Cwricwlwm i Gymru

Gweledigaeth Ysgol Ardudwy

O fis Medi 2023 bydd disgyblion Blwyddyn 7 & 8 yn dechrau astudio Cwricwlwm Newydd i Gymru. Golyga hyn ein bod fel cymuned ysgol angen sicrhau bod ein gweledigaeth yn diffinio'n glir yr hyn yr hoffem ei ddarparu ar gyfer ein dysgwyr.

Rydym yn awyddus iawn i'ch cynnwys ar ein taith i gynllunio cwricwlwm newydd ac yn barod i wrando ar unrhyw awgrymiadau, sylwadau neu gyfraniadau perthnasol sydd gennych.

Canolbwynt gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw'r dyhead i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru wireddu'r pedwar diben, a datblygu'n:

ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes

cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith

dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd

unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Gwyliwch y fideos yma sy'n disgrifio ychydig am y Cwricwlwm i Gymru:

Dyma ddogfen cryno sy'n disgrifio'r Cwricwlwm i Gymru.

220209-canllaw-i-rieni.pdf

Gweledigaeth Ysgol Ardudwy

DYSGU GYDA'N GILYDD AR GYFER DYFODOL GWELL

Nod Ysgol Ardudwy yw ysbrydoli, ysgogi a gofalu am bob aelod o’n cymuned gynhwysol. Byddwn fel tîm yn gweithio gyda’n gilydd tuag at yr un amcan, sef creu amgylchedd hapus sy’n datblygu dysgwyr gwydn, iach a llwyddiannus.

Anela’r ysgol at sicrhau bod pob unigolyn yn cael cyfleon cyfartal ac yn arddel disgwyliadau uchel o ran safonau ac ymdrech er mwyn cyflawni eu potensial. Manteisiwn ar bob cyfle i ddatblygu hunan-barch a pharch at eraill, lles personol, hyder a dyfalbarhad gan arfogi ein plant i fod yn ddisgyblion cyfrifol, ymholgar, creadigol ac uchelgeisiol.

Ceisiwn ddarparu cwricwlwm hygyrch sy’n seiliedig ar egwyddorion moesol cryf sy’n deg i bawb. Cynigiwn brofiadau cyfoethog, eang ac ysbrydoledig gyda chyfleoedd ar gyfer arloesi, bod yn greadigol, meddwl yn feirniadol a datrys problemau. Byddwn yn creu sefyllfaoedd dysgu apelgar drwy ddarparu amodau ac adnoddau i ddysgwyr ddysgu drwy amrywiaeth o ddulliau gan ddatblygu annibyniaeth, meithrin sgiliau digidol, y gallu i weithio’n effeithiol fel tîm a’u hawydd i fod yn ddysgwyr gydol-oes.

Ymfalchïwn yn ein cyfraniad i’r ardal a’i diwylliant ac i gynaliadwyedd ein byd. Anelwn at gydweithio gyda rhieni a gofalwyr ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ac anogaeth iddyn nhw. Dathlwn ein Cymreictod a’n gallu i ddatblygu ein disgyblion i fod yn ddinasyddion gwybodus, dwyieithog a hyderus.