CYNNYDD DIGIDOL
Hyrwyddo a chefnogi datblygiad 'Cymhwysedd Digidol' Ysgolion Cynradd.
Datblygiad Proffesiynol Staff ar lawr y dosbarth.
Heulyn Roderick
CEFNDIR
Wedi addysgu, rheoli, cefnogi ac ymgynghori mewn ysgolion yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin am dros 30 mlynedd, rwyf yn awr wedi sefydlu 'Cynnydd Digidol'.
BETH YW'R NOD?
Darparu Datblygiad Proffesiynol o safon uchel i athrawon a staff cynorthwyol, yn y lleoliad lle mae'n cyfri, sef ar lawr y dosbarth.
Hyrwyddo datblygiad sgiliau llythrennedd a rhifedd disgyblion drwy ddefnydd blaengar ac ysgogol o adnoddau / meddalwedd digidol.
Darparu gweithgareddau cyfoethog sy'n atgyfnerthu gofynion ac egwyddorion y Cwricwlwm Cymreig a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol o fewn Cwricwlwm i Gymru.
Cynnig hyfforddiant sydd wedi ei deilwra'n benodol ar gyfer anghenion unigryw eich ysgol.
AR GYFER PWY?
Staff a Disgyblion - Cam cynnydd 1, 2 a 3
DBS Cyfredol - Gwiriad Manwl y Swyddfa Cofnodion Troseddol