Gŵyliaith 2018

Defnyddio technoleg i wella gwasanaethau dwyieithog yn y sector addysg ôl-14

Using technology to improve bilingual services in the post-14 education sector

Angharad Lloyd-Williams, Pennaeth Sgiliaith yn croesawu cynadleddwyr i Gŵyliaith.

Angharad Lloyd-Williams, Head of Sgiliaith welcoming attendees to Gŵyliaith

Dr. Jeremy Evas yn trafod y rhwystrau sy’n gwynebu pobl wrth geisio defnyddio gwasanaethau Cymraeg.

Dr. Jeremy Evas discussing the barriers faced by people when trying to use Welsh language services.

Y gynulleidfa yn gwrando'n astud ar gyflwyniadau.

The audience listening carefully to the presentations.

Staff AB yn trafod apiau arolesol i gefnogi addysgu a dysgu dwyieithog mewn ystod o feysydd pwnc galwedigaethol.

FE staff discussing innovative apps to support bilingual teaching and learning in a range of vocational subject areas.

Gŵyliaith yn cadarnhau rôl technoleg er mwyn creu gwlad ddwyieithog

Daeth cynadleddwyr o bob rhan o Gymru ynghyd yn yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd ar Ebrill y 19eg i gynhadledd flynyddol Sgiliaith, Gŵyliaith.

Braf oedd gweld wynebau cyfarwydd a newydd er mwyn rhannu syniadau a dysgu am rôl technoleg wrth hwyluso addysgu dwyieithog yng Nghymru. Roedd trefnwyr y gynhadledd hon wedi llwyddo cael rhai o’n harbenigwyr gorau yn y meysydd technoleg ac addysg i annerch.

Agorwyd y gynhadledd gan Gareth Morlais o Lywodraeth Cymru. Gosododd Gareth y gynhadledd yn ei chyd-destun gan nodi pwysigrwydd AB yn strategaeth Cymraeg y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Trafododd yr her y mae’r Gymraeg yn ei wynebu, yn arbennig gyda dyfodiad technolegau megis Siri ac Alexa gan gwmnïau Apple ac Amazon a’r potensial sydd i’r dechnoleg newydd hwn newid cyfrwng iaith cartrefi Cymraeg. Soniodd am Gynllun Gweithredu Technoleg newydd Llywodraeth Cymru a sut mae’r Llywodraeth yn gobeithio cyd-weithio gyda’r cwmnïau hyn yn y dyfodol agos er mwyn ceisio cynnig gwasanaeth Cymraeg.

Yn dilyn Gareth, rhoddodd Dr Eleri James, o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, gyflwyniad am y cymorth ymarferol sydd gan swyddfa’r Comisiynydd i’w gynnig wrth gynllunio gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog. Cyflwyniad amserol iawn oedd hwn, yn arbennig wrth gofio'r gofynion statudol sydd arnom i gynnig gwasanaethau Cymraeg yn y sector, yn sgil Safonau’r Gymraeg.

Cafwyd cyflwyniad gan Dr. Jeremy Evas o Lywodraeth Cymru am y rhwystrau sy’n wynebu pobl wrth geisio defnyddio gwasanaethau Cymraeg. Roedd yn agoriad llygad dod i ddeall bod ein dewisiadau iaith yn gymhleth a bod y Llywodraeth yn gweithio ar argymhellion i ddileu’r rhwystrau i wasanaethau ac i hybu defnydd a dewisiadau o’r Gymraeg drwy ddefnyddio seicoleg iaith yn y dyfodol.

Un o uchafbwyntiau Gŵyliaith eleni oedd sgwrs gan Richard Sheppard, cyfarwyddwr a pherchennog y cwmni Interceptor Solutions. Thema sgwrs Richard oedd bod modd i sefydliadau addysg, drwy weithio’n agos gyda chwmnïau technoleg ddigidol, ddarganfod atebion syml i gwestiynau anodd er mwyn cynnig gwasanaethau technolegol ddwyieithog.

Gosododd Dr. Dafydd Trystan, wedi egwyl am ginio, ddyfodol y Gymraeg ym maes technoleg ac addysg. Soniodd Dafydd am ddatblygiadau pwysig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ddiweddar ym maes technoleg, yn arbennig am “Y Porth”, sef y llwyfan e-ddysgu cenedlaethol cyntaf o’i fath yn y Gymraeg. Rhannodd wybodaeth am y cyd-weithio agos sydd wedi bod rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac y sector addysg ôl-14 yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a sut bydd y cyd-weithio hwnnw yn dwysau ac yn datblygu yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Cawsom wybodaeth wedyn am brosiect arloesol gan GolegauCymru, sydd wedi creu apiau hawdd i’w defnyddio ym meysydd twristiaeth a hamdden, peirianneg moduro ceir, gweinyddiaeth busnes a hyfforddiant staff. Mae’r apiau wedi cael eu datblygu mewn cydweithrediad â sawl coleg AB ledled Cymru.

Cafwyd diweddglo egnïol i’r gynhadledd gan Sioned Williams o Grŵp Llandrillo Menai am brosiect arloesol Seren Iaith. Ariannwyd y prosiect gan Grant Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru er mwyn cynyddu defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg yn un o sefydliadau addysg bellach mwyaf Cymru. Yn olaf, cafwyd cyflwyniad gan Richard Gordon o Goleg Caerdydd a’r Fro am brosiect Gwobriaith, sydd hefyd am weld defnydd anffurfiol o’r Gymraeg yn cynyddu ymysg myfyrwyr.

Diwrnod llawn gwybodaeth ac ysbrydoliaeth sydd yn ein harwain i’r dyfodol, i’r Gymru ddwyieithog, ddigidol. Mawr yw ein gobaith bydd yr holl brosiectau a drafodwyd yng Ngŵyliaith yn dwyn ffrwyth ac y bydd defnydd o dechnoleg i hybu dwyieithrwydd a’r Gymraeg yn parhau i ddatblygu.


Gŵyliaith confirms the role of technology to create a bilingual country

Attendees from across Wales came together in the Hen Lyfrgell, Cardiff on April 19th for Sgiliaith’s annual conference, Gŵyliaith.

It was nice to see familiar and new faces present to share ideas and learn about the role of technology in facilitating bilingual teaching in Wales. The conference organisers had succeeded in recruiting some of the best experts in the fields of technology and education to speak on the day.

The conference was opened by Gareth Morlais from the Welsh Government. Gareth started by stating the importance of FE to the Governments Welsh Language Strategy to reach a million speakers by 2050. He discussed the challenges the Welsh language face, especially from new technologies such as Siri and Alexa from Apple and Amazon and the potential these have to change the day-to-day language in Welsh homes. Gareth then moved on to discuss the Welsh Government’s new Technology Action Plan and how the Government hopes to co-operate with large companies like Apple and Amazon in the future to offer a Welsh language service.

Following Gareth, Dr Eleri James, from the Welsh Language Commissioner’s office, gave a presentation on the practical support that the Commissioner’s office can offer in terms of planning Welsh and bilingual services. This was a very timely presentation, especially when considering the statutory requirements that we have to offer Welsh language services in this sector, as a result of the Welsh Language Standards.

Dr. Jeremy Evas from the Welsh Government gave a presentation on the barriers faced by people when trying to use Welsh language services. He explained that language preference choices are complicated and that the Government are working on recommendations to remove these barriers and promote people to use Welsh language services by using language psychology in the future.

One of the highlights of Gŵyliaith this year was a presentation by Richard Sheppard, Director and Owner of Interceptor Solutions. The theme of Richard’s presentation was that education institutions could find answers to providing bilingual technology services, by working closely with digital technology companies.

After lunch, Dr. Dafydd Trystan set the future of the Welsh language in the field of technology and education. Dafydd discussed recent developments by the Coleg Cymraeg Cenedlaethol in the field of technology, mainly “Y Porth”, which is the first national e-learning platform of it’s kind in the medium of Welsh. He then talked about the close collaboration between the Coleg Cymraeg Cenedlaethol and the post-14 education sector in recent years, and how this collaboration will intensify and develop over the next years.

We then had an interesting presentation on an innovative project by ColegauCymraeg, who have developed easy to use apps in the areas of tourism and leisure, car engineering, business administration and staff training. The apps have been developed in conjunction with several FE colleges across Wales.

Sioned Williams, from Grŵp Llandrillo Menai then discussed the Seren Iaith project. The project was funded by the Welsh Government’s 2050 Welsh Language Grant to increase the social use of Welsh in one of Wales’ largest further education institutions. To close the conference, Richard Gordon from Cardiff and Vale College discussed the Gwobriaith project, which also aims to increase the informal use of Welsh among students.

Gŵyliaith was a day full of information and inspiration, which will help lead us into a bilingual, digital Wales. We hope that all the projects discussed in the conference will be fruitful and that the use of technology to promote bilingualism and the Welsh language, will continue to develop.


Cyflwyniadau / Presentations

2018-GM-Gwyliaith01.pptx
20180413 DG D Cyngor a Chymorth wrth gynllunio gwasanaethau Cymraeg - Copi.pptx
Gwyliaith 2018 DafyddTrystan.pptx
Gwyliaith 2018 Jeremy Evas.pptx
RS Main Pres newidiadau ALlW.pptx
Cymraeg 2050 Presentation v1.pptx
Ap Cerbydau Modur.pptx
Cyflwyniad Gwyliaith Sioned Williams Sgiliaith.pdf
Cyflwyniad Ap Twristiaith.pdf