Cefnforoedd
Hanfod y Dysgu
I ddysgu am bobl lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sydd wedi creu argraff ar y ddynoliaeth a’r byd.
I fod yn uchelgeisiol yn bywydau er mwyn cyrraedd eu breuddwydion.
I adeiladu eu lles meddyliol ac emosiynol trwy ddatblygu hyder, cadernid ac empathi er mwyn derbyn bod rôl yn y byd i bawb.
Cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n:
cysylltu a chymhwyso eu gwybodaeth a'u sgiliau i greu syniadau a chynhyrchion;
meddwl mewn ffordd greadigol i ail-lunio a datrys problemau;
nodi ac yn cymryd mantais o gyfleoedd;
mentro’n bwyllog;
medru arwain a chyfrannu i dîm mewn ffordd effeithiol a chyfrifol;
mynegi eu syniadau ac emosiynau trwy gyfryngau gwahanol;
rhoi eu hegni a'u sgiliau fel y gall eraill elwa ac yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
Dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n:
darganfod, gwerthuso a defnyddio tystiolaeth wrth lunio barn;
ymgysylltu â materion cyfoes yn ôl eu gwybodaeth a'u gwerthoedd personol;
ymarfer a deall eu cyfrifoldebau a'u hawliau dynol a democrataidd;
deall ac ystyried effaith eu gweithredoedd wrth wneud dewisiadau a gweithredu;
wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a'r byd, yn awr ac yn y gorffennol;
parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas;
yn dangos eu hymrwymiad i gynaladwyaeth y blaned ac yn barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd.
Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n:
gosod safonau uchel i’w hunain, yn edrych am ac yn mwynhau her;
adeiladu sylfaen o wybodaeth ac yn meddu’r sgiliau i gysylltu a chymhwyso'r wybodaeth honno o fewn testunau gwahanol;
holi ac yn mwynhau datrys problemau;
gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, gan ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg;
gallu esbonio'r syniadau a'r cysyniadau maen nhw'n eu dysgu;
yn gallu defnyddio rhif yn effeithiol mewn gwahanol gyd-destunau;
defnyddio technolegau digidol yn greadigol i gyfathrebu, darganfod a dadansoddi gwybodaeth.
ymgymryd ymchwiliadau ac yn gwerthuso'n feirniadol yr hyn maen nhw'n ei ddarganfod ac yn barod i ddysgu trwy gydol eu bywydau.
Unigolion iach, hyderus sy'n:
meddu ar werthoedd cryf ac yn sefydlu eu credoau moesol ac ysbrydol;
adeiladu eu lles meddyliol ac emosiynol trwy ddatblygu hyder, cadernid ac empathi;
cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer corff ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywydau bob dydd;
gwybod sut i ddod o hyd i'r wybodaeth a'r gefnogaeth i gadw'n ddiogel ac iach;
yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol;
gwneud penderfyniadau rhesymol yn eu ffordd o fyw, ac yn medru rheoli risg meddu ar yr hyder i gymryd rhan mewn perfformiadau;
ffurfio perthnasau cadarnhaol yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd
wynebu ac yn goresgyn heriau;
meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth i reoli eu bywydau bob dydd mor annibynnol ag sy’n bosibl;
barod i arwain bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.