Gwybodaeth a Dogfennaeth
Llawlyfr Ysgol
Adroddiad Ysgol i Rieni
Adroddiad Ysgol i Rieni
Cynllun Datblygu Ysgol
Mae'r ysgol yn monitro ac arfarnu yn gyson ac o ganlyniad rydym yn llunio Cynllun Datblygu. Mae'r Cynllun yn cymryd i ystyriaeth anghenion datblygu mewnol, yn ogystal a blaenoriaethau Cenedlaethol. Mae staff a'r disgyblion yn cael mewnbwn i'r cynllun. Am fwy o fanylder mae trosolwg i rieni i'w gweld.
Ein Blaenoriaethau ar gyfer 2023 - 24 yw:
Datblygu medrau ysgrifennu disgyblion
Datblygu medrau rhifedd disgyblion
Datblygu lles disgyblion gyda ffocws ar ymddygiad
Cynllunio tuag at Cwricwlwm i Gymru gan mireinio trefniadau asesu'r ysgol
Cynlluniau Grant Datblygu Disgyblion (PYaDd)
Estyn
Cafodd yr ysgol ei harolygu ddiwethaf yn Hydref 2018. Lluniwyd cynllun ôl-arolwg ac mae'r ysgol bellach wedi cwrdd ag argymhellion a osodwyd yn dilyn yr arolygiad, yn llwyddiannus
GDPR
Ar adegau mae'r ysgol yn casglu ac yn defnyddio data personol at ddibenion darparu addysg a diogelu plant. Mae'r data yma'n cael ei rannu gyda chwmniau eraill at y dibenion yma. Mae'r ysgol yn cynnal asesiad risg cyn rhannu unrhyw wybodaeth ac rydym yn dilyn canllawiau deddfau GDPR. Am fwy o fanylion mae angen darllen polisi'r ysgol