Magi, Betsi, Gruff, Nedw, Megan
"Ni yw'r Criw Cymraeg yma yn Ysgol Bro Elwern. Rydym yn falch o gael ein dewis i fod ar y pwyllgor gan ei bod yn rôl bwysig yma yn yr ysgol. Nid yn unig mae'n bwysig i ni fod pawb yn siarad Cymraeg, ond rydym hefyd yn hyrwyddo'r Gymraeg yn yr ysgol, gartref ac yn y gymuned. Mae'r Gymraeg yn bwysig iawn i ni i gyd ac fel pwyllgor mae gennym gyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod pawb yn yr ysgol yn hydeurs wrth siarad yr iaith, bod pawb yn ei pharchu ac yn hyrwyddo'r neges ei fod yn anrhydedd ac nid yn fwrn."
Rydym wedi bod yn edrych ar adroddiadau holiaduron Siarter Iaith ein hysgol ac wedi nodi rhai meysydd yr ydym am eu targedu.
1. Annog mwy o ddysgwyr i ffrydio rhaglenni a fideos yn Gymraeg
2. Annog defnydd o apiau Cymraeg
3. Cynyddu'r nifer sy'n gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn yr ysgol a thu allan i'r ysgol
Dyma'r Criw Cymraeg yn dylunio gwefan newydd Siarter Iaith Ysgol Bro Elwern
Cawsom ddiwrnod o ddathlu'r Iaith Gymraeg drwy gynnal gemau yn y dosbarth a'r buarth a gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg.
Cafodd dosbarth Tryweryn y fraint o gwrdd â Anni Llyn yn Llyfrgell Rhuthun. Cawsom drafodaeth ar beth sy'n creu stori ffuglen dda ac edrychom ar sgiliau penodol y gallem eu defnyddio ar gyfer ein straeon ein hunain.
Darllenodd ychydig dudalennau o'i llyfr i ni, a chawsom y fraint o dderbyn llyfr wedi'i lofnodi ganddi!
Cafodd Blwyddyn 3 a 4 gyfle i fynd i fwynhau’r hyn oedd gan Glan Llyn i’w gynnig. Aethon ni i ganŵio ar Lyn Tegid, dringo'r wal a rhaffau uchel. Mwynhaodd blwyddyn 3 yn fawr gan mai dyma oedd eu taith gyntaf iddyn nhw aros dros nos.
Eleni, roedd gennym 2 grŵp yn cystadlu yn yr Ornest lyfrau. Roedd yn rhaid iddyn nhw ddarllen y llyfr yn fanwl ac ateb cwestiynau gan y beirniaid. Darllenodd grŵp 5 a 6 Llanddafad grŵp 3 a 4 Gardd Gwenno. Da iawn chi drafod yn annibynnol ac yn ateb y cwestiynau yn fanwl ac yn glir.
Mae Diwrnod y Llyfr yn draddodiad mawr yn ein hysgol lle mae'r plant yn gwneud ymdrech enfawr i wisgo fel cymeriad o'u hoff lyfr. Rydym yn chwarae gweithgareddau ac yn edrych ar awduron penodol sydd wedi cael effaith ar yr iaith Gymraeg.
Fel thema rydym wedi bod yn ymchwilio i Ddŵr, ond yn fwy manwl gywir i foddi Tryweryn. Mwynhaodd y plant yr elfen hon o'r thema yn fawr gan ei bod yn agoriad llygaid. Edrychon ni ar drigolion Capel Celyn, ond hefyd yr effaith a gafodd ar yr Iaith ar ddiwylliant Cymraeg ar y pryd.
Cyn Eisteddfod y cylch gafod plant a oedd yn cystadlu'r fraint i ganu, actio a llefaru o flaen y ddwy ysgol a'i rhieni. Roedd y plant yn wych ac yn hyderus. Braf gweld gymaint wedi trio'r lenni, cymharu â blynyddoedd cynt.
Rhoddodd y llysgenhadon iaith gyflwyniad yn y gwasanaeth. Roedd y criw wedi bod yn arbrofi ac yn ymchwilio i apiau Cymraeg. Ar ôl hyn, creasant daflen gyda'r holl apiau a oedd yn berthnasol ar gyfer plant yr ysgol a rhai a oedd yn dysgu'r Gymraeg. Roedd yna linc i'r 'Appstore' a gwybodaeth am yr ap.
Fel blwyddyn 3, 4, 5 a 6 aethom i'r Ganolfan Grefftau yn Rhuthun i gael gwneud gweithdy cwiltio. Gwnaeth y plant fwynhau'r diwrnod, nid yn unig oeddem ni yn dysgu sut i weu, ond cawsom ni hanes Cymru, edrych ar siapiau gwahanol a chael y cyfle i fynd o gwmpas y ganolfan i edrych ar waith celf dylunwyr eraill.
Fel un o'r targedau, rydym eisiau cynyddu fwy o blant sydd yn gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg. Felly mae dewiniaid digidol wedi gofyn i bawb i ysgrifennu lawr eu hoff gan fel eu bod yn gallu creu rhestr chwarae fel mae pawb yn gallu mwynhau