Cwricwlwm i Gymru

Ysgol Cei Newydd

Mae’r Cwricwlwm yn newid yng Nghymru a bydd y newid hwn yn dod i rym ym Medi 2022.

Mae 'r ysgol wedi cydweithio gydag ysgolion clwstwr Aeron i greu Cwricwlwm cyffrous newydd sy'n rhoi ein plant a'n ardal yn ganolbwynt.

Rydym yn falch iawn o allu rhannu'r sylfeini a’n dyheadau ar gyfer pob disgybl yn Ysgol Cei Newydd gyda chi. Mae ein datganiad cenhadaeth, gweledigaeth a nodau'r cwricwlwm wedi'u creu mewn partneriaeth ac yn eiddo i'n plant, staff, llywodraethwyr a rhieni.

Ein Gweledigaeth

Mae Ysgol Cei yn unedig, yn un teulu mawr. Mae teulu ein hysgol yn gweithio tuag at yr un amcan sef i greu amgylchedd hapus, cartrefol a chefnogol.

Mae’n gymuned ddiogel a chynhwysol lle mae gan bob plentyn yr hawl cynhenid i ddysgu ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n gilydd i ddarparu cwricwlwm ysbrydoledig a heriol gan sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi, yn ffynnu ac yn cyrraedd ei lawn botensial.

Yn ganolog i’n cwricwlwm cynhwysol mae ein hymrwymiad i ddatblygu meddylfryd a pherthnasoedd cadarnhaol sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a chefnogaeth ar y cyd er mwyn i bawb gyflawni a llwyddo mewn bywyd.

Mae gennym ddisgwyliadau uchel o ran safonau ac ymdrech ond mae’r un disgwyliad o garedigrwydd, gonestrwydd a pharch. Bydd ein cwricwlwm yn datblygu sgiliau annibynnol a chydweithredol a fydd yn galluogi plant i ddod yn feddylwyr moesol ac yn unigolion hyderus a mentrus gan roi cynnig ar bethau a pheidio â chael eu trechu gan gamgymeriadau ond yn hytrach i addasu ac i ddyfalbarhau.

Mae ein diwylliant, ein treftadaeth a’n hanes fel Cymry yn ganolog i’r cwricwlwm a’r nod yw trwytho’r disgyblion er mwyn sicrhau eu bod yn ymfalchïo yn eu Cymreictod. Byddwn bob amser yn ganolbwynt balch a gweithgar o fewn y gymuned.

Ein nod yw hybu pwysigrwydd byw bywyd iach a thrafod pryderon amgylcheddol gan annog ein dysgwyr i ofalu am yr amgylchfyd a’u datblygu’n ddinasyddion cyfrifol a meddylgar sydd â dealltwriaeth gref o Hawliau Plant a’u cyfrifoldebau personol.

Trwy gwricwlwm perthnasol a phwrpasol, rydym am sbarduno eu chwilfrydedd ac am danio angerdd at ddysgu.

Mae yna lawer o agweddau amrywiol i ystyried wrth ddylunio’n cwricwlwm newydd:

Y Pedwar Diben

Pwrpas cwricwlwm yw galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:

  • dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau;

  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;

  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd;

  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Y Meysydd Dysgu a Phrofiad

Rhaid i'r chwe maes dysgu a phrofiad canlynol gael eu hadlewyrchu mewn cwricwlwm a fabwysiedir.

  • Y Celfyddydau Mynegiannol;

  • Iechyd a Lles;

  • Y Dyniaethau;

  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu;

  • Mathemateg a Rhifedd;

  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg.


Fe fydd sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd digidol yn cael eu haddysgu ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad.

Elfennau Gorfodol Cwricwlwm

Yn ogystal â’r uchod, bydd y canlynol yn elfennau gorfodol o gwricwlwm.

  • Crefydd, gwerthoedd a moeseg;

  • Addysg cydberthynas a rhywioldeb;

  • Cymraeg;

  • Saesneg.

Ein Penodau Dysgu

Tymor yr Hydref 2022

Tymor y Gwanwyn 2023

Tymor yr Haf 2023

Tymor yr Hydref 2023

Tymor y Gwanwyn 2024

Tymor yr Haf 2024

Cyflwyniad i'r Cwricwlwm Newydd