Llywodraethwyr

Llywodraethwyr Ysgol y Bedol

Mae gan Lywodraethwyr ysgol gyfrifoldeb cyffredinol am yr ysgol, ac o fewn y cyfrifoldebau penodol hynny i hyrwyddo safonau uchel o addysg a lles disgyblion. 


Mae'r holl Lywodraethwyr yn rhannu'r union bwerau ac amcanion, sef i ddiogelu ansawdd yr addysgu a'r dysgu a ddarperir gan yr ysgol; i godi safonau cyflawniad a chyrhaeddiad y disgyblion a'r staff, ac i fod yn atebol i'r gymuned leol am effeithiolrwydd yr ysgol . 


Os hoffech drafod unrhyw fater sy'n ymwneud ag Ysgol y Bedol yna gallwch siarad ag unrhyw Lywodraethwr. 

Mae'r Corff Llywodraethol yn cwmpasu nifer o Lywodraethwyr gwahanol - rhieni, staff, aelodau o'r gymuned a chynrychiolwyr o'r Awdurdod Lleol. Mae'r aelodau amrywiol yn cynrychioli barn y gwahanol grwpiau. Nid oes un aelod neu grŵp yn fwy / llai pwysig ac mae penderfyniadau yn cael eu gwneud fel un corff.


Mrs Rowena Bent yw'r Llywodraethwraig â chyfrifoldeb Diogelu ac Amddifyn Plant


Rhieni


Llywodraethwyr Cymunedol


Llywodraethwr Cymunedol Ychwanegol (Cyngor Cymuned)


Llywodraethwyr Awdurdod Lleol


Staff