Gair Rhydd : Papur Newydd Prifysgol Caerdydd / Cardiff University Newspaper.
Cyfrannu erthyglau dwyieithog i adrannau Gwleidyddiaeth, Taf-Od a Newyddion.
Contribute bilingual articles for Politics, Taf-Od and News sections.
Mae adroddiad blynyddol Prifysgol Caerdydd yn dangos bod gan y sefydliad ddiffyg ariannol gweithredol o £33.4m yn y flwyddyn hyd at ddiwedd Gorffennaf 2025. Noda’r adroddiad fod hyn yn cynrychioli ‘sefyllfa sy’n gwaethygu yn gymharol â diffyg gwaelodol y flwyddyn flaenorol’. Roedd diffyg ariannol gweihredol o £31.2 miliwn gan y brifysgol y flwyddyn honno.
Dywed yr adroddiad mai gostyngiad mewn incwm ffioedd dysgu, oedd y prif reswm dros leihad incwm i’r brifysgol. Wnaeth y ffigwr hwnnw ostwng i £317.9m - £10.3m yn is na’r ffigwr yn 2023/24. Wnaeth incwm o neuaddau preswyl, gweithgareddau masnachol a phartneriaethau hefyd ostwng 4.4% i £91m gydag incwm yn sgil buddsoddiad yn gostwng o £11.7m i £10.5m sydd yn ostyngiad o 10.2%.
Esbonia’r brifysgol eu bod nhw wedi bod yn gweithredu mewn amodau ‘heriol’ ac mewn ‘amgylchedd chwyddiant uchel, a’i chyfyngu gan gyllid cyhoeddus ac anwadalrwydd y farchnad myfyrwyr rhyngwladol’.
Roedd y diffyg cyn enillion neu gostau pellach yn £48m gyda’r brifysgol yn gwneud gwarged (surplus) o £24.3m yn sgil Cynlluniau Diswyddo a Dileu Swyddi Gwirfoddol. Mae’r diffyg cyn enillion neu golledion pellach yn ostyngiad o £192m ers 2023/24 lle esboniwyd y cafodd y brifysgol credyd pensiwn gwerth £162.8m ynghyd ag enillion buddsaoddiad gwerth £36.9m.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd "Rhagwelwyd diffyg ac roedd y Cyngor wedi caniatáu inni gyllidebu ar gyfer y drydedd flwyddyn olynol hon o ddiffyg.”
Wrth gyfiawnhau cynllun dadleuol, rhaglen ‘Ein Dyfodol Academaidd’ dywedodd, “pe na baem wedi cymryd y camau a wnaethom dros y flwyddyn, byddai'r diffyg wedi bod yn sylweddol uwch (tua £65m).”
"Mae'r sector yn ei gyfanrwydd yn wynebu heriau ariannol parhaus, ac mae gan lawer o sefydliadau ddiffyg yn eu cyllidebau. Nid yw diffyg yn y gyllideb yn unigryw i Brifysgol Caerdydd ac nid yw'n golygu bod Caerdydd mewn trafferthion ariannol.” Ychwanegodd fod gan y “Brifysgol fantolen gref oherwydd gwerthoedd sylweddol ei hasedau a’i chronfeydd wrth gefn.”
"Rydym yn anelu at ddychwelyd sylfaen gostau’r Brifysgol i sefyllfa gynaliadwy yn ystod y blynyddoedd i ddod ac mae'r Brifysgol yn cymryd camau rhagweithiol i greu dyfodol cynaliadwy.
Mae prifysgolion eraill Cymru hefyd yn wynebu diffygion ariannol gyda Phrifysgol Bangor wedi adrodd diffyg o £18.3m yn 2024/25 ac Abertawe £39.9m. Serch hynny, llwyddodd Brifysgol Aberystwyth i leihau ei diffyg o £8.1m yn 2023/24 i £2.4m yn 2024/25.
Ceisia brifysgolion leihau eu diffygion ariannol ac un o’r ffyrdd hynny yw wrth geisio dorri swyddi. A ddechrau mis Mawrth, cyhoeddodd Prifysgol De Cymru, sydd â champws yn y brifddinas, eu bod am dorri 200 o swyddi mewn ymateb i ‘anawsterau ledled y sector’. Daw hyn ar ôl iddynt gyhoeddi ar ddechrau’r flwyddyn eu bod am dorri 90 o swyddi a lleihau cyrsiau ac ymchwil.
Dyma realiti sefyllfaoedd ariannol prifysgolion Cymru wrth i sawl un gydnabod eu bod yn wynebu cyfnod o galedi ariannol a cheisio mynd i’r afael â diffygion ariannol a lleihad mewn incwm.
In their 2024/25 annual report, Cardiff University reported a £33.4m operating financial deficit which is an increase from the £31.2m deficit they faced in 2023/24. This represents the financial pressures that universities across Wales are facing. They say that this is down to a £10.3m decrease in tuition fees income, less income from rent in students’ halls of residences and a 10.2% decrease in income from investments.
Their deficit before other gains and losses stood at £48m but as the university recorded a £24.3m surplus from redundancies, this was not enough to combat the worsening deficit the university faces.
According to a Cardiff University spokesperson, “a deficit was forecast and Council allowed us to budget for this third consecutive year of deficit.” As they defended the recent ‘Our Academic Futures’ programme, they said “had we not taken the action we did over the year, the deficit would have been significantly higher (around £65m).”
They emphasised that “a deficit budget is not unique to Cardiff and does not mean that Cardiff is in financial difficulty” adding that “Cardiff [University] retains a strong balance sheet underpinned by significant asset values and reserves.”
Other universities in Wales also face financial uncertainty as Bangor University reported a deficit of £18.3m in 2024/25. Swansea University reported a £39.9m deficit while Aberystwyth University managed to decrease their deficit of £8.1m in 2023/24 to £2.4m in 2024/25.
As job cuts continue to be on the table at numerous universities in Wales; South Wales University, who have a campus in the Welsh capital, announced that they intend to cut 200 jobs as they react to ‘difficulties across the sector’.
The University of Wales Trinity Saint Davids (UWTSD) who have Postgraduate teaching on sites in Cardiff, Swansea and their main campus in Carmarthen, reported a deficit of £2.8m in 2024/25, down from a surplus of £32.339m the previous year. They reported a total loss of £4.68m in their Annual Report for 2024/25. This comes despite the university bringing postgraduate teaching to an end in Wales’ oldest university in Lampeter in September of 2025 and relocating humanities subjects to Carmarthen.
Talking to Gair Rhydd, Dewi Knight, Director of PolicyWISE and former Education Advisor for the Welsh Government said: “The main issue for the financial planning of many universities across the sector is that they expected growth to continue for the long-term, and that has not proved to be the case.”
“It’s important that the leadership of our universities are willing to make the moral, as well as financial, case for any restructuring or deficit-related decisions. Reducing departments or provision may be the right call in some instances, but it can’t simply be a financial decision. These must complement a wider strategy that fundamentally strengthens a university’s mission as an academic and civic institution.”
He said that funding should be specific to individual universities adding that it “must reflect – and drive – the specific strengths and missions of different institutions, ensuring each plays a different, but equal and complementary role in achieving national (and regional) goals.”
“Overall, there are many factors affecting the financial situation of universities in Wales. Many of these are external to Wales, within the responsibilities of the UK Government, and others relate to decisions being made here.”
“Across the UK, the patterns of student recruitment have changed, and we’ve seen the more selective universities become less selective. This has had a knock-on effect elsewhere in the sector, especially in Wales” adding that “international recruitment remains challenging, and at the mercy of Home Office leadership. That said, perhaps Welsh universities should have diversified more quickly.”
Universities continue to face significant financial uncertainty as they hunt for ways to get to grips with the mounting deficits and a lack of funding.
Gyda llai na 80 niwrnod i fynd, mae etholiad Senedd 2026 yn mynd i fod yn wahanol wrth i Gymru bleidleisio ar y 7fed o Fai i ddewis 96 o aelodau Seneddol. Dyma etholiad lle fydd pleidleiswyr mor ifanc â 16 oed yn gallu pleidleisio am blaid mewn system gyfrannol newydd. Ond, beth sydd yn poeni myfyrwyr Caerdydd cyn yr etholiad eleni? Beth fydd y ffactorau y byddant yn eu hystyried?
Yn ôl Megan Williams sydd yn ei hail blwyddyn yn astudio Cymdeithaseg, mae hi’n pryderu am argaeledd swyddi i bobl ifanc a’r ffordd mae pobl ifanc yn cael eu trîn mewn swyddi contract sero-awr.
“Mae llawer o bobl ifanc mewn swyddi rhan-amser, dros dro neu ar gontractau ansicr. Er bod ganddynt waith, nid oes ganddynt y sicrwydd ariannol i gynllunio’n hyderus ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn gwneud rhentu neu brynu tŷ yn llawer anoddach, ac yn ei gwneud hi’n anodd arbed arian yn gyson. O ganlyniad, mae penderfyniadau mawr fel cynllunio teulu neu ymrwymo’n ariannol yn cael eu gweld fel rhwystr mawr.”
Yn enedigol o Orllewin Cymru, mae Megan am weld ei hun yn dychwelyd i sir Ceredigion i fyw ond yn poeni am ddiffyg gwaith sefydlog mewn ardaloedd gwledig. Dywedodd fod yr “ymdeimlad o gymuned a pherthyn, a bod yn agos at deulu, yn rhywbeth sy’n anodd ei ail-greu mewn dinas.”
“Ond byddwn i’n poeni am y cyfleoedd gwaith. Os nad oes digon o swyddi sefydlog gyda chyflog da, mae’n anodd cyfiawnhau symud yn ôl — hyd yn oed os yw’r galon eisiau.”
Poena Sami Sullivan sydd yn ei flwyddyn gyntaf yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth am gynlluniau addysg uwch megis benthyciadau myfyrwyr a chostau ffioedd prifysgol sydd “yn cadw mynd i fyny.”
Creda fod “gwleidyddiaeth a pholisiau yn cael eu colli ymysg yr holl ffocws ar gyfryngau cymdeithasol. Mae gan bawb yr hawl i farn ond mae rhai yn cymryd hyn yn eithafol.”
“Etholiad y senedd ydyw - lleoliad sy’n rheoli Cymru, hoffwn weld gwleidyddion yn ffocysu ar weithredu yng Nghymru a chreu cynlluniau yn ymwneud â dyfodol yr iaith a diwylliant y Gymraeg tra hefyd yn ffocysu ar y broblem trafnidiaeth rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.”
Gyda system newydd o bleidleisio ac etholaethau newydd, dyma bryder Elliw Straen o’r ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ôl hi, mae’n “poeni fod y rhannu etholaethau newydd am dan gynrynchioli ardaloedd sydd â etholaeth fawr fel fy un lleol i, Gwynedd Maldwyn, lle mae'r etholaeth yn ymestyn o Ben Llŷn i Loegr.
Mae’n poeni am y diffyg cynrychiolaeth gall y system newydd ei greu gan ychwanegu, “fydd pobl hefyd yn fwy 'hesitant' i ethol os ydi'r ethloaethau yn fwy gan fod llai o gynrynchiolaeth leol.”
Byd amaethyddiaeth sydd yn cymryd sylw Endaf Owen, myfyriwr ail flwyddyn yng Nghaerdydd ac mae am weld newidiadau i bethau megis treth etifeddiaeth a gwarediad o syniadau i blannu 10% o dir ffermio gan goed a gorfodaeth i ddefnyddio disel gwyn mewn tractorau.
Er fod rhain wedi eu disodli bellach mae’n poeni mai “mater o amsar tan ma rhywun yn cal bright idea tebyg.” Ac yntau o Ynys Môn, mae cynlluniau Wylfa newydd wedi bod yn bwnc llosg ac yn ôl Endaf, “yn bersonol dwi’n meddwl bod o am ddod a lot o swyddi a cyfleoedd i bobl sir fon a rhywle i annelu am Swydd yn y dyfodol.”
Mae’r amser yn crebachu i wleidyddion i ennill pleidleisiau etholwyr Cymru a’r polau piniwn yn dangos fydd newid sylweddol i’r tirwedd wleidyddol yng Nghymru ar ôl y 7fed o Fai. Fodd bynnag, amser a ddengys os fodd y polau piniwn i’w gwireddu.
A freedom of information request by Gair Rhydd revealed that the university spent £67,826 on pest control between April 2024 and March 2025.
It also revealed that the highest number of pest control matters occur in the Talybont residences area where some 3,000 students reside.
Rats are a regular sighting for students in Cathays and beyond with concerns often being raised by students in the University’s Halls of Residences.
Bethan Rosser, a first-year student living in Senghennydd Court, was relocated from her flat after she found a rat in her room.
“After calling reception, they said that they could not do anything about it other than relocate me to another flat with pest control not able to attend the flat to inspect for 2 working days.”
According to her, the team did not follow up to check on the issue following the incident.
“The poison was only put down in my kitchen, not in my room where I found the rat” she told Gair Rhydd.
She added that the University had “failed to deal with the issue in my room.”
“After the Christmas break, I got back to my flat to find another rat dead in the kitchen”
“Although the bin lorries come to collect the rubbish often, to deal with the problem, it might be worth them [the University] moving the bins away from the buildings.”
While Cardiff University spent £67,826 on pest control in 2024/25, the Cardiff Metropolitan University spent a total of £16,000 – over £50,000 less.
Cardiff University does not have a contractor to deal with pests and therefore issues the jobs ‘when required’.
A Cardiff University spokesperson said that “We don’t comment on individual cases or unsubstantiated claims.”
They said that they “aim to visit within 24 working hours to investigate the issue. If needed, we will arrange for Pest Control to attend.”
“We recognise this is a matter of great concern for those students impacted. We are committed to doing what we can to manage any reported incidents as soon as practicable.”
Cardiff University stressed that complaints are “not necessarily internal and include the grounds and surrounding areas.”
“Waste collection points are regularly checked, emptied and cleaned to minimise the risk of pests.”
“We have preventative and proactive pest control measures in place throughout our campus, as well as regular reactive maintenance
Siom a dwy sgandal sydd wedi achosi pryder i blaid Nigel Farage dros y deufis diwethaf, a’r tri o rhain yn gysylltiedig â Chymru!
I ddechrau, ym mis Hydref, methodd y blaid â chipio sedd Caerffili yn Senedd Cymru, sedd oeddant wedi gweithio a buddsoddi yn galed ynddi i’w hennill.
Daeth yr ymgeisydd, Llyr Powell yn ail i ymgeisydd Plaid Cymru, Lindsay Whittle. Roedd 3,848 o bleidleisiau yn gwahanu’r ddau ar ddiwedd y cyfri- llawer mwy na roedd y. Polau piniwn yn ei ragdybio.
Ym mis Tachwedd, gwelwyd unig aelod Senedd Cymru o’r blaid, Laura Anne Jones yn cael ei gwahardd am bythefnos wedi iddi wneud sylwadau amhriodol mewn grŵp Whatsapp ym mis Awst 2023.
Mewn datganiad emosiynol ar lawr y Senedd ar ôl dysgu am ei gwaharddiad, dywedodd y cyn Aelod Senedd Ceidwadol a symudodd i Reform ynghynt yn 2025, fod yr archwiliad wedi gael effaith mawr ar ei hiechyd meddwl.
Ni fydd gan yr aelod dros Dwyrain De Cymru yr hawl i gamu ar dir y Senedd na chymryd rhan mewn pleidleisiau tan iddi ddychwelyd ar y 3ydd o Ragfyr. Serch hynny, bydd hawl ganddi i weithio o’i hetholaeth.
Efallai mai’r mwyaf arwyddocaol ydy bod cyn arweinydd y blaid Reform yng Nghymru, Nathan Gill, wedi ei ddedfrydu i 10.5 mlynedd o dan glo ar ôl iddo bledio’n euog i wyth cyhuddiad o lwgr-wobrwyo.
Yn ystod ei gyfnod fel Aelod Senedd Ewrop dors y blaid UKIP yng Nghymru, bu Nathan Gill yn derbyn taliadau gan Rwsia am iddo rannu negeseuon oedd yn gefnogol o’r wlad.
Cred iddo dderbyn tua £40,000 am gyfweliadau teledu ac anerchion tra’n Aelod Senedd Ewrop.
Wrth ymddangos o flaen llys yr Old Bailey yn Llundain i’w ddedfrydu ddiwedd mis Tachwedd, dywedodd y farnwres, Mrs Cheema-Grubb fod gweithredoedd Gill yn “fradychiad” i ymddiredaeth yr etholwyr.
Dywedodd Heddlu Met Llundain y bydd yr ymchwiliad yn parhau er mwyn sicrhau “a oes unrhyw unigolion eraill wedi cyflawni troseddau [o lwgr-wobrwyo].”
Gyda etholiad ar y gorwel yng Nghymru, mae’r achosion yma yn codi’r cwestiwn, a fydd enw da’r blaid yn cael ei ddifrodi neu a fydd etholwyr yn parhau i droi at Reform?
Un peth all fod yn sicr, mae’r blaid yn un broffesiynol erbyn hyn, yn gwbl wahanol i’r blaid UKIP a Brexit rydym wedi eu gweld dros y 40 mlynedd diwethaf.
Mae data newydd yn dangos gall tymhereddau dŵr daear islaw dinas Caerdydd gyrraedd hyd at 20C. Credir mai gweithred uwchlaw’r ddaear sydd yn gyfrifol am y “llygredd tymheredd” yma.
Er mwyn canfod y data yma, driliwyd 61 o dyllau ar draws dinas Caerdydd fu’n casglu data am tymhereddau’r ddaear o dan y ddinas ers 2018. O’r bae i ganol y ddinas, a thu hwnt, roedd y dyfeisiau yma yn trosglwyddo data i sefydliad y ‘UK Geoenergy Observatories’ bob hanner awr dros y chwe mlynedd diwethaf.
Ond mae yna gyfanswm o 234 o dyllau i gyd ar draws y ddinas sydd yn casglu data ar gyfer sefydliadau gwahanol fel y ‘British Geological Survey’ sydd i gyd yn dangos yr un tueddiadau sef bod yr hyn sydd gyda Chaerdydd o dan y ddaear wirioneddol yn mynd i allu cynhesu cartrefi gan leihau’r angen am nwy.
Pe bai cynlluniau ar gyfer gwresogi geothermal yn cael eu cyflwyno, byddai’n newid byd i 124,000 o gartrefi Caerdydd. Mae’n bosib fydd y cartrefi yma yn gallu cael eu gwresogi a’u pweru gan dymheredd y ddaear.
Ond sut, medde chi?
Wrth dyllu o dan y ddinas, bydd peiriannau ‘Ffynhonell Tir’ (Ground Source) yn gallu cael eu defnyddio wrth i ddŵr oer deithio o’r pwmp i’r ddaear lle fydd yn cael ei gynhesu’n naturiol. Wrth ddychwelyd i’r pwmp, bydd y dŵr yn cael ei gynhesu drwy broses anweddu a chywasgu sydd yn cynyddu’r tymheredd yn uwch.
Mae gan y dŵr cynnes yma y gallu wedyn i wresogi’r cartref ac yn fwy na dim, y gallu i rhoi cyflenwad dibynadwy o ddŵr cynnes i’r cartref.
Tra’n arloesol i Gymru, nid yw defnyddio ‘Geothermal’ yn anghyffredin. Yng Ngwlad Yr Iâ, mae egni ‘Geothermal’ yn cael ei ddefnyddio yn aml- dyma beth sydd yn gwresogi 90% o gartrefi’r wlad. Yno, mae’n manteisio ar actifrwydd folcanig yr ynys sydd yn cynhyrchu grwes daear naturiol.
Clywn yn aml am bryderon amgylchweddol a’r angen i ddod o hyd i ddullaiu amgen i wresogi a chael ynni. Ai dyma’r dyfodol felly? Defnyddio gwres y ddaear i’n gwresogi ni.
Mae Cabinet Cyngor Caerydd wedi cadarnhau diwygiadau i drwyddedi parcio i fyfyrwyr gan olygu mai dim ond un trwydded bydd yn cael ei roi i bob tŷ.
Mae Martha Thomas yn fyfyriwr Addysg Gynradd ym Mhrifysgol Met Caerdydd ac yn galw ar Gyngor Caerdydd i “wrando ar fyfyrwyr a deall bod anghenion myfyrwyr hefyd yn bwysig”
“Dwi’n teimlo’n nerfus o ran blwyddyn nesaf achos bod fy nghwrs golygu bod rhaid defnyddio car i fynd i ysgolion.”
“O ran fi, mae angen i mi fynd ar ddiwenodau ymarfer dysgu ar draws de Cymru sydd yn anodd iawn i gyrraedd heb gar.”
Trafnidiaeth gyhoeddus “ddim digon da”
“Mae’r car yn rhoi rhyddid i mi fynd adref yn rhwydd gan nad oes yna wasanaeth trên rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.”
“Dydy trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd a Chymru ddim digon da i gyfiawnhau tynnu ceir myfyrwyr oddi wrthyn nhw.”
“Gyda 7 yn byw yn y tŷ mae’n mynd i fod yn anodd i gwtogi’r trwyddedi i un yn unig gyda phob un ohonom yn teithio i wahanol lefydd.”
Un trwydded fydd hawl gan bob tŷ myfyrwyr ymgeisio amdano yn ôl y cynlluniau newydd.
Maent hefyd yn datgan y bydd nifer o drwyddedi ymwelwyr ar gyfer myfyrwyr hanner y nifer mae gan breswylwyr yr hawl iddynt.
Bydd gan fyfyrwyr yr hawl i hyd at bedwar trwydded y flwyddyn i bob tŷ ar gyfer symud i fewn ac allan o’u tai.
Mewn cyfarfod cabinet ar ddydd Iau, y 16eg o Hydref, cytunodd y cynghorwyr i’r newidiadau oedd yn cynnwys:
- Cyfyngu trwyddedi parcio tai myfyrwyr i un i bob tŷ.
- Lleihau’r nifer o drwyddedi ymwelwyr i fyfyrwyr.
- Cynnyddu ffi trwydded ar gyfer ceir mawr (SUV)
Bydd y ddinas yn cael ei rannu mewn i dair ardal gwahanol; ardal y ddinas, yr ardal fewnol a’r ardal allanol.
Yn ôl Cyngor Caerdydd, mae cerbydau mawr yn beryglus ac yn rhoi mwy o straen ar heolydd.
Yn ôl y Cynghorydd Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, Dan De’ath, “nod Cynllun Parcio’r Ddinas yw cyfrannu at waith y ddinas yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd.”
Ychwanegodd bod “rhaid gwneud penderfyniadau anodd i gydbwyso anghenion trigolion, busnesau, ymwelwyr a grwpiau sy’n agored i niwed.”
Mae disgwyl i’r cynllun ddod i rym yn y ddinas yn raddol dros y degawd nesaf.
Mae disgwyl newid mawr i dirwedd gwleidyddol Cymru ar ôl etholiad Senedd mis Mai flwyddyn nesaf os yw’r polau piniwn i’w credu.
Tra ei bod yn ddigon posib y bydd Llafur Cymru yn hunanfodlonol, mae Plaid Cymru a Reform yn sicr yn ennill tir – dwy blaid genedlaetholgar â chredoau gwbl wahanol.
Yn ôl y polau piniwn diweddaraf, maent yn gosod Plaid Cymru ar y blaen gyda Reform yn dynn wrth eu sodlau. Mae’r ymchwil hwn gan YouGov yn golygu, pe bai etholiad Senedd yfory, Plaid Cymru byddai’n ennill gydag un sedd yn fwy na Reform.
Ond ni fyddai gan Lywodraeth Plaid Cymru fwyafrif gan olygu byddai angen i’r blaid gydweithio gydag oleiaf un plaid arall.
O 2026 ymlaen, bydd 96 o Aelodau Seneddol yn cael eu hethol ar draws 16 etholaeth mewn system gyfrannol.
Mae systemau cyfrannol yn ei gwneud hi’n anoddach i un plaid fod yn fuddugoliaethus gan ganiatáu i bleidiau lleiafrifol (fel Plaid Cymru a Reform UK) i ddod i’r amlwg.
Y system a ddefnyddir yn etholiadau Senedd Cymru o 2026 ymlaen ydy ‘System Rhestr Caëdig’ sy’n golygu bydd chwe aelod yn cael eu hethol o fewn pob un etholaeth.
Felly, pleidleisio am blaid y byddwch, nid aelod penodol. Er bod system rhannol-gyfrannol wedi cael ei defnyddio yng Nghymru ers ddatganoli, nid ydyw wedi cael ei defnyddio i’r fath raddfa ers ethol Aelodau Senedd Ewrop.
Bydd aelodau yn cael eu hethol yn ôl cyfran o’r pleidleisiau maent yn eu derbyn ym mhob etholaeth. Petai plaid yn ennill 50% o’r bleidlais mewn etholaeth, byddant yn ennill 3 sedd o’r etholaeth yn y Senedd.
Mae Llafur heb golli mewn etholiad yng Nghymru ers canrif, ond tybed ai 2026 yw’r flwyddyn fydd hyn yn dod i ben? Plaid Cymru, ar y llaw arall, wedi ei sefydlu ers canrif ond heb ennill etholiad erioed. Gwŷr pawb beth yw eu dymuniad penblwydd nhw.
Tra fod dwy blaid yn brwydro ar y chwith, Reform sydd i weld yn dominyddu’r dde gyda’r Ceidwadwyr yn ei gweld hi’n anodd i ddygymod â’r golled hanesyddol yng Nghymru yn 2024 lle gwelwyd ‘Tory-wipeout’. Gobeithio gweld diwedd y twnel dywyll maen nhw.
Mae deufis i fynd tan y flwyddyn newydd ond am flwyddyn newydd mae hi am fod yn wleidyddol. Blwyddyn newydd, Senedd newydd ond tybed a fydd Llywodraeth newydd?
Mae Llywodraeth Cymru wedi codi prisiau tocynnau trên i deithwyr yng Nghymru gan 4.6%. Golyga hyn fod tocynnau trên, ar gyfartaledd, 4.6% yn ddrytach ers 2 Mawrth 2025, pan gyflwynwyd y newid hwn.
Er bod y cynnydd cyffredinol o 4.6% yn cyd-fynd â chynnydd Llywodraeth DU i drafnidiaeth yn Lloegr, mae Trafnidiaeth wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru sy’n golygu eu bod wedi gallu cyflwyno cynnydd gwahanol i gynhyrchion gwahanol.
Mae tocynnau unffordd unrhyw adeg o’r dydd (anytime day single) wedi cynyddu 3% tra bod prisiau tocynnau tymor 7 diwrnod wedi cynyddu 3.5% gyda thocynnau dwyffordd unrhyw adeg o’r dydd (anytime day return) a thocynnau dwyffordd ar adegau tawel (off-peak) wedi cynyddu 6%.
Mewn datganiad, mae Llywodraeth Cymru wedi esbonio fod yn rhaid cyflwyno’r cynnydd prisiau i sicrhau fod Trafnidiaeth Cymru yn gallu derbyn “digon o refeniw i dalu eu costau cynyddol a lleihau cymorthdal [gan y Llywodraeth].”
Serch hynny, nid yw pawb yn gefnogol o’r newidiadau, yn enwedig myfyrwyr.
“rhwystredig iawn”
Mae Rhodri Jones yn dod o Ogledd Cymru ac yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, dywedodd ei fod yn “rhwystredig iawn gweld bod cynnydd mewn prisiau tocynnau trên.”
“Efo’r prisiau’r cynyddu, buasech yn disgwyl gwasanaeth o’r radd flaenaf; ond nid dyma’r achos efo’r daith fyny i’r gogledd... mae’n debyg mai aros yng Nghaerdydd fydda i am weddill y tymor a mynd amser llawer hirach na hoffwn i heb weld fy nheulu adref” meddai wrth Gair Rhydd.
“dibynnu llawer ar y trên”
Mae Megan Williams yn astudio Troseddeg a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Caerdydd ac wrth siarad â Gair Rhydd, esboniodd ei bod yn ddibynnol ar wasanaethau trenau i deithio adref.
“wrth i'r prisiau cynyddu a bydd hyn yn neud hi’n anoddach symud o gwmpas y ddau le heb dorri i mewn i wariant hanfodol eraill fel bwyd a deunyddiau astudio” meddai.
Yn ôl Megan, credai y byddai’n golygu bydd rhai yn penderfynu peidio mynychu’r campws mor aml gan arwain at “effaith negyddol ar ddigwyddiadau academaidd sy’n allweddol i'w profiad dysgu.”
Y teimlad yn gyffredinol ymysg myfyrwyr yw byddai’r codiad mewn prisiau tocynnau yn arwain at fwy o straen ariannol ar gyllideb myfyrwyr mewn cyfnod lle mae ffioedd dysgu yn codi a chaledi ariannol yn gyffredin ymysg myfyrwyr.
Toc ar ôl y Nadolig, bues i’n lwcus i sgwrsio â Takeshi Koike sydd yn dysgu Cymraeg yn Japan ar ôl iddo ddysgu’r iaith pan oedd yn astudio yng Nghymru yn 1992.
Yn 1992, daeth Takeshi i Gymru a Phrifysgol Llanbed lle ddysgodd yr iaith Gymraeg gan fod ganddo ddiddordeb mewn cerddoriaeth.
Wrth siarad â Gair Rhydd, soniodd ei fod yn dysgu’r Gymraeg i fyfyrwyr ifanc fel rhan o fodiwl ‘Cymru : ei diwylliant a’i hiaith’ ers iddo ddychwelyd i Japan.
“Nes i sylweddoli bod llawer o bobl o Gymru yn byw yn Japan”
Ar ôl dychwelyd i Japan, sylweddolodd bod nifer o Gymry yn byw yn Japan a daeth yn ymwybodol o Gymdeithas Dewi Sant yn Tokyo. “Cwrddais â dyn o Abertawe a dechreuon ni ddysgu Cymraeg i bobl mewn caffis, ysgolion, unrhyw le yn Tokyo!” dywedodd wrth Gair Rhydd.
“iaith ddiddorol”
Bu’n dysgu Cymraeg i drigolion Tokyo oedd â diddordeb yng Nghymru a bellach mae’n dysgu dros 25 o fyfyrwyr ar ei fodiwl ym Mhrifysgol Tokyo.
Wrth sôn am ei brofiadau yn dysgu Cymraeg i drigolion Japan, soniodd am stori un myfyriwr a ddaeth i Brydain i ddysgu Saesneg ac yna ymweld â Chymru gan sylweddoli pa mor fyw yw’r iaith yng Nghymru.
Mewn e-bost at Takeshi, dywedodd y myfyriwr “nawr dwi’n gweld yr iaith Gymraeg yn fyw, dwi’n deall pam [fod Takeshi mor awyddus i ddysgu Cymraeg]”. “Wrth ddarllen yr e-bost, teimlais yn falch” meddai Takeshi Koike wrth Gair Rhydd.
“allwedd diwylliant Cymru yw’r iaith”
Dywedodd fod “rhaid ymweld â Chymru i ddeall rhinwedd y diwylliant” a bod siarad Cymraeg wrth ymweld â Chymru yn “cyfoethogi’r daith”.
Mae Takeshi yn gweithio ar gynnwys ar-lein wrth wneud clipiau fideo i ddysgu sut i ynganu llythrennau’r wyddor Gymraeg ac yn gobeithio gwneud mwy o glipiau i helpu pobl ar draws y byd i ddysgu Cymraeg!
Mae’n bum mlynedd ers i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd ac ar y 31ain o Ionawr, cynhaliwyd digwyddiad gan sefydliad ‘Cymru dros Ewrop’ yn adeilad Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd a oedd yn edrych ar gyflwr Cymru pum mlynedd ymlaen.
Roedd siaradwyr y digwyddiad yn cynnwys y Prif Weinidog, Eluned Morgan, Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ynghyd â sgwrs banel gan wleidyddion.
Yn ystod y sesiynau amrywiol, trafodwyd ystod o bynciau gan gynnwys ystadegau gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a’r cyfleoedd mae pobl ifanc wedi eu colli yn sgil Brecsit.
Un o’r pryderon oedd anallu pobl ifanc i deithio o dan gynllun ‘Erasmus’ a mewn ymateb mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun ‘Taith’ i roi cymorth ariannol i bobl ifanc i deithio.
Cynrychiolydd Plaid Cymru ar y panel trafod oedd yn cloi’r digwyddiad oedd yr AS Adam Price. Wrth siarad â Gair Rhydd, dywedodd fod “barn gyhoeddus yn gallu newid a dyma yn hanfod democratiaeth.”
“ma Plaid Cymru o blaid Cymru yn Ewrop ac i ni eisiau cyrraedd nôl yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd cyn gynted ag sy’n bosib... y llwybr hoffen i weld ydy i Gymru dychwelyd [i’r Undeb Ewropeaidd] fel gwlad anibynnol.”
“heb fod ein pobl ifanc ni’n ffynnu, does na ddim dyfodol i Gymru gyfan”
“dwi’n credu fod y gynhedlaeth iau yn cael y ddêl waethaf ar hyn o bryd... mae angen dwi’n credu gweithredu ar egwyddogion dyn ni fel gwlad wedi gosod mewn statud gyda Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Ar hyn y bryd, fi’n credu dyn ni’n bradychu dyfodol ein pobl ifanc ni” meddai.
Trwy gydol y digwyddiad roedd ‘na bryder clir am dwf yr adain dde gydag amlygrwydd yr AFD yn yr Almaen, Marine Le Penn a’r Front National yn Ffrainc a Reform UK yn y Deyrnas Unedig.
“fi’n credu y ffordd gorau i ymateb i dwf yr adain dde eithafol yw i gynnig rhaglen gobeithiol sydd yn ailennill ffydd ac ymddiriedaeth pobol mewn gwleidyddiaeth”
Ychwanegodd mai’r “hyn sydd gyda ni sydd yn wahanol i’r adain dde, dyn ni yn cynnig gwelediaeth gobeithiol. Dych chi ddim yn cal hwna gyda’r adain dde sydd, at ei gilydd, yn taflu sen at bobl eraill sy’n apelio ar sail agweddau negyddol”
Mae S4C wedi cyhoeddi y byddai Geraint Evans yn ymgymryd â rôl Prif Weithredwr y sianel yn barhaol ar ôl cyfnod cythryblus i’r sianel. Penodwyd Geraint Evans yn Brif Weithredwr Dros Dro’r sianel ym mis Ebrill 2024 am chwe mis ac ar Dachwedd 12fed 2024 cyhoeddwyd ei fod wedi ei benodi’n barhaol.
Tan iddo symud i S4C yn 2019, bu Geraint Evans yn newyddiadurwr gyda ITV Cymru am 25 mlynedd. Symudodd i S4C i ymgymryd â rôl Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes a fu tu ôl i sefydliad gwasanaeth newyddion digidol S4C cyn iddo ddod yn Gyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi yn 2023.
“wir yn fraint”
Dywedodd Geraint Evans ei bod yn “fraint” i gael ei benodi’n Brif Weithredwr parhaol ar y sianel mae wedi “gwylio a chynhyrchu cynnwys iddi ar hyd fy ngyrfa”.
“Mae gan S4C rôl allweddol i'w chwarae i alluogi pobl i fyw eu bywydau drwy'r Gymraeg, i ddenu siaradwyr newydd ac i gynnal y Gymraeg fel iaith fyw a pherthnasol”.
Daeth ei benodiad fel Prif Weithredwr Dros Dro’r sianel am chwe mis yn sgil ymddiswyddiad Sian Doyle ym mis Tachwedd 2023 yn dilyn ymchwiliad i ddiwylliant y sianel a ddaeth i’r casgliad bod ei harweinyddiaeth yn “unbenaethol” a’i bod hi’n “creu diwylliant o ofn”. Arweiniodd hyn at ymddiswyddiad Cadeirydd y sianel, Rhodri Williams ym mis Mawrth 2024 gyda Guto Bebb yn ymgymryd â’r rôl Dros Dro.
“arweinydd naturiol all uno staff a rhanddeiliaid”
Wrth ymateb i benodiad parhaol Geraint Evans fel Prif Weithredwr, dywedodd Guto Bebb y bydd Geraint Evans yn dod â “chyfoeth o brofiad a dealltwriaeth am y diwydiant yma yng Nghymru a thu hwnt i'w swydd newydd”.
“Fel y cyfarwyddwr sydd wedi bod yn arwain ar ddatblygiad digidol y sianel, mae ganddo weledigaeth glir o'r llwybr sydd angen i S4C i'w gymryd os am sicrhau dyfodol llewyrchus” meddai.
Ar ei benodiad, soniodd Geraint Evans am yr heriau sy’n wynebu’r sianel tua’r dyfodol hefyd.
“Wrth i'n harferion gwylio newid, mae'n hanfodol bod S4C yn newid - ac yn denu, yn ysbrydoli ac yn diddanu ein cynulleidfaoedd, ar ba bynnag blatfform maen nhw'n dewis gwylio” meddai.
“angerdd a gweledigaeth o gael sianel sy'n gwasanaethu Cymru gyfan."
I gloi, dywedodd ei fod yn “edrych ‘mlaen at yr her, gan wybod bod timau talentog a chreadigol yma'n S4C, yn y sector gynhyrchu ac ymhlith ein rhanddeiliaid allanol”.
Mae disgwyl i Geraint Evans ddechrau ar ei rôl fel Prif Weithredwr ym mis Ionawr 2024 gyda Sioned Wiliam yn parhau fel Prif Weithredwr Dros Dro yn y cyfamser.
Er mwyn lleihau’r nifer o geir ar heolydd Caerdydd, mae Cyngor y ddinas wedi cyflwyno cynlluniau i atal myfyrwyr rhag ymgeisio am drwyddedau parcio.
Mae gan fyfyrwyr bryderon am eu gallu, yn sgil y cynlluniau, i fynychu profiadau gwaith sydd ymhell o’u tai. Ond, mae Cyngor Caerdydd yn mynnu y byddai’r cynllun yn galluogi i breswylwyr llawn-amser gael mwy o fynediad at lefydd parcio.
Byddai’r cynlluniau yn golygu na fydd hawl gan fyfyrwyr ymgeisio am drwyddedau parcio i breswylwyr gan eu gadael heb le i barcio neu i wynebu costau uwch i barcio mewn meysydd parcio.
“Ein Dinas, Ein Parcio”
Mewn e-bost at fyfyrwyr, mae llywydd yr Undeb Myfyrwyr yn galw ar Gyngor Caerdydd i “ollwng y gwaharddiad parcio myfyrwyr” gan alw ar fyfyrwyr sy’n “gwerthfawrogi hygyrchedd” i leisio eu barn.
Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi lansio deiseb yn galw ar Gyngor Caerdydd i roi stop ar gynlluniau i atal myfyrwyr rhag barcio yn y ddinas â thrwydded.
“Mae’n siom gweld myfyrwyr yn cael eu dynodi fel grŵp nad sydd, yn ôl pob golwg, yn haeddu mynediad cyfartal at wasanaethau”.
“mae cael lle [parcio] yn bwysig”
Wrth siarad â Gair Rhydd, dywedodd Beca Parry, myfyriwr Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ei bod yn “defnyddio car lot – oleia’ dwy i dair gwaith yr wythnos”.
“Mae gen i ymarferion pêl-rwyd sydd ddim yn agos iawn a gyda placements, meddylias bysa fo’n handi”, meddai.
Mae Beca yn chwarae pêl-rwyd i Gymru a dywedodd ei bod hi’n hanfodol “gallu bod ar amser” gan ddweud ei bod hi’n gwybod am rai sy’n “gyrru i ymarferion yn gynnar yn y bore- o 6:45yb ‘mlaen”.
“Byddwn i’n dweud wrth y cyngor i ystyried yr effaith ar gostau myfyrwyr”, meddai wrth Gair Rhydd gan fod peidio cael car i rai, yn golygu gorfod talu pris cynyddol am Uber yn y ddinas.
“parcio ar draws y ddinas wedi dod yn broblem gynyddol i lawer o breswylwyr”
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Newid Hinsawdd a Thrafnidiaeth Cyng. Dan De-Ath, bod y "gallu i gymudwyr ddod i barcio yn y ddinas am ddim yn arwain at lygredd aer a thagfeydd, gyda’n preswylwyr ni yn dioddef.”
"Mae'r cynllun parcio newydd ar gyfer Caerdydd yn bwriadu rhoi mynediad gwell i breswylwyr, deiliaid bathodynnau glas, clybiau beiciau a cheir a busnesau lleol i barcio trwyddedau ar y stryd”.
Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i leihau’r ddibyniaeth ar geir preifat ac annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.
“annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad”
Mae 15% o’r ymatebion hyd yma yn ymatebion gan fyfyrwyr ond mae’r cyngor yn galw ar bawb i ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus, fydd yn agored tan y cyntaf o Ragfyr. Does dim disgwyl i unrhyw newidiadau gael eu gweithredu tan Hydref 2026.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi gwrthod galwad Llafur i gefnogi ei chyllideb yn y Senedd heb drafodaeth am y swm dyledus HS2 i Gymru.
Mae gofyn i Lywodraeth Cymru dderbyn cefnogaeth oleiaf un plaid arall yn y Senedd er mwyn cadarnhau ei chynllun gwariant gan mai 30 (50%) o seddi sydd ganddynt ym Mae Caerdydd.
Ond, gall hyn fod yn anoddach na’r disgwyl ar ôl i Blaid Cymru dynnu ei chefnogaeth heb sicrwydd buddsoddiad teg i Gymru, sy’n cynnwys y ffrae barhaus dros ddyled HS2 i Gymru.
Dynodir cynllun HS2 sef gwasanaeth rheilffordd uwchraddedig rhwng canolbarth Lloegr a Llundain yn gynllun ar gyfer ‘Lloegr a Chymru’ a hynny er nad oes troedfedd o drac yn dod i Gymru. Yn sgil hyn, dydy Cymru ddim yn cael dim un ceiniog ychwanegol i’w chyllideb.
Daeth sylwadau Rhun ap Iorwerth yn ystod ail ddiwrnod cynhadledd y blaid yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd. Cyhuddodd Arweinydd Plaid Cymru y Lywodraeth Lafur yng Nghymru dan arweinyddiaeth Eluned Morgan o ‘roi’r ffidl yn y tô ar sefyll dros Gymru’ er mwyn osgoi sefyllfa o embaras i’r Prif Weinidog, Sir Keir Starmer.
Yn ystod cynhadledd Plaid Cymru, bu’r pwyslais mawr ar etholiad Senedd Cymru fydd yn cael eu cynnal yn 2026 gan gyflwyno ei hun fel llywodraeth sy’n aros. Ychydig o amser yn ôl bu’r Blaid yn y Cymmoedd ar gyfer “cenhadledd y Cymmoedd” yn Mhontypridd wrth i arweinydd y blaid ddatgan eu bod yn “ffocysu tipyn ar y Cymmoedd” er mwyn denu pleidleiswyr newydd i’r blaid.
Roedd agwedd gobeithiol ac angerdd y genhadledd yn amlwg a’r momentwm yn uchel wrth i ni gamu i gyfnod gwleidyddol newydd yng Nghymru sydd yn arwain at yr etholiad ymhen dwy mlynedd. Mae hyn yn dilyn llwyddiant y blaid yng nghymunedau Arfor, yn ennill pedair sedd yn etholiad Senedd y DU yn gynt eleni.
Ond, mae wedi cael ei bwysleisio yn ddiweddar am broblem mwyaf y blaid, sef a oes y gallu ganddynt i ddenu Cymry ddi-Gymraeg i bleidleisio dros y blaid? Amser a ddengys a gallai Plaid Cymru symud o’r wedd o fod yn ‘Party for Welsh-Speakers’ i ‘Party of Wales’ yng ngwedd y pleidleiswyr sydd yn methu siarad yr iaith Gymraeg.
Calls to shrink the pint to reduce UK’s alcohol intake and boost Britt’s health.
Fresher’s week is over but the talk on pints continues following a recent study by Cambridge University which called on the Government to stop serving beer in pints to reduce the UK’s alcohol intake.
According to the study, removing pint glasses could reduce beer sales by up to 10%, and the UK could see wider public health benefits. Currently, alcohol is the fifth largest contributor to early death and disease across the world and was estimated it caused 3 million deaths worldwide in 2016.
The report estimates that removing the pint glass would mean a 9.7% decrease in the mean volume of beer, lager and cider sold daily. The study was undertaken in 13 pubs in England where two-thirds of a pint was served during a period of 4 weeks between February and May 2023.
During the same period, the study researched the effects of removing the largest measurement of wine (250ml), but found no evidence that it decreased alcohol consumption to the same extent as introducing two-thirds pints.
What are governments doing already?
In Scotland, the tax on alcohol has just increased to 65p from 50p meaning that the minimum charge for alcohol is 65p. Since 2020, Wales has introduced a 50p tax on alcohol; in England, the tax depends on the alcoholic volume.
What’s the plan?
If these recommendations are taken further, the UK might shrink the pint size to two-thirds of a pint. Smaller-sized pints aren’t unheard of, however, with Australia’s popular schooner which measures 425ml. Truly, the UK’s 568ml pint is among the largest servings in the world as Germans prefer a 500ml measure, French favour a 330ml measure and Belgium 250ml. Even the US pint size is smaller at 473ml.
Professor Dame Theresa Marteau, the professor leading the Behaviour and Health Research Unit at Cambridge University stated that “the less we drink [alcohol] the better our health”. She insisted shrinking ‘pint’ sizes would be “beneficial both to the nation’s health and the health of individuals”.
It is stressed, at this time, this is only a recommendation and is not due to be implemented soon (if at all) but there are many questions to be answered before justifying this change. Will a third of a pint less help the UK curb alcohol consumption?