learning Needs, we will update information on our website.
Additional Learning Needs Policy
Ysgol Dyffryn Conwy aims to ensure equal curricular and social opportunities for pupils with additional learning needs. The school works closely with parents to ensure an effective partnership to help the pupil. Emphasis is placed on the view of the pupil and the aim is to secure a whole school response to help him/her.
This is done by ensuring that there is a system in place at the school for the early identification of pupils by linking with the primary schools. After completing an assessment of the pupil's needs, we will formulate an individual educational plan that will meet his or her learning needs by providing the necessary support.
A hot lunch and snacks are prepared by Sodexo every day. The school has a dedicated canteen and café as well as provision for pupils who prefer their own packed lunch.