Y Fferm
Cliciwch ar y bocs du i fewnbynnu eich cod 11 digid er mwyn achub y dydd!
Cliciwch ar y bocs du i fewnbynnu eich cod 11 digid er mwyn achub y dydd!
Defnyddiwch y canlynol i wirio pob ateb!
(Mae'r ateb yn gywir os nad yw'n cael ei fflagio'n anghywir!)
Styc? Cliciwch ar y cliwiau canlynol i'ch helpu chi i achub y dydd!
Gwiriwch rifau'r tagiau clust yn ofalus!
Mae'r tagiau'n dagiau dwbl... un i bob clust.
Oes tag heb bartner?
072
Y rhif ar y tag sydd heb bartner!
Mae gan Martin BENTWR o jobs i wneud heddiw!
A phan fydd pentwr papurau lu,
Daliwch y drwydded am yr haul â chi,
A hwnnw'n haul mawr ganol p'nawn,
Felly mae darllen y drwydded yn iawn!
Mae'r ffuflenni fel arfer ar ben ei gilydd pan yn cael eu llenwi!
54
Pan mae'r trwyddedau wedi eu pentyrru ar ben ei gilydd, mae'r rhif 54 yn dod yn glir.
Mae'r TEIP yma o bôs yn anodd.
Mae'r ateb ar flaen eich bysedd?
Ble ddewch chi o hyd i'r symbolau % a £?
8
Ar allweddell cyfrifiadur mae % a £ ar yr allweddau 3 a 5. Felly mae 3 + 5 = 8
Mae pob gair yn ei le ond beth sydd o'i le?
Mae sillafiad geiriau'n dweud llawer.
Oes camgymeriadau sillafu?
4
Mae yna 6 gwall sillafu yn yr erthygl - os ydych chi'n cywiro'r gwallau mae'r llythrennau cywir yn sillafu PEDWAR.
Mae llaeth wedi sarnu ar ddarn hanfodol o'r label!
Mae sgilau rhifedd yn bwysig i bob ffermwr!
Mae angen gweithio allan sawl litr o laeth mae'r pecyn yn gallu gwneud.
9
Mae 200 gram o bowdwr llaeth yn gwneud 1 litr o laeth. Felly mae'r pecyn cyfan, 1800 gram, yn gallu gwneud 9 litr o laeth!
Mae angen offer priodol cyn torri clustiau.
Bydd rhaid torri'r bylchau i gyrraedd y nod.
Torrwch ar y llinellau i greu'r bylchau yn y clustiau.
3
Pan rydych chi'n torri'r clustiau yn y mannau cywir, a'u rhoi ar ben 'Enwau Ffermydd' mae'r rhif 3 yn ymddangos yn y bylchau.
Mae'r defaid wedi dod NÔL i'r fferm.
Bydd angen darllen NÔL dros y wybodaeth.
Bydd angen mynd NÔL i wirio cofnod diwrnod olaf Chwefror.
94
Os wnewch chi ddarllen 'rawdepgedwan' am nôl mae'n sillafu nawdegpedwar!