Amdanom ni

 (About us)

Ein taith

Ysgol Cyfrwng Saesneg 11-18 oed yw Ysgol Tregŵyr. Mae mwyafrif y disgyblion yn dod o gartrefi di-Gymraeg ac yn siarad y Gymraeg fel ail iaith. Ym mis Hydref 2021, fe ddechreuom weithredu'r fframwaith 'Siarter Iaith Gymraeg - Cymraeg Campus.' fe ddechreuom redeg nifer o glybiau Cymraeg i'r disgyblion a'r staff megis Clwb Chwaraeon Cymraeg, Clwb Cymraeg a Chlwb Clonc. Mae'r clybiau wedi helpu i wella'r defnydd o'r Gymraeg ar draws yr ysgol ac wedi helpu i gryfhau agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith Gymraeg. Fe ddechreuom weithredu 'Welsh Wednesdays' bob dydd Mercher lle mae'r disgyblion yn cwblhau amrywiaeth o dasgau Cymraeg er mwyn datblygu'u gwybodaeth a dealltwriaeth o'r iaith Gymraeg. Ym mis Rhagfyr 2021, fe enillom y Wobr Efydd. 


Gwobr Arian

Ar ôl ennill y Wobr Efydd, fe ddechreuom ddarparu gweithgareddau cyfoethogi i'r disgyblion e.e - sesiynau gan Sain Ffagan a Menter Iaith Abertawe a chyngerdd gan Bronwen Lewis. Trafodwyd y data gwe iaith mewn gwasanaethau a chyfarfodydd staff er mwyn darganfod ffyrdd o wella'r defnydd o'r Gymraeg ar draws yr ysgol. fe addysgodd y Criw Cymraeg y Gymraeg i staff y ffreutur a'r llywodraethwyr. Hefyd, fe recordiodd y Criw Cymraeg fideos flogio amser cinio i annog disgyblion i siarad y Gymraeg y tu allan i wersi. Fe gydweithiom yn fwy â'r ysgolion cynradd yn ein clwstwr ac ysgolion uwchradd yn Sir Abertawe trwy recordio fideos am hanes yr ardal. Ym mis Gorffennaf 2022, fe enillom y Wobr Arian. Fel ysgol, roeddem yn falch iawn o ennill 2 wobr 'Siarter Iaith Gymraeg - Cymraeg Campus' mewn un flwyddyn academaidd. 


Gwobr Aur

Ym mis Medi 2022, fe ddechreuom gydweithio gyda'r gymuned yn fwy. Fe ddarparom Gwrs Blasu Cymraeg 10 Wythnos ar ein safle er mwyn helpu’r gymuned i ddysgu’r Gymraeg a datblygu’u hymwybyddiaeth iaith. Ar ôl llwyddiant y Cwrs Blasu Cymraeg 10 Wythnos, fe ddarparom Gwrs Mynediad ar ein safle. Hefyd, fe gydweithiom gyda busnesau lleol i addysgu’r disgyblion am fanteision defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Fe siaradodd staff Cyfle i Ddysgu â’n disgyblion am fanteision defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a sut mae’r Gymraeg yn helpu yn y dyfodol. Fe siaradodd perchennog Caffi Cwm Ivy â disgyblion TGAU Lletygarwch am fanteision defnyddio’r Gymraeg yn y sector lletygarwch a sut mae’r Gymraeg yn helpu yn y dyfodol.  


Fe ymwelom â chaffis lleol er mwyn addysgu’r Gymraeg i’r gymuned.  Fe ymwelom â Chaffi Cwm Ivy, Caffi Cynefin a Chaffi Siop Fferm Dyfnant er mwyn addysgu Cymraeg bob dydd i’r gymuned. 


Fe wnaethom sicrhau bod Cymreictod yn fwy gweledol ar draws yr Ysgol. Crëwyd 'Y Cwtsh Cymraeg' gan y Criw Cymraeg. Mae'r Cwtsh Cymraeg yn cynnwys stensiliau o symbolau Cymru a dyfyniadau pwysig. Hefyd, arddangoswyd gwaith celf Cymreig y disgyblion ym mhob bloc er mwyn dangos Cymreictod. Arddangoswyd mwy o arwyddion Cymraeg ac arddangosfeydd Cymreig ac ar draws yr ysgol er mwyn hybu’r defnydd o’r Gymraeg a chryfhau ymwybyddiaeth iaith. 


Fe gynhaliom ddigwyddiadau i rieni er mwyn eu helpu i wella'u sgiliau Cymraeg a'u hymwybyddiaeth iaith. Cynhaliwyd 'Prynhawn Coffi Cymraeg a Chân’ lle addysgodd y Criw Cymraeg eirfa Nadolig i’r rheini. Fe berfformiodd ein côr garolau Nadolig. Cynhaliwyd 'Arddangosiad Eisteddfod Blwyddyn 7’ lle daeth rhieni i mewn i wylio enillwyr Eisteddfod Blwyddyn 7.  


Fe rannom arfer dda gydag ysgolion eraill a fe gefnogom ysgolion eraill. Fe ddarparom sesiynau Cymraeg i’r ysgolion cynradd a oedd yn cynnwys gemau iaith a thwmpath. Fe gynhaliom 'Arddangosiad Eisteddfod' i'r clwstwr lle daeth enillwyr yr ysgolion cynradd i’n hysgol i berfformio’r cystadlaethau a enillon nhw yn Eisteddfodau eu hysgol. Fe drafodom y Siarter Iaith yn y Rhwydwaith Cymraeg Ail Iaith er mwyn dangos arfer dda a chynyddu ymwybyddiaeth o’r Siarter Iaith ymhlith athrawon Cymraeg. Fe gynhaliom Fforwm Siarter Iaith Gymraeg i ysgolion yn Sir Abertawe. Fe rannom arfer dda a fe gymerom ysgolion ar daith o amgylch yr Ysgol.


Fe gystadlom yng nghystadlaethau Eisteddfod yr Urdd e.e - Offerynnol, Ffasiwn, a Grŵp Llefaru. Fe enillom y Grŵp Llefaru yn yr Eisteddfod Sir. 


Ar Fawrth 31ain 2023, fe enillom y Wobr Aur Siarter Iaith - Cymraeg Campus. Diolch i'r Criw Cymraeg a'r staff am eu hangerdd a'u gwaith caled. Roedd yn gyflawniad arbennig i ennill 3 Gwobr Siarter Iaith - Cymraeg Campus mewn 17 mis. Byddwn yn parhau gyda'r gwaith rhagorol.



Our journey

Gowerton School is an English Medium school for ages 11-18. The majority of pupils come from a non Welsh-speaking homes and speak Welsh as a second language. In October 2021, we started to implement the 'Siarter Iaith Gymraeg - Cymraeg Campus' framework. We started to run a number of Welsh clubs for pupils and staff such as Welsh Sports Club, Welsh Club and Gossip Club. The clubs have helped to improve the use of Welsh across the school and have helped to strengthen positive attitudes towards the Welsh language. We started to implement 'Welsh Wednesdays' every Wednesday where pupils complete a variety of Welsh tasks in order to develop their knowledge and understanding of the Welsh language. In December 2021, we won the Bronze Award. 


Silver Award

After winning the Bronze Award, we started to provide enrichment activities for pupils e.g- sessions by Saint Fagans and Menter Iaith Abertawe and a concert by Bronwen Lewis. The language web data was discussed in assemblies and staff meetings in order to discover ways to improve the use of Welsh across the school. The Welsh Crew taught Welsh to the canteen staff and the governors. Also, the Welsh Crew recorded vlogging videos at dinner time to encourage pupils to speak Welsh outside of lessons. We collaborated more with the primary schools in our cluster and secondary schools in Swansea County by recording videos about the history of the area. In July 2022, we won the Silver Award. As a school. we were very proud to achieve 2 'Siarter Iaith Gymraeg - Cymraeg Campus' awards in one academic year. 


Gold Award

In September 2022, we started collaborating with the community more. We provided a 10 Week Welsh Taster Course on our site in order to help the community learn Welsh and develop their language awareness. After the success of the !0 Week Welsh Taster Course, we provided an Entry Course on our site.  Also. we collaborated with local businesses to educate the pupils about the advantages of using Welsh in the workplace. Change to Learn staff spoke to our pupils about the advantages of using Welsh in the workplace and how Welsh helps in the future. The owner of Cwm Ivy Cafe spoke with GCSE Hospitality pupils about the advantages of using Welsh in the hospitality sector and how Welsh helps in the future. 


We visited local cafes to teach Welsh to the community. We visited Cwm Ivy Cafe, Cynefin Cafe and Dunvant Farm Shop Cafe to teach everyday Welsh to the community. 


We ensured that Welshness was more visible across the school. 'Y Cwtsh Cymraeg' was created by the Welsh Crew. The Cwtsh Cymraeg contains stencils of Welsh symbols and important quotes. Also, pupils' Welsh art work was displayed in every block in order to show Welshness. More Welsh signage and Welsh displays were displayed across the school to promote the use of Welsh and strengthen language awareness. 


We held events for parents in order to help improve their Welsh skills and language awareness. 'Prynhawn Coffi Cymraeg a Chân' was held where the Welsh Crew taught Christmas vocabulary to parents. Our choir performed Welsh carols. A Year 7 Eisteddfod Showcase was held where parents came in to watch the winners of the Year 7 Eisteddfod. 


Fe rannom arfer dda gydag ysgolion eraill a fe gefnogom ysgolion eraill. Fe ddarparom sesiynau Cymraeg i’r ysgolion cynradd a oedd yn cynnwys gemau iaith a thwmpath. Fe gynhaliom 'Arddangosiad Eisteddfod' i'r clwstwr lle daeth enillwyr yr ysgolion cynradd i’n hysgol i berfformio’r cystadlaethau a enillon nhw yn Eisteddfodau eu hysgol. Fe drafodom y Siarter Iaith yn y Rhwydwaith Cymraeg Ail Iaith (08/02/23) er mwyn dangos arfer dda a chynyddu ymwybyddiaeth o’r Siarter Iaith ymhlith athrawon Cymraeg. Fe gynhaliom Fforwm Siarter Iaith Gymraeg (16/02/23) i ysgolion . Fe rannom arfer dda a fe gymerom ysgolion ar daith o amgylch yr Ysgol.


We shared good practice with other schools and supported other schools. We provided Welsh sessions for the primary schools which included language games and a twmpath. We held an Eisteddfod Showcase for the cluster where the winners of the primary schools came to our school to perform the competitions they won in their school Eisteddfods. We discussed the Language Charter in the Welsh Second Language Network in order to show good practice and increase awareness of the Language Charter amongst Welsh teachers. We held a Welsh Language Charter Forum for schools in Swansea County. We shared good practice and we took schools on a tour around the school.


We competed in the Urdd Eisteddfod competitions e.g - Instrumental, Fashion and Recitation Group.  We won the Recitation Group Competition in the County Eisteddfod.


On March 31st 2023, we won the Siarter Iaith - Cymraeg Campus Gold Award. Thanks to the Welsh Crew and the staff for their passion and hard work. It was a special achievement to win 3 Siarter Iaith - Cymraeg Campus Awards in 17 months. We will continue with the superb work.