Sgiliaith

Sefydlwyd Sgiliaith yn 2001 yn ganolfan arloesi sy'n cefnogi colegau addysg bellach a darparwyr dysgu seiliedig ar waith ar draws Cymru.

Ein bwriad yw cynnig cyngor ymarferol ar arfer da, darparu adnoddau ac hyfforddiant staff er mwyn cynyddu sgiliau a phrofiadau dwyieithog dysgwyr.

Rydym yn gefn i golegau wrth iddynt roi amrywiol gynlluniau gweithredu a strategaethau sy'n ymwneud â dwyieithrwydd ar waith mewn ymateb i ganllawiau'r Llywodraeth a sefydliadau eraill. Cynorthwywn uwch reolwyr y colegau wrth iddynt ystyried y camau datblygu nesaf. O ganlyniad, rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant proffesiynol mewn addysgu dwyieithog ac ymgorffori'r Gymraeg i staff y colegau. Golyga'r datblygiad hwn y gall rhagor o staff gynnig addysg ddwyieithog i'w dysgwyr.

Mae'r ddarpariaeth fideo-gynadledda cyfrwng Cymraeg yn ategu prif genhadaeth Sgiliaith, gan gyfuno’r egwyddor o ehangu'r ddarpariaeth gwricwlaidd a gynigir yn Gymraeg neu'n ddwyieithog, yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda dulliau addysgu arloesol. Lansiwyd y ddarpariaeth fideo-gynadledda o Goleg Meirion-Dwyfor i ysgolion a cholegau allanol gyda chyllid prosiect CIF yn 2006. Mae gennym staff yn gweithio o Bwllheli a Dolgellau.

Ariennir ein gwaith yn gyfangwbl gan Lywodraeth Cymru, sy'n ein galluogi i gynnig ein holl darpariaeth yn rhad ac am ddim i'r sectorau addysg a hyfforddiant ôl-14.

Sgiliaith was established in 2001 and is an innovation centre which supports further education colleges and work based learning providers across Wales.

Our objective is to offer practical advice, and provide resources and staff training in order to enhance learners' bilingual skills and experiences.

We play a supportive role as colleges implement various action plans and strategies around bilingualism in response to Government and other organisational steers. We assist the colleges’ senior managers as they consider the next stage of positive development. As a result we also offer professional training in bilingual teaching and embedding the Welsh language to the colleges’ staff. This development means that more staff will be able to offer a bilingual education to their learners.

The Welsh-medium video conference provision complements Sgiliaith’s core mission in that it combines the principle of extending curriculum provision in Welsh or bilingually through the medium of Welsh and English with innovative delivery. Video conferencing provision from Coleg Meirion-Dwyfor to external schools and colleges was launched with CIF project funding in 2006. We have staff working from Pwllheli and Dolgellau.

Our work is wholly funded by the Welsh Government, which allows us to offer all our provision free of charge to the post-14 education and training sectors.

Llyfryn Hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Sgiliaith.pdf