MAE BLOC COMEDI DAL YN DIGWYDD - AM NAWR! GWIRIWCH TWITTER NEU INSTAGRAM I WELD BETH SYDD YMLAEN.
Beth yw Bloc Comedi?
Noson gomedi Gymraeg rheolaidd newydd sbon fydd yn arddangos y talent stand-yp gorau sy'n bodoli yn y Gymraeg ar hyn o bryd. Ond yn bwysicach, fydd hefyd yn darparu cyfle i roi cynnig ar stand-yp am y tro cyntaf. Ym mhob un o'r nosweithiau bydd yna dri slot "open mic", o bum munud yr un, ar gael i unigolion fedru rhoi cynnig ar ddweud jôcs o flaen cynulleidfa gefnogol, neu i gomedïwyr presennol i ymarfer deunydd newydd.
Mi fydd nosweithiau bloc comedi Nos Wener olaf pob mis am 7.30yh i gychwyn am 8yh. Maent am ddim, ond bydd cyfle i adael cyfraniad mewn bwced ar ddiwedd y noson os yn haeddiannol
Os hoffech gysylltu am slot 'open mic' anfonwch e-bost at blocComedi@gmail.com
Dywedodd Esyllt Sears, comedïwr stand-yp ac ysgrifennwr, a sylfaenydd noson Bloc Comedi: "Mae'r sîn gomedi Gymraeg yn mynd trwy gyfnod cyffrous iawn, gyda gigiau stand-yp yn cael eu cynnal bob wythnos ledled y wlad. Ein nod ni gyda'r noson newydd hon yn Bloc Coffee yw arddangos y talent sy'n bodoli'n barod ond hefyd i roi cyfle i unigolion sy di ffansïo rhoi cynnig ar stand-yp i wneud hynny mewn awyrgylch cefnogol, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Pan ddechreuais i wneud stand-yp, doedd yna ddim cyfleoedd "open mic" trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae'r rhan fwyaf o gomedïwyr Cymraeg dwi'n nabod wedi dechrau ar eu gyrfa stand-yp yn y Saesneg. Ond dwi'n sicr y bydd sawl person allan yna fyddai'n fwy hyderus a chyfforddus yn perfformio eu set gyntaf yn y Gymraeg ac ry'n ni'n edrych ymlaen yn fawr i'w croesawu nhw."