Ar Gael Nawr!!
Pwy ydym ni?
Mae Plant Actif Iach Cymru (AHK-Cymru) yn rhwydwaith cenedlaethol o ymchwilwyr, rhanddeiliaid a sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella lefelau gweithgarwch corfforol ac iechyd ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Rydym yn rhan o’r Active Healthy Kids Global Alliance, prosiect ryngwladol sy’n gwerthuso ac yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol ymhlith plant ar draws mwy na 70 o wledydd. Ers 2014, mae AHK-Cymru wedi cynhyrchu cardiau adrodd cenedlaethol ar weithgarwch corfforol, gan ddefnyddio graddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i amlygu cryfderau a meysydd i’w gwella.
Mae AHK-Cymru yn dod â phartneriaid ynghyd o feysydd ymchwil, addysg, iechyd cyhoeddus, chwaraeon a sefydliadau cymunedol er mwyn darparu tystiolaeth ddibynadwy ac argymhellion ymarferol sy’n cefnogi plentyndod mwy egnïol ac iachach ledled Cymru.
Ein Gweledigaeth
Rydym eisiau gweld Cymru lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i fod yn actif ac yn iach. Ein nod yw gweld plant a phobl ifanc yn cyflawni argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) o gyfartaledd o 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd. Rydym eisiau i chwarae, symud a bod yn actif fod yn rhan naturiol o fywyd bob dydd, gyda llai o amser yn cael ei dreulio yn eistedd, yn enwedig o flaen sgriniau, a mwy o amser yn gwneud gweithgareddau egnïol.
Rydym yn credu bod bod yn actif yn bwysig i iechyd corfforol, lles meddyliol a datblygiad cymdeithasol plant. Mae treulio llai o amser yn eistedd yr un mor bwysig â gwneud mwy o weithgarwch corfforol. Gan ddilyn canllawiau WHO, rydym eisiau sicrhau bod pob plentyn, beth bynnag ei gefndir neu ei amgylchiadau, yn cael cyfle teg i chwarae, symud a bod yn actif er mwyn iddynt allu tyfu a datblygu. .
Drwy gasglu a defnyddio data dibynadwy, codi ymwybyddiaeth ar draws Cymru a gwrando ar leisiau plant eu hunain, rydym yn gweithio tuag at wneud Cymru yn un o'r gwledydd gorau yn y byd o ran gweithgarwch corfforol plant. Rydym eisiau helpu plant i ddatblygu arferion iach heddiw, er mwyn creu Cymru iachach yfory.
Beth yw Dangosydd Ansawdd?
Mae dangosydd ansawdd yn ffordd glir o fesur pa mor dda mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn gwneud mewn gwahanol agweddau sy'n ymwneud â byw'n iach ac yn actif. Gall hyn gynnwys chwarae egnïol, yr amser sy'n cael ei dreulio yn eistedd, neu fynediad at lefydd diogel i fod yn actif.
Mae yna tair rhan i bob dangosydd:
Beth rydym yn ei fesur: Disgrifiad syml o'r gweithgarwch neu'r maes rydym yn edrych arno (er enghraifft, faint o amser mae plant yn ei dreulio yn chwarae bob dydd).
Y meincnod: Targed neu lefel benodol rydym yn cymharu data Cymru â hi (er enghraifft, canran y plant sy'n actif yn yr awyr agored am gyfnod penodol bob dydd).
Y radd: Gradd o A i F, neu "INC" os nad oes digon o ddata ar gael. Mae'r radd yn dangos pa mor dda mae Cymru yn gwneud, ac yn ei gwneud hi'n haws gweld cynnydd dros amser a chymharu Cymru â gwledydd eraill.
Graddau Dangosyddion Blaenorol