Ysgol y Bedol
Mwynhau Dysgu yn
Ysgol y Bedol
Camdriniaeth Domestig
Mae'r ysgol yn le diogel i chi ddod iddo ac i geisio cymorth a lloches. Mae hefyd cymorth ar gael gan y mudiadau canlynol
'Dal ati i Ddysgu' - Gwefan yn llawn adnoddau dysgu gan gynnwys cyfresi darllen
Ein Gweledigaeth
‘Gweledigaeth Ysgol y Bedol yw darparu addysg gyfoethog ar gyfer yr holl ddisgyblion er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud y cynnydd gorau posib. I gyflawni hyn, bydd Ysgol y Bedol yn ysgol gyffrous a deinamig sy’n medru addasu’n gyflym i heriau addysgu'r unfed ganrif ar hugain. Bydd hon yn ysgol sy’n datblygu strategaethau ac addysgeg ar sail ymchwil, yn ysgol sydd yn barod i fentro ac arbrofi fel sefydliad sy’n hyrwyddo dysgu gydol oes.
Cred yr Ysgol yw bod pob disgybl yn unigryw a bod pob plentyn yn cyfri. Dylai’r ysgol felly fod yn gymorth i’n disgyblion i oresgyn unrhyw anawsterau ac sy’n grymuso ein dysgwyr i ddod yn ddinasyddion sy'n barod i ddysgu trwy eu bywydau. Ysgol ag iddi ethos gynhwysol, person-ganolog yw Ysgol y Bedol sy’n paratoi pob dysgwr i gofleidio heriau’r dyfodol drwy ddarparu ysgol hapus iddynt ddatblygu eu medrau i’r eithaf ac sy’n cadw anghenion ac uchelgais pob disgybl wrth wraidd yr hyn a gynigwn o fewn ein cwricwlwm.
Fel Ysgol rydym â chyfrifoldeb i sicrhau bod disgyblion sydd yn ein gadael ar ddiwedd Blwyddyn 6 yn unigolion hyderus, gwybodus, creadigol ac egwyddorol.
Rydym yn meithrin dysgwyr iach, annibynnol ac amlieithog sy’n ymhyfrydu yn eu hysgol a’u cymuned. Bydd dysgwyr Ysgol y Bedol yn ddysgwr sy’n dangos parch at holl randdeiliaid yr ysgol ac yn unigolion uchelgeisiol sy’n gosod safonau uchel i’w hunain yn barhaus. Bydd yma ymdeimlad gref o gydweithio fel un gymuned ac o ganlyniad bydd disgyblion, staff, rhieni a gofalwyr, llywodraethwyr a holl randdeiliaid yr ysgol yn aelodau balch o gymuned Ysgol y Bedol. Bydd ein disgyblion yn gwerthfawrogi a pharchu eu cymuned leol cyn eu bod yn lledu eu hadenydd a mentro i’r byd mawr. O ddarparu profiadau cyfoethog a chreu ymdeimlad o falchder yn eu cymuned leol, gobaith yr ysgol yw y bydd nifer o’r disgyblion yn dychwelyd i gyfoethogi eu cymuned leol gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Croeso i Ysgol y Bedol
Hoffwn estyn croeso cynnes i'r holl blant, eu rhieni a'u gofalwyr, teuluoedd, ffrindiau ac aelodau o'r gymuned leol sydd yn ganolog i fywyd Ysgol y Bedol. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad pob plentyn sydd yn mynychu’r ysgol ac sy'n gwneud ein hysgol yn lle hapus a chytûn i ddysgu a gweithio.
Ein nôd yw meithrin disgyblion sydd yn rhan annatod o’r Gymru fodern lle bydd y plant yn teimlo’n gryf am eu hiaith, eu gwlad a’u hetifeddiaeth.
Ein datganiad o genhadaeth yw: ‘Ymestyn i’r dyfodol’ ac mae hyn yn sail i bopeth a wnawn yn Ysgol y Bedol. Ein nôd yw meithrin disgyblion a fydd yn ddinasyddion gofalgar, meddylgar sydd yn anelu at fod y gorau y gallant fod mewn pa faes bynnag a ddewisant yn y dyfodol.
Dysgu awchus sydd wrth wraidd yr hyn yr ydyn yn ei hyrwyddo, a hynny o fewn amgylchedd ysgol ddiogel lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi ac yn parchu ei gilydd. Rydym yn annog ein disgyblion i ddatblygu annibyniaeth a dyfalbarhad. Rydym yn annog ein disgyblion i archwilio syniadau, rhesymu, egluro a chyfiawnhau eu ffordd o feddwl. Bydd hyn yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus a hwyluso dysgu gydol oes.
Mae'n fraint i fod yn bennaeth ar ysgol mor arbennig, ac rydym yn croesawu rhieni a’r gymuned leol, fel partneriaid er mwyn sicrhau, gyda'n gilydd, gallwn hyrwyddo safonau uchel o ddysgu ac ymddygiad. Rydym yn croesawu eich cyfranogiad ym mhob agwedd o fywyd a gwaith yr ysgol.
Mr Gethin Richards
Pennaeth
Cysylltu gyda'r ysgol
Ysgol y Bedol,
Heol Ffoland
Garnant
Sir Gaerfyrddin
SA18 2GB
admin@ybedol.ysgolccc.cymru
01269 824 048