Enfys, Emyr, Iwan, Elan, Dorian a Lynet yw JENGYD, criw o ardal Llanddewi Brefi ger Tregaron. Ry' ni'n chwech yn ffrindiau sy'n joio datrys problemau a phosau ac wedi bwrw ati i greu 'Escape Rooms' Cymraeg. Rydyn ni'n gallu cynnal Escape Room mewn adeiladau, yn ein carafan symudol ac mewn amlen! Rhywbeth i siwto pawb.
Ydych chi'n ddigon craff?
Yn Saesneg, Escape Room, sef yn syml, ystafell sy'n rhaid dianc ohoni. Bydd tîm o bobl yn cydweithio i ddatrys cyfres o bosau a chliwiau er mwyn cael atebion sy'n eu harwain at ddiweddglo'r stafell. Rhaid twrio drwy'r ystafell i ddarganfod allweddi i agor cloeon, codau i ddatrys posau a llawer mwy! Mae'r cyfan yn erbyn y cloc! Mae Ystafell fel arfer wedi'i chynllunio ar thema benodol.
Thema'r garafan yw Operation Julie. Pwrpas yr ystafell hon yw helpu'r heddlu i ddod o hyd i arian y cyffuriau LSD yng nghegin Christine Bott a Richard Kemp, dau o brif wyddonwyr yr ymgyrch gyffuriau LSD enwog yn ystod y 70au.
Ddigwyddodd yr holl ddrama ar ein stepen drws yma yn Llanddewi Brefi a dyna'r ysbrydoliaeth tu ôl i'r garafan!
Beth yw amlen JENGYD?
Yr ystafell JENGYD heb y cloeon yw'r amlen. Eto, bydd cyd-destun a phroblem, a'ch tasg chi yw datrys y dirgelwch trwy gyfres o bosau, codau a chliwiau.
Mantais amlen:
1. Mae'n bosib danfon yn y post.
2. Gallwch joio'r ddirgelwch o adref, rownd ford eich cegin.
3. Gallwch ddanfon at rywun fel sypreis.
4. Mae'n addas ar gyfer pawb. Y teulu i gyd, o'r hynaf i'r lleiaf, neu gallwch wynebu'r her yn annibynnol hefyd.
Beth yw bocs JENGYD?
Hanner ffordd rhwng yr ystafell JENGYD â'r amlenni mae'r bocsys JENGYD. Eto, bydd cyd-destun a phroblem, a'ch tasg chi yw datrys y dirgelwch trwy gyfres o bosau, codau a chliwiau.
Mantais bocs:
1. Mae'n rhoi yr un fath o brofiad â'r garafan, ond mae sawl un yn gallu taclo bocs ar yr un pryd.
2. Gallwch joio'r her gyda ffrindiau mewn noson gymdeithasol megis C.Ff.I, MYW ayyb.
3. Mae'n fwy ymarferol nâ'r amlenni ac yn gallu bodloni fwy o bobl ar yr un pryd na'r garafan.
Cynhaliwyd ein digwyddiad cyntaf yn nhafarn y New Inn, Llanddewi Brefi. Dyma ambell i lun o'n digwyddiad cyntaf - Ystafell Glô ar y thema Operation Julie!