Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig:
Mae cydberthnasau iach yn hanfodol ar gyfer ein lles
Cyfres o sesiynau amser cylch i drafod hawliau a chydberthnasedd drwy ddefnyddio stori Branwen fel sbardun cyn ymestyn y drafodaeth i gynnwys materion personol i'r dysgwyr. Trafodwyd: ymateb Nisien i'r briodas, triniaeth Matholwch o Branwen, rol "ffrindiau/ cynghorwyr" Matholwch yn hynny, hawliau pobl gwahanol yn y gymdeithas e.e. morwynion, aelodau'r llys
Hawliau a Chyfrifoldebau: Rwy'n gallu parchu hawliau pobl eraill a deall sut y maen nhw'n effeithio arnaf i ac ar eraill.
Rheoli Cydberthnasau: Rwy'n gallu myfyrio ar nodweddion cydberthnasau diogel, ac yn gallu gofyn am gymorth pan mae angen.
Deall Cydberthnasau: Rwy'n gallu deall bod amrywiaethau o fewn gwahanol fathau o gydberthnasau, a'u bod yn newid dros amser.