Mae Ifan yn ohebydd cyson i wefan fro Clonc360 yn ei ardal enedigol, Llanbed ac yn gweithio fel Newyddiadurwr Llawrydd i Newyddion S4C ers mis Awst 2025. Mae hefyd wedi cael ei gynnwys mewn amrywiaeth o straeon ac yn golofnydd ar raglen 'Prynhawn Da'. Roedd Ifan yn rhan o dîm sefydlodd Radio Bro Pedr yn ei ysgol, Ysgol Bro Pedr yn 2023. Daw ei elfen chwilfrydig yn fyw mewn amrywiaeth o bynciau, boed Gwleidyddiaeth, Materion Cyfoes neu Chwaraeon. Ar ôl astudio Gwleidyddiaeth, Daearyddiaeth, Cymraeg a Dylunio Cynnyrch ynghyd â'r Fagloriaeth Gymraeg i Lefel A, mae Ifan yn astudio Newyddiaduraeth a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd. lle mae'n cyfrannu'n gyson i bapur myfyrwyr Gair Rhydd.
1af- Cystadleuaeth Newyddiaduraeth 16-21 oed Urdd 2024
Gwobrau Cyfryngau Cymru 2023 : Newyddiaduraeth Cymunedol y Flwyddyn - Clonc360
Gohebydd mwyaf addawol Bro360 2023
2il- Cystadleuaeth Newyddiaduraeth 16-21 oed Urdd 2022, 2023
Mae Ifan yn cyfrannu i raglenni radio BBC Radio Cymru gan gynnwys Dros Frecwast a Dros Ginio ynghyd â rhaglen 'Prynhawn Da'. Bu hefyd yn rhan o becynnau newyddion ar gyfer Newyddion S4C. Mae hefyd wedi cyfrannu at Golwg360.
Hynt a helynt Peilonau Dyffryn Teifi : Ar ôl ymgynghoriad, ymddangosodd nifer o dirfeddianwyr o flaen Llys Ynadon Llanelli mewn anghydfod â Green Gen Cymru.
Mae Takeshi Koike yn dysgu Cymraeg i fyfyrwyr yn Tokyo, Japan ar ôl dysgu'r iaith yn Llanbed yn 1992.
Protestiadau yn erbyn cynlluniau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i adleoli cyrsiau o Llanbed i Gaerfyrddin.
Name of presentation
Name of project
Name of video