Llysgenhedon Ifanc
Pam dod yn Llysgennad Ifanc Plant Actif Iach Cymru?
Byddwch yn cael y cyfle i rannu eich profiadau, eich syniadau a lleisiau plant a phobl ifanc, gan ein helpu i lunio a deall gweithgarwch corfforol ledled Cymru. Fel Llysgennad Ifanc, byddwch yn cael y cyfle i:
Rhannu eich profiadau a'ch barn am chwaraeon, gweithgarwch corfforol a chwarae.
Helpu i ddylanwadu ar brosiectau a'u harwain.
Cwrdd â phobl ifanc o'r un natur sy'n frwdfrydig dros wneud gwahaniaeth.
Cynrychioli lleisiau plant a phobl ifanc a sicrhau eu bod yn cael eu clywed gan ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi.
Cwrdd â Cerys – Llysgennad ifanc sydd nawr yn brif ymchwilydd gyda'r Plant Actif Iach Cymru
"Dechreuodd fy nhaith ym myd chwaraeon yn y pwll nofio pan oeddwn yn ifanc iawn. Yno, datblygais gariad at chwaraeon a fyddai'n newid fy mywyd. Roedd chwaraeon yn llawer mwy na chystadlu – roedd yn lle i adeiladu hyder, gwneud ffrindiau a theimlo fy mod yn perthyn.
Pan oeddwn yn yr ysgol, cefais fy newis i fod yn Llysgennad Ifanc Chwaraeon Cymru. Dyna'r tro cyntaf imi sylweddoli y gallai fy syniadau a barn helpu plant eraill. Roedd bod yn llysgennad yn rhoi'r hyder imi siarad, rhannu fy syniadau a dangos imi y gallwn wneud gwahaniaeth yng Nghymru, hyd yn oed tra oeddwn yn dal yn yr ysgol.
Yn ddiweddarach, es ymlaen i astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe. Wedyn, cwblheais interniaeth gyda Nofio Cymru, lle cefais y cyfle i weithio gydag nofwyr Olympaidd. Heddiw, rwy'n astudio PhD ac yn ymchwilio weithgarwch corfforol a symudiad plant.
Wrth edrych yn ôl, roedd bod yn llysgennad ifanc yn un o'r camau cyntaf ar fy nhaith. Os ydych chi'n mwynhau bod yn egnïol neu eisiau helpu i wella bywydau plant a phobl ifanc ledled Cymru, efallai mai dod yn llysgennad fydd dechrau eich taith chi hefyd!"
2005
2025
Ymgeisio Nawr!
Cadwch lygad allan! Cyn bo hir, byddwn yn chwilio am bobl ifanc 16–18-oed i rannu eu barn, eu profiadau a'u syniadau gyda ni!